GRANT BUDDSODDI MEWN BUSNESAU 2

Mae ceisiadau am Grant Buddsoddiad Busnes SPF2 bellach wedi cau i geisiadau newydd.for the SPF2 Business Investment Grant has now closed to new applications.

Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Cefnogi datblygiad busnesau
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ystyried bod buddsoddi mewn egin fusnesau newydd, datblygu busnesau sydd eisoes yn bodoli a denu mewnfuddsoddwyr yn hollbwysig er mwyn cefnogi cymunedau lleol a’r economi.

Mae buddsoddi yn natblygiad busnesau lleol yn hanfodol er mwyn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor unrhyw fenter, drwy feithrin gwytnwch, gallu, cynyddu cynhyrchiant, gwella sgiliau a datblygu eu hyblygrwydd i ymateb i anghenion newidiol yr economi ehangach. Ymhellach, mae angen buddsoddiadau sy’n lleihau effaith busnesau ar yr amgylchedd.

Gyda buddsoddiad o’r fath, mae Castell-nedd Port Talbot yn meithrin economi fwy deinamig, arloesol, gwyrddach ac amlbwrpas, gyda gweithlu medrus a hyblyg sy’n gallu gwrthsefyll yr heriau sy’n wynebu’r economi fyd-eang dros amser.

Rhoddir cyllid yn ôl disgresiwn a chaiff ceisiadau eu hystyried fesul achos.

Nod y Grant
Nod y grantiau yw cefnogi prosiectau a buddsoddiadau sy’n cyfrannu at flaenoriaethau’r Cyngor ar gyfer twf economaidd:

  • Tyfu a datblygu busnesau · e.e. drwy ddenu cwsmeriaid newydd, cyflwyno cynhyrchion/gwasanaethau newydd, arallgyfeirio, ehangu i sectorau neu farchnadoedd daearyddol newydd ac ati..
  • Gwella effeithlonrwydd gweithredol a chynhyrchiant · e.e. prosiectau sy’n eich helpu i redeg y busnes yn fwy effeithlon, megis drwy ddefnyddio meddalwedd neu apiau, buddsoddi mewn gwefan ac ati, neu sy’n eich galluogi i gynyddu eich capasiti, er enghraifft drwy brynu peiriannau a chyfarpar newydd.
  • Creu a diogelu swyddi. Prosiectau a gefnogir Rhaid i’r greu swyddi newydd a/neu ddiogelu rolau sydd eisoes yn bodoli.
  • Uwchsgilio’r gweithlu e.e. hyfforddi staff newydd/presennol er mwyn creu hyblygrwydd yn y gweithlu, helpu i gyflwyno gwasanaeth newydd ac ati .
  • Cefnogi cadwyni cyflenwi lleol.. Rydym yn awyddus i annog busnesau i archwilio opsiynau ar gyfer defnyddio cyflenwyr lleol.

Pa gyllid sydd ar gael?
Mae grantiau ar gael er mwyn helpu egin fusnesau newydd, busnesau sydd eisoes yn bodoli a mewnfuddsoddwyr i gyflawni prosiectau NAD YDYNT yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer ffynonellau grant eraill, megis Llywodraeth Cymru, Cronfeydd Pontio Tata ac ati.

Mae’r cyllid ar gael i fusnesau sy’n gweithredu ar sail amser llawn a rhan-amser. Rhaid i fusnesau rhan-amser weithredu am o leiaf 16 awr yr wythnos.

Pa sectorau busnes sy’n gymwys?
Gall y cyllid helpu busnesau yn y rhan fwyaf o sectorau i gynnal prosiectau sy’n cyflawni’r amcanion uchod. Fodd bynnag, rhoddir blaenoriaeth i brosiectau a gaiff eu cynnal gan fusnesau sy’n gweithredu yn un o’n sectorau allweddol, h.y.

  • Adeiladu
  • Creadigrwydd a’r Cyfryngau
  • Ynni
  • Peirianneg
  • Yr Amgylchedd
  • TGCh
  • Gweithgynhyrchu
  • Ynni Adnewyddadwy
  • Manwerthu
  • Gwasanaethau
  • Twristiaeth, Lletygarwch a Hamdden

Pa weithgareddau sy’n anghymwys, os o gwbl?
Er y cefnogir amrywiaeth eang o sectorau a gweithgareddau, nid yw’r rhestr yn hollgynhwysfawr. Ni fydd y Cyngor yn cefnogi unrhyw weithgaredd anghyfreithlon nac unrhyw weithgaredd arall a all beryglu enw da’r Cyngor ym marn y panel.
Y rhestrau canlynol
gweithgareddau sydd wedi’u heithrio o gymorth grant.

  • Modelu noeth neu hanner noeth
  • Cwnsela
  • Cynnig gwasanaethau rhywiol o unrhyw fath
  • Hyfforddiant bywyd
  • Pornograffi
  • Aciwbigo
  • Gamblo
  • Tatŵyddion
  • Canolfannau Hapchwarae
  • Hyrwyddo gweithgareddau crefyddol neu wleidyddol penodol
  • Gwasanaethau gwely haul
  • Adeiladu hapfasnachol
  • Therapïau, cynhyrchion a meddyginiaethau amgen
  • Triniaethau meddygol ategol, cynhyrchion cosmetig a thriniaethau esthetig

Pa gostau y bydd y grant yn helpu i’w talu?
Bydd y grant yn helpu i dalu costau cyfalaf a refeniw sy’n gysylltiedig â’r prosiect, yn amodol ar isafswm gwariant o £50.00 heb gynnwys TAW fesul dyfynbris. Isod ceir enghreifftiau o wariant cymwys.

Gall gwariant ar eitemau cyfalaf gynnwys:

  • Offer, peiriannau a chyfarpar sy’n cynyddu capasiti neu gynhyrchiant, neu’n lleihau’r defnydd o ynni ac ati
  • Mesurau sy’n cefnogi arloesedd yn uniongyrchol, fel dyfeisiau newydd sy’n ymwneud ag arddangos neu feinciau arbrofi; cyfleusterau labordy a phrofi; datblygu syniadau ar gyfer cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau newydd neu well; cael gafael ar wybodaeth ac arbenigedd ynglŷn â deunyddiau newydd ac ati
  • Mesurau i gynyddu a rheoli stoc dai
  • Seilwaith a chaledwedd TG sy’n helpu i fabwysiadu technolegau newydd yn y busnes, yn gwella prosesau ac effeithlonrwydd gweithredol, yn cefnogi newidiadau i batrymau gweithio ac ati
  • gwaith ar safleoedd er mwyn cynyddu capasiti neu helpu i arallgyfeirio, neu fesurau sy’n lleihau’r defnydd o ynni

D.S: mae’n bosibl y bydd rhai eitemau cyfalaf yn anghymwys, e.e. offer symudol, dodrefn swyddfa, cerbydau ac ati.

Ymhlith yr enghreifftiau o gostau refeniw cymwys mae:

  • Gweithgareddau y mae angen cyngor arbenigol ar eu cyfer, e.e. cysylltu neu integreiddio systemau TG er mwyn cefnogi gwelliannau mewn prosesau ac effeithlonrwydd gweithredol, newidiadau i arferion gweithio; datblygu strategaethau marchnata ac e-farchnata er mwyn cyd-fynd â newidiadau mewn ymddygiad prynu cwsmeriaid, targedu marchnadoedd cwsmeriaid newydd ac ati; astudiaethau dichonoldeb er mwyn asesu cyfleoedd i ddatblygu ac ati
  • Datblygu deunyddiau marchnata a hyrwyddo, gan gynnwys gwefannau sydd â’r nod o helpu’r busnes i ddenu cwsmeriaid newydd, mabwysiadu sianeli gwerthu newydd, cyflwyno dulliau cyfathrebu newydd, neu hyrwyddo cynhyrchion neu wasanaethau
  • Meddalwedd sy’n galluogi’r busnes i wella effeithlonrwydd, cynyddu capasiti, rheoli stoc, integreiddio prosesau busnes, rheoli ffyrdd newydd o weithio ac ati
  • Costau datblygu systemau neu feddalwedd (allanol yn unig)
  • Ffioedd archwilio a chofrestru ar gyfer achrediadau i gefnogi twf y busnes, gwella prosesau gweithredol, arallgyfeirio i sectorau newydd ac ati
  • Ardystio a phrofi cynhyrchion
  • Hyfforddiant staff sy’n gwella sgiliau, hyblygrwydd y gweithlu ac ati

Am faint y gallaf wneud cais?
Mae grantiau rhwng £500 a £10,000 ar gael.
Hyd at £10,000 tuag at gostau cymwys, gydag arian cyfatebol fel a ganlyn:

Ar gyfer gwariant prosiect rhwng £500 – £10,000 – 70% wedi’i ariannu drwy’r grant hyd at uchafswm o £10,000 gyda’r ymgeisydd yn ariannu’r 30% arall.

Caiff lefel y grant a ddyfernir ei chyfrifo’n seiliedig ar y canlynol:

  1. Canran y costau cymwys (yn cynnwys TAW), ac
  2. Nifer y swyddi a gaiff eu creu a/neu eu diogelu gan y prosiect fel a ganlyn:
  • – £5,000 fesul rôl amser llawn 30+ awr yr wythnos
  • – £2,500 fesul rôl ran-amser 16-29 awr yr wythnos.

Rhoddir grantiau yn ôl disgresiwn a bydd y Cyngor yn ystyried ceisiadau fesul achos.

D.S:

  • Ni allwch ymrwymo i wariant cyn cael cynnig ysgrifenedig.
  • Bydd gan y Cyngor hawl i edrych i weld a yw busnes neu ymgeisydd mewn ôl-ddyledion mewn perthynas ag unrhyw daliad i Gyngor Castell-nedd Port Talbot ac, os gwelir ei fod, mae’n bosibl y caiff y cynnig o gymorth ei dynnu’n ôl.
  • Bydd cyllid gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn ddarostyngedig i Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau Llywodraeth y DU (2022).

Mae Grant bellach wedi cau i geisiadau newydd

D.S: Dim ond eitemau dros £50.00 heb gynnwys TAW fydd yn gymwys

Rhaid glynu wrth y canlynol:

  1. Os oes gennych eich Polisi Caffael eich hun – rhaid rhoi copi i Swyddfa Rheoli Rhaglenni Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer ei chofnodion.
  1. Os nad oes gennych bolisi caffael, RHAID i chi ddilyn y rheolau canlynol i ddangos gwerth am arian:

Contractau hyd at £10,000 – 1 (un) dyfynbris ysgrifenedig o ffynhonnell gystadleuol i ddangos arferion da a gwerth am arian. Copi o’r dyfynbris a gadwyd ar gyfer cofnodion. Bydd yr holl ffigurau gan gynnwys TAW.

Contractau rhwng £10,000 a £100,000 – rhaid ceisio o leiaf 2 (dau) ddyfynbris o ffynonellau cystadleuol a chael o leiaf 1 (un) dyfynbris. Rhaid i’r dyfynbrisiau fod yn seiliedig ar y canlynol:

  • • yr un fanyleb o ofynion
  • • yr un meini prawf gwerthuso a gwerthuso ar sail tebyg at ei debyg. Mae’n arfer dda sefydlu panel gwerthuso
  • • yr un dyddiad cau ar gyfer cyflwyno dyfynbrisiau, a’r ffaith na chânt eu derbyn ar ôl hynny

Rhaid i gofnod wedi’i ddogfennu o’r dyfynbrisiau a geisiwyd, y broses werthuso a’r penderfyniad i ddyfarnu gael ei gadw at ddibenion archwilio.

*Os mai dim ond 1 (un) dyfynbris a ddaw i law, rhaid i chi gysylltu â’r Cyngor i rannu’r manylion a chyfiawnhad o’r broses gaffael y byddwch wedi’i dilyn. Bydd yn rhaid i’r penderfyniad i brynu gael ei gymeradwyo gan y Cyngor fesul achos. Copi o’r holl ddyfynbrisiau a gohebiaeth a gadwyd ar gyfer cofnodion. Bydd yr holl ffigurau gan gynnwys TAW.

Dros £100,000 hyd at drothwy Deddf Caffael 2023 (£214,904 ar gyfer nwyddau/gwasanaethau a £5,372,609 ar gyfer gwaith ar hyn o bryd). Rhaid ceisio o leiaf 3 (tri) dyfynbris o ffynonellau cystadleuol. Os daw llai na dau ddyfynbris i law, rhaid i chi gysylltu â’r Cyngor i rannu’r manylion a chyfiawnhad o’r broses gaffael y byddwch wedi’i dilyn. Bydd yn rhaid i’r penderfyniad i brynu gael ei gymeradwyo gan y Cyngor fesul achos. Copi o’r holl ddyfynbrisiau a gohebiaeth a gadwyd ar gyfer cofnodion. Bydd yr holl ffigurau gan gynnwys TAW.

Bydd yn rhaid i’r un wybodaeth gael ei rhoi i bawb a wahoddir i roi dyfynbris:

  • • yr un fanyleb o ofynion
  • • amlinelliad o’r meini prawf gwerthuso a ddefnyddir i ddyfarnu’r contract
  • • yr un dyddiad cau ar gyfer cyflwyno dyfynbrisiau, a’r ffaith na chânt eu derbyn ar ôl hynny

Bydd yn rhaid i’r broses werthuso a ddilynir gennych fod yn gyson â’r meini prawf gwerthuso gwreiddiol a amlinellwyd a bydd yn rhaid cyflwyno taflen gyfiawnhau yn esbonio ar ba sail y dewiswyd y tendr llwyddiannus. Yr arfer orau yw sefydlu panel gwerthuso i werthuso tendrau.

Yn achos prosesau caffael â gwerth dros drothwy’r DU, cysylltwch â’ch Swyddog Prosiect yn y Cyngor.

D.S: Rhaid i’r ceisiadau a gyflwynir gael eu hawdurdodi’n briodol gan berchennog, partner neu gyfarwyddwr yn y busnes.

A allaf ddefnyddio cardiau credyd ac arian parod yn ogystal â’m cyfrif banc i dalu costau fy mhrosiect?
Rhaid i daliadau ar gyfer gwariant prosiect gael eu gwneud o gyfrif banc busnes fel a ganlyn:  

Pobl hunangyflogedig ac unig fasnachwyr –rhaid defnyddio cyfrif banc sydd at ddibenion busnes, a all fod yn eich enw eich hun neu yn enw’r busnes. Rhaid i gyfriflenni a gyflwynir gyda hawliadau grant ddangos tystiolaeth glir o incwm a gwariant y busnes.  

Partneriaethau, cwmnïau cyfyngedig ac ati – rhaid defnyddio cyfrif banc yn enw’r busnes. 

Ni dderbynnir cerdyn credyd os bydd y cerdyn yn enw a chyfeiriad yr ymgeisydd am y grant. Rhaid i daliadau yn erbyn cyfriflenni cerdyn credyd gael eu gwneud o’r cyfrif banc busnes uchod. Bydd angen tystiolaeth i ddangos bod gwerth pryniannau cerdyn credyd o’r fath wedi cael eu talu oddi ar y gyfriflen berthnasol     

Ni dderbynnir taliadau arian parod.      

Drwy gyflwyno cais, byddwch yn cadarnhau’r canlynol:  

  • Eich bod yn gallu cwblhau’r prosiect a thynnu’r grant i lawr o fewn dau fis i ddyddiad y cynnig. 
  • Bod gennych gyfrif banc busnes enwebedig ac mai’r cyfrif hwnnw y byddwch yn ei ddefnyddio i wneud taliadau’r prosiect  
  • Eich bod yn cydnabod y bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn defnyddio manylion eich busnes a’ch prosiect mewn gweithgarwch hyrwyddo yn y dyfodol, e.e. datganiadau i’r wasg, astudiaethau achos ac ati. 
  • Eich bod yn cydnabod ei bod yn ofynnol i Gyngor Castell-nedd Port Talbot gyhoeddi manylion dyfarniadau grant 


Bydd Panel Cyllido’r Cyngor yn ystyried pob cais. Os byddwch yn llwyddiannus, caiff cynnig ysgrifenedig o gyllid ei anfon atoch ac mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am wybodaeth ychwanegol gennych.  
 

Sut mae tynnu’r cyllid i lawr? 
Bydd eich llythyr cynnig yn cynnwys manylion y dystiolaeth y bydd angen i ni ei chael, e.e. copïau o anfonebau, cyfriflenni banc , cyfrif busnes penodedigtystiolaeth o ffynonellau cyllid eraill ac ati.  

D.S: rhaid i’r anfonebau a/neu dderbynebau a gyflwynir gennych gyda’ch hawliad gyfateb i’r dyfynbrisiau gwreiddiol yn eich cais a bod ag isafswm gwerth o £50.00 heb gynnwys TAW.  

A fyddaf yn cael unrhyw gymorth parhaus? 

Bydd y Tîm Datblygu Economaidd yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn ymweld â chi i fonitro eich prosiect. Gallwch gael cyngor a chymorth parhaus drwy gysylltu â’r Tîm.   

A allaf wneud cais am gyllid pellach?  
Gallwch wneud ceisiadau pellach. Fodd bynnag, bydd yn rhaid i chi fod wedi cwblhau unrhyw brosiectau a gafodd gynnig grantiau blaenorol a thynnu’r grant i lawr. Bydd angen i’r prosiect newydd ddangos tystiolaeth o greu a/neu ddiogelu swyddi sy’n wahanol i’r rhai mewn ceisiadau blaenorol.   

Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)
Caiff eich gwybodaeth ei phrosesu yn unol â dogfen CBS Castell-nedd Port Talbot – Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaethau Datblygu Economaidd  y bydd copi caled ohoni ar gael ar gais.  

Contact
If you require any further information, please contact: 
Email: spfbusiness2@npt.gov.uk or telephone 01639 686835