Fis yn ôl, agorodd siop goffi annibynnol newydd Bryncoch, ‘Red Hill Coffee’ ei drysau i’r cyhoedd am y tro cyntaf!
Cafodd y prosiect adnewyddu cyfalaf ei ariannu’n rhannol drwy gyfrwng Cronfa Ffyniant Cymoedd a Phentrefi Cyngor Castell-nedd Port Talbot, sy’n rhan o becyn cynlluniau grantiau’r Cyngor a agorwyd diolch i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (#UKSPF).
Gyda gweledigaeth o greu siop goffi sy’n ganolbwynt cymunedol, mae Red Hill Coffee, a leolir yn Furzeland Drive ym Mryncoch, bellach yn gweini arlwy o goffi arbenigol, byrbrydau bychan, nwyddau crwst a Hufen Iâ Joe’s, yn ogystal â diodydd oer. Yn fwy na hynny, gyda’r tân agored, rhyngrwyd ffeibr llawn, digonedd o le i eistedd tu fas ac awyrgylch sy’n croesawu cŵn, bydd Red Hill Coffee yn sicrhau fod pob aelod o’r gymuned yn teimlo’r croeso.
Dywedodd cyfarwyddwr Red Hill Coffee , Ben Dobson “Bu’n amser hir yn y paratoi, ond allwn ni ddim â theimlo mwy o gyffro i groesawu’r gymuned drwy ein drysau. O’r dechrau’n deg, pan ddechreuon ni ar y daith hon, ein nod wastad oedd darparu diwylliant coffi sy’n groesawgar i bawb, ac rydyn ni’n hyderus ein bod ni wedi cyflawni hynny gyda Red Hill Coffee.”
Cofiwch ymweld a chefnogi’r busnes lleol newydd hwn!