Cynllun Buddsoddi rhanbarthol ar gyfer rhanbarth De Orllewin Cymru
Beth mae angen i fusnesau Castell-Nedd Port Talbot ei wybod am gronfa ffyniant gyffredin y du
Gadewch i ni Siarad Busnes....
Cymorth am ddim i fusnesau ddechrau, tyfu ac arloesi
Gadewch i ni Siarad Busnes dros baned, dan arweiniad ein Swyddogion Datblygu Busnes, mae ein digwyddiadau Busnes Siarad Let's yn ymwneud ag archwilio'r syniadau busnes cyffrous hynny, gan archwilio cyfleoedd a chynlluniau i dyfu eich busnes a/neu gymorth ariannu presennol . Bydd ein swyddogion medrus iawn a'n partneriaid busnes allanol wrth law i glywed am eich syniadau, cynnig cefnogaeth ac archwilio materion sydd bwysicaf i'ch busnesau.
Bydd digwyddiadau Ein Busnes Siarad Let's yn cael eu cynnal ledled Castell-nedd Port Talbot, ac edrychwn ymlaen at eich cyfarfod.
I ddod o hyd i ddigwyddiad yn eich ardal chi ac i gofrestru, cliciwch ar y ddolen isod.
Beth yw Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU?
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn biler canolog o agenda Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU. Bwriad Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw codi balchder mewn lle, a chynyddu cyfleoedd bywyd, drwy gyfrwng buddsoddi lleol mewn 3 maes blaenoriaeth eang: cymunedau a lle, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.
Clustnodwyd cyllid i ardaloedd ledled y DU gan ddefnyddio fformiwlâu yn hytrach na thrwy wahodd ceisiadau cystadleuol. Mae’r UKSPF yn gymysgedd o arian refeniw a chyfalaf, ac mae’n dod yn lle rhai elfennau, ond nid pob un, o gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi yr Undeb Ewropeaidd (ERDF ac ESF), nid cronfa ‘tebyg at ei debyg’ mohoni, am y bydd y dull y rheolir ac y dyrennir yr arian yn wahanol iawn.
Faint yw cyfran Castell-nedd Port Talbot o’r UKSPF?
Cyfran Castell-nedd Port Talbot fydd ychydig dros £27 miliwn o arian craidd a £5.7 miliwn ar gyfer Lluosi (rhaglen rhifedd i oedolion), i’w glustnodi yn ystod cyfnod darparu’r rhaglen hyd at ddiwedd Mawrth 2025. O blith hyn, clustnodwyd £4.8 miliwn yn benodol ar gyfer gweithgarwch cefnogi busnes.
Beth yw pwrpas y cyllid hwn?
Pwrpas Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw codi balchder mewn lle, a chynyddu cyfleoedd bywyd.
Yn ein barn ni, gellir cyflawni hyn orau yng Nghastell-nedd Port Talbot drwy:
- Datblygu porth i gefnogaeth fusnes a gydlynir yn dda
- Adeiladu gwytnwch hirdymor yn yr economi leol drwy gefnogi busnesau sy’n dechrau a busnesau sy’n bodoli yn yr un modd
- Cefnogi cynaliadwyedd ein cymunedau yn y cymoedd drwy gychwyn a datblygu busnesau yn yr economi seiliol a busnesau cymdeithasol i greu cyflogaeth yn lleol
- Datblygu a chefnogi diwylliant o arloesi o fewn SMEau lleol
- Ymateb i newid hinsawdd drwy ddarparu cefnogaeth i liniaru’i effeithiau
- Gwneud y gorau o fanteision i fusnesau lleol ar gorn datblygiadau a / neu fuddsoddiadau o bwys, e.e. Canolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd, y cais am Borthladd Rhydd Celtaidd, cyflwyno Gwynt Sy’n Arnofio Oddi Ar yr Arfordir (FLOW) yn y Môr Celtaidd, Cyrchfan Wildfox Cwm Afan
- Gwneud y fawr o werth punt Castell-nedd Port Talbot drwy gynyddu gallu SMEau lleol i sicrhau cytundebau sector cyhoeddus
- Datblygu partneriaethau cryfach gyda busnes a rhwng busnesau i hwyluso rhwydweithio, rhannu arfer dda, cysylltu â marchnadoedd newydd ac amlygu gofidiau sy’n gyffredin ac ati.
Ble fydd yr arian yn cael ei dargedu?
Bydd y cyllid yn sicrhau y gallwn adeiladu ar ein rhaglenni cefnogi busnes presennol drwy ateb bylchau a amlygwyd yn y ddarpariaeth. Bydd cefnogaeth ar gael i bob busnes yng Nghastell-nedd Port Talbot, gyda ffocws penodol ar y sectorau allweddol isod:
- Adeiladu
- Creadigol a’r Cyfryngau
- Ynni / Amgylcheddol / Adnewyddadwy
- Peirianneg
- TGCh
- Gweithgynhyrchu
- Manwerthu
- Gwasanaethau
- Twristiaeth, Lletygarwch a Hamdden..
Targedir gweithgarwch ychwanegol at fusnesau yn y sectoraugweithgynhyrchu a pheirianneg a’r rheiny sy’n gweithredu yn yr hyn a elwir yn 'economi seiliol' (busnesau sy’n darparu nwyddau a gwasanaethau hanfodol i gefnogi bywyd beunyddiol).
Mae busnesau gweithgynhyrchu a pheirianneg yn parhau i fod yn rhan sylweddol o’r economi leol, gan gyfrif am 25% o holl allbwn CNPT o’i gymharu â 17% ar draws Cymru a 10% ar draws y DU. Ystyrir y sectorau hyn yn yrwyr allweddol o ran twf economaidd ac arallgyfeirio, yn seiliedig ar dechnolegau newydd a thechnolegau ar eu prifiant.
Bydd busnesau yn yr economi seiliol yn darparu’r nwyddau a’r gwasanaethau y mae pawb yn y gymuned yn dibynnu arnyn nhw. Yn eu plith mae busnesau yn sectorau iechyd a gofal, cynhyrchu bwyd, tai, ynni, adeiladu, twristiaeth a manwerthu. Yn aml, dyma asgwrn cefn yr economi leol, gan ddarparu cyflogaeth ac incwm y mae mawr alw amdano gan lawer o aelwydydd yn y cymunedau mwyaf difreintiedig. Awgryma amcangyfrifon fod yr economi seiliol yn gyfrifol am ryw 40% o swyddi yng Nghymru, ac £1 o bob £3 sy’n cael eu gwario. Mae’n debygol y bydd y gwasgfeydd a deimlir gan bob busnes o ganlyniad i bandemig Covid-19 a’r argyfwng costau byw presennol yn debygol o gael ei deimlo’n llymach gan y rheiny yn yr economi seiliol.
Yn ddaearyddol, bydd y cyllid yn targedu busnesau mewn dwy ardal benodol o weithgarwch economaidd. Y cyntaf yw’r ardal ar hyd coridor yr M4 gan gynnwys ardaloedd trefol Port Talbot a Chastell-nedd. Mae’r ardal hon yn cynnwys sawl parc busnes ac ystâd ddiwydiannol, safleoedd cyflogi allweddol fel Tata Steel a datblygiadau diweddar o bwys fel Campws y Bae Prifysgol Abertawe a Chanolfan Dechnoleg y Bae.
Canolir yr ail ardal ar gymoedd Afan, Dulais, Nedd, Tawe ac Aman. Ceir rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig CPT yn y cymoedd hyn, a dyma’r ardaloedd a effeithiwyd waethaf gan ddad-ddiwydiannu ar ôl i ddiwydiant glo’r rhanbarth ddymchwel. Mae llawer yn parhau i fod dan anfantais oherwydd diffyg cyfleoedd i gael cyflogaeth yn lleol ac isadeiledd trafnidiaeth a gwasanaethau gwael. Mae busnesau yn yr economi seiliol yn hanfodol i ffyniant yr ardaloedd hyn o ganlyniad.
Sut fydd yr arian yn cael ei wario?
Mae’r hinsawdd economaidd y clustnodwyd yr arian ynddo yn heriol ac yn ansicr. Felly, mae pob gweithgaredd a gefnogir gan yr arian wedi’i ddatblygu gan gadw hyblygrwydd i ymateb yn sydyn ac addas i anghenion busnesau.
Bydd darparu’r arian hwn yng Nghastell-nedd Port Talbot yn canolbwyntio ar 5 maes allweddol:
- Cefnogi twf brodorol mewn sectorau allweddol
- Cefnogi’r economi seiliol
- Darparu cefnogaeth ariannol ac arbenigol
- Ymgymryd ag astudiaethau dichonolrwydd
- Datblygu a gweithredu polisïau gwerth cymdeithasol..
Cynllunnir gweithgarwch fel a ganlyn:
- Cronfa grant – Bydd grantiau o rhwng £500 a £50,000 ar gael ar gyfer prosiectau buddsoddi cyfalaf a refeniw fel ei gilydd, ar gyfer busnesau newydd sy’n dechrau, busnesau sy’n bodoli eisoes a buddsoddwyr am i mewn.
- Cefnogi arloesi a thwf mewn sectorau allweddol – bydd modd i fusnesau fanteisio ar wasanaeth diagnostig arbenigol, a fydd yn eu helpu i amlygu’r camau y mae angen iddynt eu cymryd i gyflawni’u potensial ar gyfer tyfu.
- Cefnogi’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid – bydd gweithgarwch yn canolbwyntio ar dynnu sylw myfyrwyr at yr opsiwn o fynd i fusnes drostynt eu hunain, gan amlygu CPT fel lleoliad ble gellid sefydlu busnes, a’r gefnogaeth fyddai ar gael.
- Asesiad cadwyn gyflenwi leol ar gyfer Gwynt Sy’n Arnofio oddi ar yr Arfordir (FLOW) – mae datblygu technoleg gwynt yn cyflwyno cyfle trawsnewidiol i greu diwydiant gweithgynhyrchu newydd yn CPT. Bydd y gwaith hwn yn archwilio’r ddarpar gadwyn gyflenwi leol ar gyfer FLOW.
- Cam 2 Hybiau Twf Glân – gwneir asesiad o gyfleoedd datblygu masnachol cael cyfleusterau storio carbon pellach, yn ogystal â’r rhai a amlygwyd ym Margam a Glan yr Harbwr yn ystod Cam 1.
- Lleoli strategol – bydd gwaith yn cael ei gwblhau i gynhyrchu a chasglu tystiolaeth am leoli strategol CPT a’r cynnig economaidd posib, fel dull o arddangos yr ardal i fuddsoddwyr, ac o gefnogi ceisiadau ariannu i’r dyfodol.
- Proffilio arloesi a chyfleodd economaidd – astudiaeth sgopio o gyfleoedd presennol ac i’r dyfodol yn CPT i ddenu buddsoddiad am i mewn o’r tu fas i’r awdurdod, a hwyluso datblygu ac ymestyn busnesau lleol.
- Cefnogaeth arbenigol – darparu blwch offer o gefnogaeth i ateb anghenion penodol busnesau a/neu sectorau.
Bydd gweithgarwch yn cynnwys:
- Archwiliadau effeithiolrwydd ynni ac adnoddau carbon isel
- Adolygiadau gweithredol
- Fforymau busnes
- Fforymau busnes
- Archwiliadau technoleg ddigidol
- Cefnogaeth ym maes datblygu busnesau cymdeithasol
- Datblygu polisi gwerth cymdeithasol
- Gweithdai – a drefnir yn ôl sector neu bwnc busnes
- Digwyddiadau – bwtcamps picio o mewn, clybiau menter, sesiynau cwrdd â’r prynwr
- Datblygu cadwyn ddatblygu leol.
Bydd y prosiect hwn yn adeiladu ar raglenni cefnogi busnes presennol ac yn ymblethu â nhw drwy ateb bylchau a amlygwyd mewn darpariaeth, ac ar yr un pryd yn cynnal yr hyblygrwydd i ymateb yn sydyn ac addas i anghenion busnesau yn yr hinsawdd economaidd heriol presennol.
Mae’r prosiect hwn yn eang o ran rhychwant, a’i nod yw codi proffil CPT fel cyrchfan i ymwelwyr, cryfhau deunydd cymdeithasol ein cymunedau lleol, ac annog ymdeimlad o falchder lleol a pherthyn ymysg preswylwyr, drwy fuddsoddi.
Nod y prosiect hwn yw mynd i’r afael â’r dirywiad yn ein hardaloedd gwledig, prinder tai, eiddo masnachol a chyfleusterau cyhoeddus o ansawdd da yn y cymoedd a’r pentrefi ledled y sir, a’r bwlch presennol mewn darpariaeth o ran arian grant ar gyfer prosiectau o’r fath
Bydd y cyllid ar gyfer pob un o’r prosiectau hyn fel a ganlyn:
- Cefnogaeth Fusnes Uwch ar gyfer Twf ac Arloesi £4.8 miliwn
- Lle £6.4 miliwn
- Grant Ffyniant Cymoedd a Phentrefi £2 miliwn
Pwy fydd yn darparu’r holl arian a’r gweithgarwch?
Bydd y prosiect yn cael ei reoli gan Dîm Adfywio a Datblygu Economaidd CnPT. Rydym ni o’r farn fod gennym berthynas weithio sydd wedi’i hen sefydlu gyda busnesau lleol a darparwyr cefnogaeth o’r sectorau cyhoeddus a phreifat. Ac mae ein gallu i esblygu’n sydyn, ac ymateb i heriau economaidd sylweddol, fel argyfwng ariannol byd-eang 2008 ac – yn fwyaf diweddar – effaith Covid-19, yn dangos ein bod mewn lle delfrydol i gyflenwi’r prosiect uchelgeisiol hwn.
Bydd datgloi dyraniad CnPT o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn arwain at ddau effaith o bwys i’r tîm. Yn gyntaf bydd yn ein galluogi i ddatblygu a darparu rhaglen gynhwysfawr o weithgareddau a fydd nid yn unig yn cyfuno â chefnogaeth fusnes bresennol, a’i wella, ond bydd hefyd yn ein galluogi i bontio’r bwlch mewn darpariaeth. Yn ail, byddwn ni’n gallu cryfhau’r tîm drwy ychwanegu swyddi cyfnod penodol newydd, a fydd yn golygu, yn y pen draw, y gallwn ddarparu mwy o gefnogaeth i nifer fwy o unigolion a busnesau yng Nghastell-nedd Port Talbot.