Mae Trawsnewid Trefi yn rhaglen Llywodraeth Cymru sydd wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r dirywiad yng nghanol trefi a dinasoedd Cymru ac i'w hailddyfeisio a'u hadfywio i fannau lle mae pobl eisiau treulio eu hamser.
Mae’n deg dweud bod trefi Castell-nedd Port Talbot yn wynebu llawer o heriau ar hyn o bryd, o ganlyniad i’r lleihad yn y galw am fanwerthu ar y stryd fawr, a’r pandemig. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar wella bioamrywiaeth a seilwaith gwyrdd; ailddefnyddio adeiladau gwag; cynyddu’r amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael mewn trefi, gyda phwyslais ar leoedd gweithio a byw hyblyg; a mynediad at wasanaethau a chyfleusterau hamdden.
Rydym wedi sicrhau cyllid gan raglen Trawsnewid Trefi er mwyn helpu i gefnogi buddsoddiad cyfalaf ar gyfer adfywio chwe chanol tref allweddol ledled y sir – y Grant Creu Lleoedd.
Y canol trefi lle y byddwn yn darparu cyllid y Grant Creu Lleoedd yw:
- Port Talbot
- Llansawel
- Castell – nedd
- Pontardawe
- Glyn-nedd
- Ystalyfera
Os yw eich busnes neu’ch sefydliad yn ystyried gwneud cais, mae’n syniad da trafod eich syniad prosiect gyda swyddog prosiect lleol yn gyntaf, gan y bydd yn gallu rhoi gwybod i chi a fyddai’n gymwys i gael cyllid, a’ch helpu i lunio datganiad cychwynnol o ddiddordeb. Yn ogystal â bodloni meini prawf y Grant Creu Lleoedd, rhaid i brosiectau hefyd ddangos cysylltiadau clir â chynllun bro tref neu strategaeth canol tref gyfredol.
Mae'r gweithgareddau y gallai'r Grant Creu Lleoedd eu hariannu yn cynnwys:
Gwella tu blaen adeiladau, ynghyd ag uwchraddio lleoedd gwag masnachol er mwyn iddynt gael eu defnyddio at ddibenion busnes buddiol unwaith eto
Troi lleoedd gwag ar loriau uchaf eiddo masnachol yn llety preswyl newydd
Cynnwys seilwaith carbon isel neu ddi-garbon a/neu fannau gwyrdd
Gwella tir y cyhoedd ar raddfa fach lle y bydd hynny’n cael effaith gymdeithasol ac economaidd amlwg
wblhau gwaith crynhoi tir ar gyfer cynigion strategol mwy, e.e. gwaith dymchwel er mwyn gwella cysylltedd neu greu mannau gwyrdd, darparu cyfleusterau cyhoeddus neu wella tir y cyhoedd
Caffael stondinau, standiau a llwyfannau masnachu ac ati a gosod cyflenwadau trydan allanol
Sefydlu busnesau dros dro neu fusnesau ‘yn y cyfamser’ mewn safleoedd gwag
Gwella tu blaen siopau ar y tu allan heb fod angen eu haddasu na’u hailddatblygu ar y tu mewn
Cefnogi dadansoddeg Wi-Fi a rhwydweithiau LoRaWAN
Hwyluso llwybrau teithio llesol lle na ellir ariannu hyn drwy ddulliau eraill
Darparu cyfleusterau chwarae awyr agored, ardaloedd gemau amlddefnydd a gweithgareddau hamdden yn yr awyr agored.
Bydd y rhaglen Grant Creu Lleoedd yn rhedeg am ddwy flynedd o 1 Ebrill 2023.
Bydd angen cwblhau’r holl brosiectau a ariennir erbyn mis Ionawr 2025.
Os oes gennych syniad ar gyfer prosiect adfywio yr hoffech siarad â ni amdano, neu i gael rhagor o wybodaeth a chanllawiau mewn perthynas â’r grant, cysylltwch â Donna Williams ar 07890892989 neu anfonwch e-bost gan ddefnyddio’r botwm isod:
Dyma rai enghreifftiau o brosiectau sydd wedi’u cwblhau:
Y Cantebury Arms, Castell-nedd
Y Woolpack, Glyn-nedd
Ffordd Llundain, Castell-nedd