Gwerth Cymdeithasol

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ymrwymedig i hyrwyddo datblygu cynaliadwy drwy ein polisïau, ein strategaethau a’n gwasanaethau.

Mae ymgorffori gwerth cymdeithasol mewn prosiect neu gontract yn helpu i ddatblygu cymunedau cryfach, lleihau allgáu cymdeithasol a thlodi, ac annog yr economi i ddatblygu. Mae’n ffordd o sicrhau effaith gadarnhaol hirhoedlog ar ein cymunedau, ac yn ein helpu ymhellach i gyflawni ein dyletswydd i gydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 sy’n ei gwneud yn ofynnol i ni geisio gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol y sir ym mhopeth a wnawn.

Yn sgil cyflwyno Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, mae caffael yn gwneud cyfraniad hollbwysig at sicrhau canlyniadau cynaliadwy ac mae’r Cyngor yn ymrwymedig i wreiddio gwerth cymdeithasol yn ei holl arferion a phenderfyniadau prynu. Un o’r ffyrdd allweddol y gall wneud hyn yw drwy fynd ati i wella effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach y nwyddau, gwasanaethau a gwaith y bydd yn eu caffael a’r sefydliadau y bydd yn gwneud busnes gyda nhw.

Diffinnir gwerth cymdeithasol fel effaith gadarnhaol ar bobl leol a chymunedau lleol ac, felly, mae’r Cyngor yn annog contractwyr a chyflenwyr i ystyried yr enghreifftiau canlynol o weithgareddau gwerth cymdeithasol pan ddyfernir contractau iddynt:

Ymgysylltu â’r gadwyn gyflenwi leol er mwyn sicrhau ei bod yn cael budd o gontractau drwy wneud y canlynol:

  • Rhoi blaenoriaeth i fusnesau lleol
  • Cynnig cyfleoedd allweddol o fewn contractau
  • Llunio cynllun cadwyn gyflenwi
  • Creu swyddi drwy’r gadwyn gyflenwi leol a rhanbarthol gan gynnwys busnesau lleol a seilweithiau lleol ac ymgysylltu â fforymau busnes lleol
  • Ymgysylltu â chyflenwyr deunyddiau neu gydrannau lleol
  • Ymgysylltu â gweithgynhyrchwyr a dosbarthwyr lleol
  • Helpu busnesau lleol i uwchsgilio ac amrywiaethu
  • Darparu gwybodaeth am sgiliau, gwybodaeth a llwybrau cynnydd penodol ar gyfer gyrfaoedd yn y sectorau perthnasol
  • Cyfleoedd i gael profiad gwaith a lleoliadau gwaith
  • Cyflwyniadau a gweithdai mewn ysgolion
  • Mynd i ddigwyddiadau gyrfaoedd neu eu trefnu
  • Cydweithio â darparwyr addysg ôl-16 gan gynnwys colegau, prifysgolion a darparwr hyfforddiant y Cyngor, sef Sgiliau a Hyfforddiant
  • Canolbwyntio ar gyflogaeth drwy fuddsoddi mewn rhaglenni prentisiaethau a hyfforddeiaethau newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli
  • Cynnig cyfleoedd am brentisiaethau a chyfleoedd i raddedigion ar gyfer trigolion lleol
  • Cynnal rhaglenni hyfforddiant a sgiliau gan gynnwys cyn-brentisiaethau
  • Cynlluniau bwrsari
  • Datblygu’r gweithlu lleol drwy gynnig cyfleoedd cyflogaeth gan gynnwys cyfleoedd i bobl dan anfantais
  • Ymgysylltu â Grŵp Cymorth Busnes y Cyngor
  • Ymgysylltu â gwasanaeth Cyflogadwyedd CNPT
  • Uwchsgilio drwy gyrsiau hyfforddi

Mae’r enghreifftiau posibl o ystyriaethau budd i’r gymuned yn cynnwys y canlynol, ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt:

  • Cefnogi busnesau lleol
  • Meithrin gallu yn y gymuned
  • Cyfrannu at achosion elusennol lleol
  • Rhaglen datblygu sgiliau ehangach
  • Cefnogi cyfleusterau a rhaglenni diwylliant a chwaraeon
  • Cefnogi twristiaeth leol gan gynnwys cyfleusterau
  • Cefnogi cyfleusterau lleol er mwyn ategu darpariaethau statudol
  • Gweithgareddau amgylcheddol, bioamrywiaeth, cadwraeth
  • Datblygu cymunedol

Wrth ystyried budd i’r gymuned yn ystod broses o ddatblygu prosiectau, dylid cadw’r canlynol mewn cof:

  • Ffiniau daearyddol y budd arfaethedig.
  • Cynnal trafodaethau cynnar yn agored.
  • Cynnal ymgyngoriadau lleol effeithiol ar unrhyw fudd arfaethedig i’r gymuned.
  • Penodi un pwynt cyswllt allweddol.
  • Parhau â’r trafodaethau ar ôl ymgynghori â’r gymuned.
  • Manteisio ar gymorth gan Swyddog Budd i’r Gymuned y Cyngor.
  • Datblygu cofnod o fudd i’r gymuned a hysbysu Swyddog Budd i’r Gymuned y Cyngor.

Sicrhau bod strategaeth datgarboneiddio ac ynni adnewyddadwy’r Cyngor: Strategaeth DARE yn arwain at y manteision gorau posibl yn economaidd, yn gymdeithasol ac o ran iechyd a’r amgylchedd drwy wneud y canlynol:

  • Codi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd, cynaliadwyedd, yr amgylchedd ac ynni adnewyddadwy mewn ysgolion
  • Ailgylchu deunyddiau
  • Lleihau’r defnydd o ddŵr
  • Lleihau’r gwastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi
  • Lleihau allyriadau cerbydau

Cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r botwm isod: