Canllaw Cronfa Twf Busnes a Arloesedd

Bydd ceisiadau am grantiau yn agor yn fuan.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwahodd busnesau uchelgeisiol i wneud cais am grantiau cyfalaf gwerth rhwng £25,000 a £100,000 er mwyn helpu i ddenu buddsoddiad, sbarduno arloesedd, gwella cynhyrchiant, arallgyfeirio i farchnadoedd newydd a chreu swyddi cynaliadwy.

Mae’r alwad agored gystadleuol hon yn targedu busnesau sy’n barod i fuddsoddi mewn prosiectau a fydd yn meithrin gwydnwch hirdymor, yn gwella cystadleurwydd ac yn cyfrannu at economi leol fwy arloesol, cynhyrchiol a chynaliadwy.

Mae’r Gronfa’n cynnig cyfle arbennig i fusnesau sydd ag uchelgeisiau twf clir gyflwyno prosiectau buddsoddadwy a all arwain at effaith economaidd fesuradwy.

  • Grantiau ar gael rhwng £25,000 a £100,000
  • Hyd at 70% o’r costau cyfalaf cymwys
  • Cymorth ar gyfer twf busnes, arloesedd, cynhyrchiant ac arallgyfeirio
  • Ar agor i brosiectau sy’n creu swyddi ac yn meithrin gwydnwch economaidd lleol mewn sectorau busnes allweddol fel gweithgynhyrchu, peirianneg, technoleg feddygol, TGCh, digidol a thechnolegau, adeiladu ac ynni adnewyddadwy.
  • Mae’n arbennig o berthnasol i fusnesau sy’n gweithredu mewn marchnadoedd newydd neu sydd wrthi’n ymuno â marchnadoedd o’r fath, fel ynni gwynt arnofiol ar y môr, ynni’r llanw, ynni niwclear, cynhyrchu hydrogen, awyrofod, lled-ddargludyddion a sectorau sy’n gysylltiedig â gwasanaethu’r sector amddiffyn.


Rhaid i geisiadau ddangos yn glir sut mae’r prosiect arfaethedig yn cyd-fynd ag un neu fwy o themâu allweddol y Gronfa, gan gynnwys arloesedd lle bo’n berthnasol, a sut y bydd yn cefnogi twf a datblygiad o fewn y sectorau busnes blaenoriaeth a nodir uchod.


Bydd ceisiadau am grantiau yn agor yn fuan.

Pwysig: Cyn gofyn am ffurflen gais, sicrhewch y gall eich prosiect gyflawni allbynnau a deilliannau gofynnol y Gronfa.