Hen Adeilad y Tîm Troseddau Ieuenctid, Port Talbot

November 1, 2024

Hen Adeilad y Tîm Troseddau Ieuenctid, Port Talbot

Mae’r prosiect hwn yn cynnwys adnewyddu eiddo a elwir yn Adeilad y Tîm Troseddau Ieuenctid ym Mhort Talbot. Fel rhan o’r Rhaglen Adfywio sy’n dal i fynd rhagddi ar gyfer Port Talbot, bydd yr Awdurdod yn gwneud addasiadau a gwaith adnewyddu mewnol i greu swyddfeydd cynllun agored hygyrch a hyblyg er mwyn gwella ardal Glannau’r Harbwr ymhellach a chynnal bywiogrwydd y rhan hon o’r dref. Caiff y prosiect hwn ei ariannu’n rhannol gan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi prosiectau i ailddatblygu a gwella canol trefi ac annog trefi defnydd cymysg fel lleoedd i fyw a gweithio ynddynt, ymweld â nhw ac aros ynddynt.

Ar hyn o bryd, mae hen adeilad y Tîm Troseddau Ieuenctid (a fydd yn cael ei ailenwi) yn adeilad gwag amlwg yng nghanol tref Port Talbot.

Mae’r adeilad wedi’i leoli ar un o’r prif ffyrdd i mewn i Bort Talbot ar hyd Ffordd yr Harbwr a gwblhawyd yn ddiweddar, ac mae’n agos at ardal safle cyflogaeth strategol Glannau’r Harbwr, yn ogystal â gorsaf drenau Parcffordd sydd wedi’i hailddatblygu a’r Hyb Trafnidiaeth Integredig. Mae’r adeilad hefyd wedi’i leoli wrth ymyl adeilad Llys yr Harbwr a gwblhawyd yn ddiweddar (Llys Ynadon Port Talbot gynt) sydd wedi cael ei adnewyddu fel rhan o raglen Adeiladau ar gyfer y Dyfodol yr Awdurdod, a ariennir yn rhannol gan WEFO a Llywodraeth Cymru.

Nod y prosiect hwn yw ailddatblygu’r adeilad yn gyfleuster a fydd yn cynnwys swyddfeydd hyblyg ynghyd ag ystafelloedd cyfarfod a hyfforddi cysylltiedig, a thrwy hynny gynnig cyfleoedd cyflogaeth yn ogystal â denu buddsoddiad economaidd pellach i’r ardal.

wave banner

You may also be interested in: