Grant Cychwyn Cronfa Ffyniant a Rennir: Aroy Dee Thai Food

March 18, 2026

Mae Aroy Dee Thai Food (ADTF) yn trawsnewid mynediad at fwyd Thai o ansawdd da ledled Castell-nedd Port Talbot drwy fynd â’i wasanaeth yn uniongyrchol at ei gwsmeriaid. Gan weithredu o gegin gartref sydd â sgôr hylendid a fan geffylau wedi’i throi’n uned arlwyo symudol, mae ADTF yn mynd â bwyd Thai ffres go iawn i leoliadau mewn pentrefi fel clybiau rygbi, canolfannau llesiant, siopau coffi a thafarndai lleol sydd heb gyfleusterau cegin.

Mae pwynt gwerthu unigryw ADTF yn syml: nid oes rhaid i’r cwsmeriaid deithio – bydd y bwyd yn dod atyn nhw. Mae’r model hwn yn cynnig opsiwn amgen cyfleus a diogel yn lle mynd allan gyda’r nos i ganol trefi, gan gefnogi mannau cymunedol hefyd ar yr un pryd drwy roi hwb i niferoedd ymwelwyr a gweithgarwch cymdeithasol.

Drwy Grant Dechrau Busnes y Gronfa Ffyniant Gyffredin, cafodd ADTF gymorth ymarferol gan Dîm Datblygu Economaidd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, gan helpu’r busnes i lansio’n llwyddiannus ag arweiniad arbenigol, cyllid, a chyngor parhaus.

Dywedodd y perchennog, Andrew Curnow:

“Mae’r cymorth gan Dîm Datblygu Economaidd Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi bod yn rhagorol. Mae eu cyngor, eu hanogaeth, a’u hymrwymiad gwirioneddol i fy helpu i lwyddo wedi gwneud gwahaniaeth enfawr. Gall Aroy Dee Thai Food ddatblygu ymhellach nawr diolch i’r cymorth arbennig a roddwyd gan dîm CNPT.”

Mae ADTF, sydd bellach yn ased cymunedol cydnabyddedig, yn parhau i dyfu drwy feithrin cysylltiadau cadarn o fewn cymunedau lleol ac ehangu ei gyrhaeddiad ledled Castell-nedd Port Talbot.

Mae'r cymorth gan Dîm Datblygu Economaidd Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi bod yn rhagorol. Mae eu cyngor, eu hanogaeth, a'u hymrwymiad gwirioneddol i fy helpu i lwyddo wedi gwneud gwahaniaeth enfawr. Gall Aroy Dee Thai Food ddatblygu ymhellach nawr diolch i'r cymorth arbennig a roddwyd gan dîm CNPT.
Andrew Curnow
Perchennog, Aroy Dee Thai Food

Ariennir y prosiect hwn yn rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

wave banner

You may also be interested in: