Astudiaeth Achos: FWS Services — Dechrau Cadarn ar ôl Proses Bontio Tata

February 12, 2026

FWS Services — Dechrau Cadarn ar ôl Proses Bontio Tata

Pan gyhoeddodd Tata Steel y byddai swyddi’n cael eu dileu ym Mhort Talbot, roedd llawer o deuluoedd lleol yn wynebu dyfodol ansicr. I Robbie Morgan, a oedd wedi treulio 18 mlynedd yn gweithio yn Adrannau Diogelwch a Thân y safle, rhoddodd y newyddion yr hwb roedd ei angen arno i droi ei brofiad yn gyfle newydd.

Ym mis Medi 2024, aeth Robbie a’i bartneriaid busnes, Daniel a Richard, ati i gyd-sylfaenu FWS (Fire Water Safety) Services Ltd. Mae’r busnes, sydd wedi’i leoli ym Mhort Talbot, yn darparu amrywiaeth o wasanaethau sy’n ymwneud â chydymffurfio â rheolau diogelwch tân a hylendid dŵr — o asesiadau risg tân ac archwiliadau drysau tân i asesiadau risg Legionella, samplu dŵr, a diheintio pibellwaith.

Yn ystod y camau cynnar, bu Robbie’n gweithio i gwmni ei bartneriaid, SW Water, tra oedd FWS yn cael ei ddatblygu yn y cefndir. Rhoddodd hyn sefydlogrwydd a phrofiad ymarferol ychwanegol iddo cyn i’r busnes ddechrau gweithredu’n llawn ym mis Gorffennaf 2025. Ers hynny, mae FWS wedi tyfu’n raddol, gan wneud gwaith i fusnesau lleol bach yn ogystal â chleientiaid masnachol mwy mewn dinasoedd fel Llundain a Manceinion.

Cael Cymorth yn ystod y Broses Bontio:
Gan wybod bod angen cynllunio’n ofalus ar gyfer sefydlu busnes ar ôl bod yn gyflogedig am gyfnod hir, cysylltodd Robbie â thîm Datblygu Economaidd Cyngor Castell-nedd Port Talbot. Helpodd y tîm ef i ddeall pa gymorth oedd ar gael drwy Gronfeydd Pontio Tata, gan gynnwys y cyngor a’r arweiniad a oedd ar gael drwy Busnes Cymru fel rhan o becyn o gyllid a chymorth a ddatblygwyd gan Lywodraeth y DU er mwyn cefnogi’r bobl hynny y gwnaeth yr ailstrwythuro yng ngwaith dur Tata ym Mhort Talbot effeithio arnynt.

Dywedodd Robbie fod y broses yn un gadarnhaol, yn enwedig ar ôl i gyllid Tata gael ei ddyfarnu. Roedd gallu hollti ei hawliad grant yn arbennig o ddefnyddiol, gan leddfu pwysau o ran llif arian parod yn ystod y misoedd cyntaf o fasnachu.

Sylfaen Gadarn ar gyfer Twf:
Gwnaeth y cyllid alluogi FWS Services i brynu offer arbenigol hanfodol, darparu gwasanaethau yn well, a datblygu gwefan broffesiynol — a gwnaeth hynny i gyd helpu’r busnes i feithrin hygrededd a denu amrywiaeth ehangach o waith. Rhoddodd y cymorth y sylfaen gadarn roedd ei hangen ar Robbie i dyfu’r cwmni mewn modd cynaliadwy.

Cyngor Robbie i Eraill

I unrhyw rai y mae proses bontio Tata wedi effeithio arnynt ac sy’n ystyried hunangyflogaeth, mae Robbie’n cynnig y cyngor canlynol:

“Cysylltwch yn gynnar a pheidiwch ag oedi. Gofynnwch gwestiynau – hyd yn oed os ydych chi’n credu eu bod yn ddibwys. Byddwch yn glir ynglŷn â’r hyn sydd bwysicaf i’ch busnes a pha fuddsoddiad fydd yn cael yr effaith fwyaf. Defnyddiwch y cymorth sydd ar gael, oherwydd mae wir yn gallu gwneud y gwahaniaeth rhwng brwydro drwy’r camau cynnar ac adeiladu rhywbeth cynaliadwy.”

Gan edrych yn ôl ar ei daith, ychwanegodd:

“Ar ôl treulio tua 18 mlynedd yn gweithio yn Tata Steel, gan gynnwys 15 mlynedd yn yr Adran Dân, mae gwneud cais i ddod yn gyflenwr cymeradwy yn teimlo fel cwblhau’r cylch. Mae bod mewn sefyllfa nawr lle mae’n bosibl y byddaf yn cefnogi’r busnes fel cyflenwr yn rhywbeth rwy’n falch iawn ohono.”

wave banner

You may also be interested in: