Grant Dechrau Busnes 2

Mae ceisiadau am Grant dechrau business SPF2 bellach wedi cau i geisiadau newydd

Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Cefnogi Busnesau Newydd

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ystyried bod buddsoddi mewn egin fusnesau newydd, datblygu busnesau sydd eisoes yn bodoli a denu mewnfuddsoddwyr yn hollbwysig er mwyn cefnogi cymunedau lleol a’r economi

Nod ein rhaglen ‘Gawn Ni Siarad: Dechrau Eich Busnes CHI’ yw cefnogi unigolion sy’n awyddus i ddechrau busnes a’r rhai sy’n masnachu ers chwe mis neu lai drwy roi gwybodaeth, cymorth ac arweiniad iddynt, yn ogystal â chyllid grant i’r rhai sy’n gymwys.

Bydd unigolion sy’n awyddus i ddechrau busnes yn rhan-amser hefyd yn cael eu hystyried os byddant yn gweithio yn y busnes am o leiaf 16 awr yr wythnos.

Ar gyfer gwariant prosiect rhwng £500 – £10,000 – 70% wedi’i ariannu drwy’r grant hyd at uchafswm o £10,000 gyda’r ymgeisydd yn ariannu’r 30% arall.

Rhoddir cyllid yn ôl disgresiwn a chaiff ceisiadau eu hystyried fesul achos ar ôl asesu meini prawf cymhwysedd y grant a budd y grant i’r busnes.

Cyllid Grant
Mae Grant Dechrau Busnes y Cyngor, a ariennir drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, ar gael er mwyn helpu ymgeiswyr cymwys i dalu costau dechrau busnes newydd a fydd yn rhoi cyflogaeth amser llawn a/neu ran-amser iddynt (o leiaf 16 awr yr wythnos ym mlwyddyn 1). Rhaid i berchennog y busnes anelu at ennill incwm personol o £12570 neu fwy o’r busnes. Trothwy lwfans treth incwm personol sylfaenol CThEF yw’r ffigur hwn.

Meini prawf cymhwysedd
Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i wneud cais os ydych chi:

Wedi dechrau masnachu neu wedi bod yn masnachu prawf yn ystod y chwe mis diwethaf

Heb ddechrau masnachu, yn cael eich cyflogi’n rhan-amser, yn ddi-waith, yn economaidd anweithgar, wedi cael rhybudd dileu swydd neu’n symud o swydd i hunangyflogaeth ar adeg eich cais (ar gyfer partneriaethau a chwmnïau cyfyngedig, bydd yn rhaid i bob ymgeisydd fodloni’r maen prawf cymhwysedd hwn)

Yn 18 oed neu’n hŷn.

Yn gallu dangos bod gennych brofiad a/neu gymwysterau sy’n berthnasol i’r maes y mae’r busnes yn bwriadu gweithredu ynddo.

Wedi bod i naill ai:

Un o weithdai dechrau busnes Llywodraeth Cymru neu

Un o weithdai archwilio menter Ymddiriedolaeth y Tywysog neu

Yn gallu dangos profiad blaenorol o hunangyflogaeth.

Yn cael cymorth drwy wasanaeth Busnes Cymru neu sefydliad cymorth cymeradwy/cydnabyddedig arall

Pa sectorau busnes sy’n gymwys?

Gall y cyllid gefnogi busnesau sy’n gweithredu yn y rhan fwyaf o sectorau cyn belled â bod y busnes wedi’i leoli yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:

Adeiladu
Creadigrwydd a’r Cyfryngau
Ynni
Peirianneg
Yr Amgylchedd
TGCh
Gweithgynhyrchu
Ynni Adnewyddadwy
Manwerthu
Gwasanaethau
Twristiaeth, Lletygarwch a Hamdden

Pa weithgareddau sy’n anghymwys, os o gwbl?
Er y cefnogir amrywiaeth eang o weithgareddau, nid yw’r rhestr yn hollgynhwysfawr. Ni fydd y Cyngor yn cefnogi unrhyw weithgaredd anghyfreithlon nac unrhyw weithgaredd arall a all beryglu enw da’r Awdurdod ym marn y panel. Ni roddir cymorth grant ar gyfer y gweithgareddau canlynol.

· Modelu noeth neu hanner noeth
· Cwnsela
· Cynnig gwasanaethau rhywiol o unrhyw fath
· Hyfforddiant bywyd
· Pornograffi
· Aciwbigo
· Gamblo
· Tatŵyddion
· Canolfannau hapchwarae
· Hyrwyddo gweithgareddau crefyddol neu wleidyddol penodol
· Gwasanaethau gwely haul
· Adeiladu hapfasnachol
· Therapïau, cynhyrchion a meddyginiaethau amgen
· Triniaethau meddygol ategol, cynhyrchion cosmetig a thriniaethau esthetig

Pa gostau y bydd y grant yn helpu i’w talu?
Bydd y grant yn helpu i dalu amrywiaeth o gostau, yn amodol ar isafswm gwariant o £50.00 gan gynnwys TAW fesul dyfynbris, gan gynnwys:

· Prynu ac adnewyddu safle

· Offer, peiriannau a chyfarpar

· Caledwedd a meddalwedd TG

· Stoc (h.y. deunyddiau crai a ddefnyddir i gynhyrchu’r eitemau/cynhyrchion yr hoffech eu gwerthu) D.S: Ni fydd eitemau y byddwch yn eu prynu i’w gwerthu yn gymwys.

· Offer

· Cymorth ymgynghorol arbenigol i fusnesau sydd eisoes yn masnachu/masnachu prawf

· Gorbenion gan gynnwys marchnata, hysbysebu, yswiriant ac ati

Pa gostau na fyddant yn gymwys ar gyfer cymorth?

· Tanysgrifiadau wythnosol/misol (oni fydd modd eu prynu ymlaen llaw).

· Cerbydau a’u costau rhedeg cysylltiedig, h.y. petrol, teiars, cynnal a chadw ac ati.

D.S: Ni fydd eitemau a brynwyd cyn gwneud cais neu gael cynnig grant ffurfiol yn gymwys ar gyfer cymorth cyllid.

Faint y gallaf wneud cais amdano?

Hyd at £10,000 tuag at gostau dechrau busnes cymwys, ar ffurf arian cyfatebol fel a ganlyn:

Ar gyfer gwariant prosiect rhwng £500 – £10,000 – 70% wedi’i ariannu drwy’r grant hyd at uchafswm o £10,000 gyda’r ymgeisydd yn ariannu’r 30% arall.

Caiff lefel y grant a ddyfernir ei chyfrifo’n seiliedig ar y canlynol:

  1. Canran o’r costau cymwys (gan gynnwys TAW), a
  2. Nifer y swyddi a gaiff eu creu a/neu eu diogelu gan y prosiect fel a ganlyn:
  • – £5,000 fesul rôl amser llawn 30+ awr yr wythnos
  • – £2,500 fesul rôl ran-amser 16-29 awr yr wythnos.

Rhoddir grantiau yn ôl disgresiwn a bydd y Cyngor yn ystyried ceisiadau fesul achos.

D.S:

  • Ni allwch ymrwymo i wariant cyn cael cynnig ysgrifenedig.

Mae gan y Cyngor ddisgresiwn i wirio a oes gan fusnes neu ymgeisydd ôl-ddyledion gydag unrhyw daliad i Gyngor Castell-nedd Port Talbot, a gallai hyn effeithio ar ganlyniad eich cais.

Bydd cyllid gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn ddarostyngedig i Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau Llywodraeth y DU (2022).

Rhaid i ddyfynbrisiau ar gyfer gwariant y prosiect gael eu cyflwyno gyda’ch cais.

D.S: Dim ond eitemau dros £50.00 gan gynnwys TAW fydd yn gymwys

Rhaid glynu wrth y canlynol:

1. Os oes gennych eich Polisi Caffael eich hun – rhaid rhoi copi i Swyddfa Rheoli Rhaglenni Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer ei chofnodion.

2. Os nad oes gennych bolisi caffael, RHAID i chi ddilyn y rheolau canlynol i ddangos gwerth am arian:

Contractau hyd at £10,000 – 1 (un) dyfynbris ysgrifenedig o ffynhonnell gystadleuol i ddangos arferion da a gwerth am arian. Copi o’r dyfynbris a gadwyd ar gyfer cofnodion. Bydd yr holl ffigurau gan gynnwys TAW.

Contractau rhwng £10,000 a £100,000 – rhaid ceisio o leiaf 2 (dau) ddyfynbris o ffynonellau cystadleuol a chael o leiaf 1 (un) dyfynbris. Rhaid i’r dyfynbrisiau fod yn seiliedig ar y canlynol:

• yr un fanyleb o ofynion

• yr un meini prawf gwerthuso a gwerthuso ar sail tebyg at ei debyg. Mae’n arfer dda sefydlu panel gwerthuso

• yr un dyddiad cau ar gyfer cyflwyno dyfynbrisiau, a’r ffaith na chânt eu derbyn ar ôl hynny

Rhaid i gofnod wedi’i ddogfennu o’r dyfynbrisiau a geisiwyd, y broses werthuso a’r penderfyniad i ddyfarnu gael ei gadw at ddibenion archwilio.

*Os mai dim ond 1 (un) dyfynbris a ddaw i law, rhaid i chi gysylltu â’r Cyngor i rannu’r manylion a chyfiawnhad o’r broses gaffael y byddwch wedi’i dilyn. Bydd yn rhaid i’r penderfyniad i brynu gael ei gymeradwyo gan y Cyngor fesul achos. Copi o’r holl ddyfynbrisiau a gohebiaeth a gadwyd ar gyfer cofnodion. Bydd yr holl ffigurau gan gynnwys TAW.

Dros £100,000 hyd at drothwy Deddf Caffael 2023 (£214,904 ar gyfer nwyddau/gwasanaethau a £5,372,609 ar gyfer gwaith ar hyn o bryd). Rhaid ceisio o leiaf 3 (tri) dyfynbris o ffynonellau cystadleuol. Os daw llai na dau ddyfynbris i law, rhaid i chi gysylltu â’r Cyngor i rannu’r manylion a chyfiawnhad o’r broses gaffael y byddwch wedi’i dilyn. Bydd yn rhaid i’r penderfyniad i brynu gael ei gymeradwyo gan y Cyngor fesul achos. Copi o’r holl ddyfynbrisiau a gohebiaeth a gadwyd ar gyfer cofnodion. Bydd yr holl ffigurau gan gynnwys TAW.

Bydd yn rhaid i’r un wybodaeth gael ei rhoi i bawb a wahoddir i roi dyfynbris:

• yr un fanyleb o ofynion

• amlinelliad o’r meini prawf gwerthuso a ddefnyddir i ddyfarnu’r contract

• yr un dyddiad cau ar gyfer cyflwyno dyfynbrisiau, a’r ffaith na chânt eu derbyn ar ôl hynny

Bydd yn rhaid i’r broses werthuso a ddilynir gennych fod yn gyson â’r meini prawf gwerthuso gwreiddiol a amlinellwyd a bydd yn rhaid cyflwyno taflen gyfiawnhau yn esbonio ar ba sail y dewiswyd y tendr llwyddiannus. Yr arfer orau yw sefydlu panel gwerthuso i werthuso tendrau.

Yn achos prosesau caffael â gwerth dros drothwy’r DU, cysylltwch â’ch Swyddog Prosiect yn y Cyngor.

D.S: Rhaid i bob ymgeisydd allu gwneud y canlynol:

· Dechrau masnachu a phrynu’r eitemau y ceisir cyllid ar eu cyfer o fewn dau fis i ddyddiad y llythyr cynnig.

· Talu am brynu’r eitemau yn y lle cyntaf.

· Cyflwyno tystiolaeth bod taliadau am bryniannau a darnau o waith y cytunwyd arnynt wedi cael eu gwneud drwy gyfrif banc neu gerdyn credyd a ddelir yn enw a chyfeiriad yr ymgeisydd am grant. Ni fydd taliadau a wneir mewn arian parod yn gymwys ar gyfer cyllid grant.

· Cydnabod y gall Cyngor Castell-nedd Port Talbot ddefnyddio manylion eich busnes a’ch prosiect mewn gweithgarwch hyrwyddo yn y dyfodol, e.e. datganiadau i’r wasg, astudiaethau achos ac ati.

· Cydnabod ei bod yn ofynnol i Gyngor Castell-nedd Port Talbot gyhoeddi manylion dyfarniadau grant.

A allaf ddefnyddio cardiau credyd ac arian parod yn ogystal â’m cyfrif banc i dalu costau fy mhrosiect?
Rhaid i daliadau ar gyfer gwariant prosiect gael eu gwneud o gyfrif banc busnes fel a ganlyn:

Pobl hunangyflogedig ac unig fasnachwyr – rhaid defnyddio cyfrif banc sydd at ddibenion busnes, a all fod yn eich enw eich hun neu yn enw’r busnes. Rhaid i gyfriflenni a gyflwynir gyda hawliadau grant ddangos tystiolaeth glir o incwm a gwariant y busnes.

Partneriaethau, cwmnïau cyfyngedig ac ati – rhaid defnyddio cyfrif banc yn enw’r busnes.

Derbynnir pryniannau cerdyn credyd os bydd y cerdyn yn enw a chyfeiriad yr ymgeisydd am y grant. Rhaid i daliadau yn erbyn cyfriflenni cerdyn credyd gael eu gwneud o’r cyfrif banc busnes uchod. Bydd angen tystiolaeth i ddangos bod gwerth pryniannau cerdyn credyd o’r fath wedi cael eu talu oddi ar y gyfriflen berthnasol.

Ni dderbynnir taliadau arian parod.

Sut mae tynnu’r cyllid i lawr?
Bydd eich llythyr/e-bost cynnig yn cynnwys manylion y dystiolaeth y bydd ei hangen arnom er mwyn i chi allu tynnu’r grant i lawr. Gallai hyn gynnwys: Cadarnhad o’ch Rhif UTR, manylion adnabod, copi o anfonebau/derbynebau a chyfriflenni banc fel prawf o bryniant ac unrhyw wybodaeth arall yr ystyrir ei bod yn berthnasol i’ch cais.

Caiff y grant ei dalu i’ch cyfrif banc enwebedig drwy BACS.

A fyddaf yn cael unrhyw gymorth parhaus?
Byddwn yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn cysylltu â chi yn ystod eich chwe mis cyntaf o fasnachu i weld sut mae pethau’n mynd yn y busnes ac i gynnig cyngor a chymorth yn ôl yr angen.

Gall gymryd amser i sefydlu eich busnes ac mae’n bosibl y bydd angen i chi wneud newidiadau i’ch cynllun gwreiddiol a rhoi cynnig ar bethau gwahanol. Os hoffech gyngor neu gymorth unrhyw bryd, neu os bydd angen gwybodaeth arnoch, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod.

A allaf wneud cais am gyllid pellach?
Wrth i’ch busnes ddatblygu a thyfu, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i wneud cais am gyllid pellach.

Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)
Caiff eich gwybodaeth ei phrosesu yn unol â dogfen CBS Castell-nedd Port Talbot – Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaethau Datblygu Economaidd – y bydd copi caled ohoni ar gael ar gais.

Cysylltwch
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â:
E-bost: spfbusiness2@npt.gov.uk neu ffoniwch 01639 686835.