Mae ceisiadau wedi bod ar agor ar gyfer Grantiau’r Gronfa Ffyniant Gyffredin am 6 mis. Darganfyddwch yr effaith gadarnhaol y mae hyn wedi’i chael a dysgwch sut y gall eich busnesau yng Nghastell-nedd Port Talbot elwa o hyd.
Drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, rydym yn parhau i ddarparu cyllid buddsoddi ar gyfer arloesi, twf a chyfleoedd i fusnesau lleol. Mae datblygu busnesau newydd a phresennol yn hanfodol bwysig i’n cymunedau lleol a’r economi.
Prif nod dosbarthu’r grant yw meithrin economi fwy dynamig, hyblyg a chynaliadwy. Y nod yn y pen draw yw gyrru arloesi a thwf hirhoedlog a phellgyrhaeddol i fusnesau er mwyn gwneud Castell-nedd Port Talbot yn lle cyffrous i wneud busnes.
Drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin mae ein Tîm Datblygu Economaidd eisoes wedi helpu busnesau yng Nghastell-nedd Port Talbot i ddechrau, i dyfu ac i ffynnu. Canfyddwch yr effaith gadarnhaol y mae’r Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi’i chael hyd yma a dysgwch sut y gall eich busnes yng Nghastell-nedd Port Talbot elwa.
Beth yw effaith y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar fusnesau lleol hyd yma?
Mae effaith y grantiau busnes hyd yma wedi bod yn hynod gadarnhaol, gan ddarparu cymorth a chyfleoedd twf i amryw o sectorau a llawer o fentrau. Mae argaeledd y grantiau hyn wedi rhoi cyfle o fewn cymuned fusnes Castell-nedd Port Talbot, gan feithrin arloesedd a sefydlogrwydd. O ganlyniad, mae gennym lawer o astudiaethau achos sy’n tynnu sylw at y gwelliannau penodol, gan roi mewnwelediad i sut mae’r amrywiaeth o grantiau yn cyfrannu at ailffurfio’r dirwedd a sbarduno datblygu cynaliadwy mewn gwahanol sectorau.
Un stori o’r fath yw hanes Meithrinfa Ddydd Croeso. Drwy’r Gronfa Ffyniant Cymoedd a Phentrefi, mae Sam Fender yn trawsnewid busnes gwarchod plant bach yn feithrinfa ddydd gyda lle ar gyfer hyd at 48 o blant. Yn ogystal â’r manteision o helpu Meithrinfa Ddydd Croeso i gychwyn fel busnes, bydd hefyd yn cynnig cyflogaeth leol, yn cyfoethogi’r gadwyn gyflenwi leol, ac yn cynnig cymorth gofal plant i deuluoedd yn yr ardal. Cofiwch ddilyn Busnes CNPT ar Facebook a LinkedIn i ddysgu mwy am y straeon cadarnhaol hyn.
Hyd yma, mae £1.76m o’n Cronfa Ffyniant Gyffredin wedi’i gynnig mewn grantiau. Mae hyn wedi’i ddyrannu rhwng 127 o geisiadau a gymeradwywyd. O ganlyniad, bydd mwy na 370 o swyddi posib yn cael eu creu a bydd 264 o swyddi posib pellach yn cael eu diogelu. Yn bwysig, mae’r grantiau hyn wedi helpu i sicrhau bod busnesau yng Nghastell-nedd Port Talbot yn ffynnu. Trwy rymuso busnesau lleol, a chyfoethogi cadwyni cyflenwi lleol, mae cymunedau ehangach Castell-nedd Port Talbot yn elwa.
Pa grantiau busnes sydd ar gael o hyd drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin?
Ydych chi’n berchennog busnes yng Nghastell-nedd Port Talbot sydd eisiau ariannu eich prosiect mawr nesaf? Os ydych chi’n bwriadu cychwyn, tyfu neu arloesi eich Busnes yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae £1m o gyllid grant ar gael o hyd. Gall busnesau newydd a phresennol wneud cais am grantiau nawr! Dysgwch fwy am y grantiau sydd ar gael.
Busnesau newydd
Gall busnesau newydd wneud cais am grant o £500- £5,000 a fydd yn derbyn arian cyfatebol fel a ganlyn:
100% o’r costau cymwys hyd at £2,000,
50% o’r costau cymwys rhwng £2,000 a £5,000.
Gall busnesau newydd sydd â chostau cymwys dros £8,000 wneud cais am arian cyfatebol grant hyd at 50%.
Busnesau presennol a mewnfuddsoddwyr
Gall busnesau wneud cais am grantiau rhwng £500-£50,000 a fydd yn derbyn arian cyfatebol hyd at 50%.
Arian adnewyddadwy gwyrdd
Mae cynnydd technoleg gynaliadwy newydd yn dod ar gost. Rydym yn gweld pwysigrwydd darparu cyllid cynaliadwyedd i fusnesau i gael effaith ar eu costau ac ar eu hôl troed carbon, er mwyn cael byd gwyrddach. Mae’r gronfa ar gyfer buddsoddi mewn busnesau systemau pŵer neu systemau gwresogi sy’n defnyddio technoleg werdd. Mae’r grant yn darparu hyd at 50% o’r costau cymwys, neu uchafswm o £25,000 i’w fuddsoddi mewn technoleg werdd.
Mae proses ymgeisio dau gam ar gyfer pob grant, mynegiant o ddiddordeb i ddechrau ac yna’r cais ei hun. Pan fyddwch yn mynegi eich diddordeb, bydd aelod o’r Tîm Datblygu Economaidd arbenigol yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot wrth law i’ch tywys gyda’ch cais. Gwnewch ymholiadau heddiw i gychwyn arni.