Booths By The Bridge: Sut helpodd cyllid grant SPF y busnes teuluol hwn i droi eu breuddwyd yn realiti

May 1, 2025

Gyda chefnogaeth gan ein Cronfa Ffyniant Gyffredin fe sicrhaodd Booths By The Bridge gyllid gan ganiatáu buddsoddi pellach yn yr adeilad a helpu i gadw ei hanes cyfoethog.

Bu’r cyllid hefyd yn fodd i brynu offer newydd a datblygu gofod awyr agored hyfryd i gwsmeriaid fwynhau harddwch Camlas Castell-nedd a Thraphont Aberdulais. Diolch i gefnogaeth leol anhygoel, mae’r caffi wedi cyflogi dros 15 o bobl mewn dim ond dau fis.

Dywed y cyd-sylfaenydd, Hannah Booth, ei fod wedi helpu i ddod â busnesau lleol at ei gilydd, gan hybu twf y gymuned a thwf economaidd.

You may also be interested in: