Drwy ein Cronfa Ffyniant Gyffredin, hyd yma rydym wedi dyrannu £2.5 miliwn mewn grantiau i gefnogi busnesau ar draws Castell-nedd Port Talbot. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar fusnesau lleol ac ar y cymunedau lleol y maent yn eu gwasanaethu.
Mae’r grantiau hyn wedi helpu amrywiaeth o gwmnïau, o fusnesau newydd i fentrau sydd wedi’u sefydlu, mewn gwahanol ddiwydiannau. Mae hyn wedi caniatáu i fusnesau lleol gael mynediad i’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i gychwyn, tyfu ac arloesi. Dewch i ganfod y gefnogaeth fusnes sydd ar gael i chi, yn cynnwys y grantiau busnes a chyllid sydd ar gael o hyd.
Mae’r effaith gadarnhaol yn ymestyn y tu hwnt i’r busnesau eu hunain, gan olygu bod y cymunedau a’r economi leol y maen nhw’n eu gwasanaethu yn elwa. O Fargam i Bontardawe, o Aberafan i Glyn-nedd, drwy gryfhau busnesau lleol, mae cymunedau Castell-nedd Port Talbot wedi elwa.
Mae cefnogaeth y Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi creu 343 o swyddi potensial ac wedi diogelu 386 o swyddi eraill. Ar ben hyn, mae galluogi cefnogaeth fusnes i amrywiaeth o gwmnïau o wahanol sectorau wedi cryfhau cadwyni cyflenwi lleol. Mae cadwyni cyflenwi lleol cryfach yn helpu i gadw mwy o wariant yn yr economi leol.
Tra bod y ffigurau pennawd yn drawiadol, mae’n bwysig cofio bod stori go iawn y tu cefn i bob rhif. Mae’r Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau unigolion a busnesau ar draws Castell-nedd Port Talbot. Er mwyn gwerthfawrogi ei effaith yn iawn, gadewch i ni edrych ar dair enghraifft benodol o sut mae’r grantiau hyn wedi helpu cwmnïau lleol a’u cymunedau i ffynnu.
Derbyniodd JES Gyllid Busnes ar gyfer ei Academi Sgiliau, gan Helpu i Sicrhau Dyfodol Peirianneg yn yr Ardal.
Gyda chefnogaeth gan ein Cronfa Ffyniant Gyffredin, buddsoddodd Grŵp JES, cwmni peirianneg o Bort Talbot, mewn arloesi a thyfu eu Hacademi Sgiliau. O’r Academi Sgiliau, mae JES yn helpu unigolion i ddatblygu sgiliau weldio a ffabrigo er mwyn iddynt allu cymryd rhan mewn llwybrau peirianneg sgiliau uchel.
Gyda’r buddsoddiad hwn gall Grŵp JES gefnogi cymuned Castell-nedd Port Talbot yn well gan gynnig hyfforddiant, uwchsgilio cyfleoedd a galluogi hygyrchedd i yrfaoedd peirianneg. Gyda phrosiectau lleol fel y Porthladd Rydd Celtaidd a’r daith at sero net yn galw am swyddi peirianneg sgiliau uchel, mae JES yn helpu i sicrhau dyfodol peirianneg a gweithgynhyrchu yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Dysgwch ragor am sut y bydd Academi Sgiliau JES yn golygu bod y gymuned leol yn elwa.
Mae British Rototherm wedi Gwella ei Weithrediadau a bellach mae’n Gwasanaethu Cadwyni Cyflenwi Lleol a Byd-eang yn Well Diolch i’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Gyda chefnogaeth gan ein Cronfa Ffyniant Gyffredin, buddsoddodd British Rototherm, gwneuthurwr a dyluniwr offeryniaeth trachywir, mewn roboteg a chyfarpar profi arbenigol. Mae hyn wedi galluogi British Rototherm i gynyddu ei gapasiti, ei ansawdd ac uwchsgilio ei gyflogedigion.
Gyda’r buddsoddiad hwn gall British Rototherm wasanaethu cadwyni cyflenwi lleol a byd-eang yn well. Y cam nesaf yw i’r cwmni fuddsoddi yn ei gynllun cynaliadwyedd gyda’r uchelgais i gael 100% o’i ynni o ffynonellau adnewyddadwy.
Dysgwch ragor am y gefnogaeth fusnes a gafodd British Rototherm ac am ei gynlluniau cynaliadwyedd hir dymor.
Gyda Chymorth gan ein Cronfa Ffyniant Gyffredin, fel Lwyddodd Ryan Evans i gael dros dau Ddiswyddiad i Redeg Busnes Lleol Llwyddiannus.
Gyda cymorth gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin , mae Ryan Evans Plumbing, Heating and Tiling Services wedi cychwyn busnes llwyddiannus. Yn dilyn cael ei ddiswyddo ddwywaith, penderfynodd Ryan Evans gychwyn ei fusnes ei hun a gyda’r cymorth a’r cyllid oedd ar gael roedd hyn yn bosibl. Helpodd y cyllid hwn Ryan i fuddsoddi mewn cyfarpar, marchnata a chyfrifyddu.
Dewch o hyd i Gefnogaeth a Chyllid Busnes i Helpu eich Busnes yng Nghastell-nedd Port Talbot
Drwy ein Cronfa Ffyniant Gyffredin, mae amrywiaeth o gwmnïau wedi cael cymorth i gychwyn, i dyfu ac i ddatblygu; a thrwy hyn mae effaith gadarnhaol wedi ei theimlo yn y cymunedau lleol hefyd. Os gallai eich busnes chi elwa o gefnogaeth a chyllido, fel y busnesau uchod, mae cymorth ar gael. Mae gwybodaeth yma ar yr amrywiaeth o gefnogaeth a chyllid sydd ar gael i fusnesau yng Nghastell-nedd Port Talbot.