Sut y gwnaeth y Grant Creu Lleoedd helpu i droi adeilad gwag yn salon harddwch moethus.

November 1, 2024

BCafodd Blossom, sef salon gwallt a harddwch moethus yng Nghastell-nedd, gyllid gwerth £35,342.12 o’r Grant Creu Lleoedd i’w roi tuag at droi’r adeilad gwag yn sba feddygol.

Mae’r gwaith adeiladu y mae’r arian wedi helpu i dalu amdano yn cynnwys gwaith trydanol, gwaith plymwr, systemau aerdymheru a gwresogi sy’n arbed ynni, gwaith saer, systemau diogelwch a diogelwch tân yn ogystal ag arwyddion.

Caiff y Grant Creu Lleoedd ei ariannu drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, er mwyn helpu i gefnogi buddsoddiad cyfalaf yng nghanol trefi. Mae’r rhaglen yn ymrwymedig i fynd i’r afael â dirywiad trefi a chanol dinasoedd yng Nghymru, a’u hailddyfeisio a’u hadfywio’n lleoedd y mae pobl am dreulio eu hamser ynddynt.

Darganfyddwch fwy:

wave banner

You may also be interested in: