P'un a ydych chi'n ystyried cychwyn busnes neu'n fusnes sy'n bodoli eisoes, mae gennym amrywiaeth o ddigwyddiadau rydyn ni'n eu cynnal ar draws y Fwrdeistref Sirol sydd AM DDIM i'w mynychu.
Mae’r digwyddiadau’n cynnwys cymorth busnes, hyfforddiant arbenigol, cyfleoedd i rwydweithio, arddangosfeydd a chynadleddau, yn ogystal â gweithdai, fforymau sector a chyrsiau hyfforddi achrededig.
Darllenwch fwy am y digwyddiadau hyn a chofrestrwch eich lle gan ddefnyddio’r dolenni isod:
Gawn ni Siarad Busnes
Cymorth am ddim er mwyn i fusnesau ddechrau, tyfu ac arloesi.
Gadewch i ni Siarad Busnes dros baned, dan arweiniad ein Swyddogion Datblygu Busnes, mae ein digwyddiadau Let’s Talk Business yn ymwneud ag archwilio’r syniadau busnes cyffrous hynny, archwilio cyfleoedd a chynlluniau i dyfu eich busnes presennol a/neu gefnogaeth ariannol. Bydd ein swyddogion medrus iawn a’n partneriaid busnes allanol wrth law i glywed am eich syniadau, cynnig cefnogaeth ac archwilio materion sydd bwysicaf i’ch busnesau. Bydd digwyddiadau Let’s Talk Business yn cael eu cynnal ar draws Castell-nedd Port Talbot, edrychwn ymlaen at gwrdd â chi.Mae'r Digwyddiad Gawn Ni Siarad Busnes wedi ein helpu o ran datblygu ein defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol ac o ran recriwtio, ac wedi rhoi cyngor ar safleoedd i ni, ac mae wedi bod yn ddefnyddiol dros ben. Yn sicr, byddwn i'n ei argymell i unrhyw un sy'n awyddus i ddechrau busnes yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Mae'r Digwyddiad Gawn Ni Siarad Busnes wedi bod yn rhyfeddol o dda. Rwyf wedi siarad â nifer o bobl am helpu fy musnes i dyfu, maen nhw wedi trefnu lle i mi mewn sesiynau hyfforddi a allai helpu fy musnes, ac rwyf bellach yn gwneud cais am grant er mwyn cael offer i helpu'r busnes i dyfu. Roedd pawb yn gyfeillgar, yn frwdfrydig, ac yn wirioneddol awyddus i mi gael yr help roedd ei angen arnaf i wneud hynny.
Hyfforddiant Lleihau Carbon
Mae gweithdai hyfforddi am ddim ar gael er mwyn dangos i fusnesau lleol sut y gallant ddefnyddio Adnodd Archwilio i’w helpu i ddeall:
- Defnydd ynni;
- Effaith eu hallyriadau ar yr amgylchedd;
- Sut y gall mesur perfformiad amgylcheddol ac adrodd arno helpu busnesau i leihau costau ynni ac adnoddau;
- Risgiau newid hinsawdd
Cael Hyfforddiant Lleihau Carbon yw’r cam cyntaf i fusnes. I’r rhai a fydd yn dod o hyd i fesurau lleihau carbon er mwyn lleihau defnydd a chostau, gallai cymorth grant fod ar gael (hyd at 50% o’r costau) er mwyn cyflwyno technolegau a chyfarpar newydd ac ati.
Caiff yr Archwiliad Ynni, yr Hyfforddiant Lleihau Carbon a’r cymorth grant cysylltiedig eu darparu drwy brosiect Mwy o Gymorth Busnes er Budd Twf ac Arloesi, a ariennir drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
I ddod o hyd i ddigwyddiad yn eich ardal chi a chofrestru, cliciwch isod (mae’r ddolen yn agor ffenestr newydd):