Cymorth Pontio Tata Steel

Cronfa Hyblyg Pontio'r gadwyn gyflenwi
Bydd busnesau sy’n perthyn i gadwyn gyflenwi Tata Steel UK ac y bydd y newid i ddefnyddio trydan i gynhyrchu dur ym Mhort Talbot yn effeithio arnyn nhw yn cael ceisio am arian i’w helpu â heriau tymor byr y cyfnod pontio, yn ogystal ag am help i baratoi ar gyfer cyfleoedd newydd i dyfu.

Mae Busnes Cymru yn gwahodd busnesau sy’n rhan o gadwyn gyflenwi Tata Steel UK i asesu a ydyn nhw’n gymwys am gymorth Cronfa Pontio Hyblyg y Gadwyn Gyflenwi sy’n rhan o gronfa gymorth gwerth £80m a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU trwy’r Bwrdd Pontio traws-lywodraethol. Bydd busnesau’n gallu datgan eu diddordeb i drafod eu hanghenion gyda Busnes Cymru, trwy wiriwr cymhwysedd. Bydd busnesau cymwys wedyn yn mynd trwy broses ddiagnostig drylwyr cyn cael gwahoddiad i wneud cais am gymorth ariannol.

Gallwch ddefnyddio'r adnodd hwn i wirio a ydych yn gymwys i gael cyllid:

Mae'r broses yn un syml, a dylech ateb pob cwestiwn yn onest ac yn gywir. Os byddwch yn bodloni'r meini prawf, cewch gyfarwyddiadau pellach ar sut i symud ymlaen.

Cronfa Hyblyg ar gyfer Cyflogaeth a Sgiliau

Os ydych chi’n byw yng Nghymru, ac wedi colli eich swydd gyda Tata Steel UK yn ddiweddar, neu gyda chwmni yn ei gadwyn gyflenwi, neu gyda chontractiwr cysylltiedig arall, gallwch gael mynediad i arian grant i’ch helpu i sicrhau cyflogaeth i’r dyfodol.

Sefydlwyd y Gronfa Hyblyg ar gyfer Cyflogaeth a Sgiliau gan Fwrdd Pontio Tata i gefnogi pobl yng Nghymru a effeithir yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gan raglen drawsnewid bresennol Tata Steel UK.

Os ydych chi’n gymwys, gall y grantiau ar gyfer unigolion eich helpu i dalu costau pethau fel:

  • costau hyfforddi
  • ffioedd sefyll arholiad
  • tystysgrifau a thrwyddedau sy’n ymwneud â gwaith
  • offer a thaclau
  • yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ar gyfer yr hunan-gyflogedig

Nid rhestr lawn o enghreifftiau mo’r uchod, ac ystyrir cefnogi ariannu costau eraill ar sail achosion unigol.

Sut alla i gael mynediad i'r cyllid?

Os ydych chi’n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot:
Anfonwch e-bost at jobsupport@npt.gov.uk i drefnu cyfarfod gydag un o’n mentoriaid Cyflogadwyedd CNPT i drefnu a ydych chi’n gymwys.

Neu gallwch alw naill ai yng nghanolfannau picio-i-mewn Cyflogadwyedd CNPT neu’r Ganolfan Gefnogi Gymunedol newydd yng Nghanolfan Siopa Aberafan.

Os ydych chi’n byw yn rhywle arall yng Nghymru:
Cysylltwch â’ch gwasanaeth cyflogadwyedd lleol os gwelwch yn dda.
Neu os ydych chi’n gweithio ym Mhort Talbot ond yn byw yn rhywle arall, gallwch hefyd alw yn y lleoliadau picio-i-mewn uchod i siarad wyneb yn wyneb ag un o’n cynghorwyr.