Gyda chefnogaeth ein Cronfa Ffyniant Gyffredin mae Baked By Jones wedi gallu buddsoddi mewn offer newydd gan wella effeithlonrwydd y pobi a chynyddu’r capasiti i gwrdd â’r galw cynyddol.
I’r perchennog, Rachel Jones, mae’r cyllid wedi rhoi ymdeimlad o ddiogelwch iddi, gan ganiatáu iddi flaen-gynllunio’n hyderus. Mae hi nawr yn gobeithio cyflogi aelod newydd o staff o fewn y flwyddyn nesaf.
Mae ansawdd a phoblogrwydd teisennod Baked By Jones hefyd wedi helpu i adeiladu partneriaethau lleol cryf, gyda’u cynnyrch nawr yn cael eu gweini mewn caffis lleol fel Booths By The Bridge gan gefnogi’r economi lleol ymhellach a chynnal twf busnesau bach.