Cronfeydd Pontio Tata Steel: Cyngor a Grantiau Dechrau Busnes

February 28, 2025

Mae cyngor a grantiau dechrau busnes o hyd at £50,000 ar gael i gefnogi
unigolion y mae pontio Tata Steel UK yn cael effaith arnynt ac sy’n bwriadu
dechrau eu busnes eu hunain neu ddod yn hunangyflogedig.

Dyma eich cynllun deg pwynt i’ch helpu i gael gafael ar y cymorth dechrau
busnes sy’n eich helpu i feithrin eich dealltwriaeth o fusnes a chael gafael ar
gymorth ariannol. Gadewch i ni ddechrau arni.

1. Gwirio eich bod yn gymwys. Ydych chi wedi cael eich effeithio gan
newidiadau yn safle Tata Steel UK yng Nghastell-nedd Port Talbot? Mae
hynny’n cynnwys gweithwyr, aelodau agos o’r teulu sy’n byw yn yr un cartref,
gweithwyr y gadwyn gyflenwi, neu gontractwyr. Os felly, efallai eich bod yn
gymwys i wneud cais.

2. Cofrestrwch eich diddordeb. Defnyddiwch y cod QR a llenwch y ffurflen
ymholiadau ar dudalen Busnes Cymru ar y we. Bydd tîm Busnes Cymru
yn cysylltu â chi ac yn cael sgwrs gychwynnol gyda chi ac yn cwblhau eich
cofrestriad.

3. Casglu gwybodaeth. Cymerwch amser i weld a yw hunangyflogaeth yn iawn
i chi. Bydd eich cynghorydd yn rhannu adnoddau a gwybodaeth am ddechrau
busnes, gan gynnwys taflenni ffeithiau busnes a chanllawiau cam wrth gam.

4. Datblygu eich gwybodaeth am fusnes. Ymunwch â’n gweminar “Dechrau
eich busnes eich hun” neu weithdy wyneb yn wyneb i’ch helpu i ystyried a yw
eich syniad yn ymarferol ac adeiladu ar eich gwybodaeth am fusnes i baratoi
cynllun busnes. Mae’r sesiynau hyn yn hanfodol er mwyn deall beth sydd
angen i chi ei wneud i ddechrau busnes a bod yn addas i dderbyn cyllid.

5. Paratoi eich cynllun busnes. Byddwch yn drefnus! Cewch gynghorydd busnes
a fydd yn trafod yr hyn sydd ei angen i gwblhau’r cynllun angenrheidiol,
rhagolwg llif arian a chasglu dogfennau ategol perthnasol y bydd eu hangen
arnoch ar gyfer eich cais.

6. Cwblhau cais am gyllid. Pan fyddwch yn barod, bydd Busnes Cymru yn eich
cyfeirio at Gyngor Castell-nedd Port Talbot i gael eich ffurflen gais unigryw ar
gyfer cyllid cychwyn busnes pontio TSUK. Gall eich cynghorydd helpu i drafod
pob cwestiwn a thelerau’r grant i’ch helpu i adeiladu cais o safon. Darllenwch y
canllawiau yn ofalus gan bod rhoi sylw i fanylion yn mynd yn bell!

7. Cyflwyno eich cais. Unwaith y bydd eich cais wedi’i drefnu, gofynnir i
chi gyflwyno eich cais i Gyngor Castell-nedd Port Talbot gan gynnwys
dyfynbrisiau perthnasol, tystiolaeth o gymhwysedd a chynllun busnes ategol,
yn dilyn y cyngor gan Busnes Cymru. Rydych bron a gorffen!

8. Camau dilynol. Cadwch lygad ar statws eich cais a chofiwch holi Gyngor
Castell-nedd Port Tabot neu eich cynghorydd Busnes Cymru os bydd angen.
Mae bob amser yn syniad da ymateb yn gyflym i unrhyw geisiadau am fwy o
wybodaeth. Peidiwch anghofio ein bod yma i’ch helpu drwy’r broses.

9. Derbyn y grant. Os yn llwyddiannus, darllenwch y cytundeb cynnig grant yn
ofalus, ei lofnodi a’i ddychwelyd. Cymerwch amser i ddeall gofynion y grant
a gawsoch, er mwyn sicrhau eich bod yn deall y dull o gwblhau eich ffurflen
gais a’r dystiolaeth y bydd angen i chi ei darparu. Mae Cyngor Castell-nedd
Port Talbot ar gael i drafod y broses gyda chi a Busnes Cymru ar gael i drafod
mathau eraill o gyllid dechrau busnes.

10. Cadw mewn cysylltiad. Cofiwch, dydych chi ddim ar eich pen eich hun!
Mae’r flwyddyn gyntaf mewn busnes yn brofiad dysgu mawr. Defnyddiwch
y gwasanaethau cynghori a mynychu digwyddiadau rhwydweithio dechrau
busnes rheolaidd sydd ar gael i’ch helpu i aros ar y trywydd iawn.

Cofiwch, wrth dderbyn arian cyhoeddus, chi sy’n gyfrifol am ddeall telerau’r
cytundeb ariannu grant.

wave banner

You may also be interested in: