Cronfa Ffyniant Gyffredin 2

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ystyried bod buddsoddi mewn egin fusnesau newydd, datblygu busnesau sydd eisoes yn bodoli a denu mewnfuddsoddwyr yn hollbwysig er mwyn cefnogi cymunedau lleol a’r economi.

Os ydych chi’n awyddus i ddechrau busnes, neu dyfu eich busnes presennol, mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael cyllid. Mae’r cyllid grant sydd ar gael ar hyn o bryd drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a’r canllawiau i ymgeiswyr wedi’u rhestru isod. Cofrestrwch eich diddordeb gan ddefnyddio’r ffurflen ar waelod y dudalen hon.

Grant Buddsoddi Mewn Busnesau

Ryan Evans Plumbing

Hyd at £10,000 tuag at gostau dechrau busnes cymwys, ar ffurf arian cyfatebol fel a ganlyn:

Gwariant prosiect rhwng £500 – £10,000 – 70% wedi’i ariannu drwy’r grant gydag ymgeiswyr yn ariannu’r 30% arall.

Caiff lefel y grant a ddyfernir ei chyfrifo’n seiliedig ar y canlynol:

  1. Canran y costau cymwys (yn cynnwys TAW), ac
  2. Nifer y swyddi a gaiff eu creu a/neu eu diogelu gan y prosiect fel a ganlyn:
  • – £5,000 fesul rôl amser llawn 30+ awr yr wythnos
  • – £2,500 fesul rôl ran-amser 16-29 awr yr wythnos.

Grant Dechrau Busnes

Debbie at lets talk starting your business event helping start up business

Hyd at £10,000 tuag at gostau dechrau busnes cymwys, ar ffurf arian cyfatebol fel a ganlyn:

Gwariant prosiect rhwng £500 – £10,000 – 70% wedi’i ariannu drwy’r grant gydag ymgeiswyr yn ariannu’r 30% arall.

Caiff lefel y grant a ddyfernir ei chyfrifo’n seiliedig ar y canlynol:

  1. Canran o’r costau cymwys (gan gynnwys TAW), a
  2. Nifer y swyddi a gaiff eu creu a/neu eu diogelu gan y prosiect fel a ganlyn:
  • – £5,000 fesul rôl amser llawn 30+ awr yr wythnos
  • – £2,500 fesul rôl ran-amser 16-29 awr yr wythnos.

Cronfa Blaenoriaeth i Fusnesau Lleol 2

Yr isafswm dyfarniad grant: Hyd at 70% o gostau, heb fod yn is na £25,000

Yr uchafswm dyfarniad grant: Hyd at 70% o gostau, heb fod yn fwy na £100,000.

Mae’r grant bellach ar gau ar gyfer datganiadau o ddiddordeb.

Rhoddir pob dyfarniad grant yn ôl disgresiwn a chaiff ceisiadau eu hystyried fesul achos.
Caiff y prosiectau hyn eu hariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

I gofrestru eich diddordeb yn unrhyw rai o’r grantiau a restrir, cliciwch y botwm isod a llenwch ffurflen ymholi, wedyn bydd aelod o’r tîm mewn cysylltiad â chi.