Cronfa Datblygu Busnesau'r Gronfa Twf Lleol
Cyllid Grant ar Gael
Busnesau Newydd
Mae Grant Dechrau Busnes y Gronfa Twf Lleol bellach wedi ailagor i ddarpar entrepreneuriaid yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Grantiau o £500 i £10,000
Busnesau Presennol
Mae Grant Datblygu Busnes y Gronfa Twf Lleol bellach wedi ailagor i fusnesau sydd eisoes yn gweithredu yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Grantiau o £2,500 i £25,000
Gronfa Twf Busnes ac Arloesi
Mae’r Gronfa Twf Busnes ac Arloesi nawr ar gau i cymwysiadau newydd
Cefnogir y prosiect hwn gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Twf Lleol y DU yng Nghymru
Mae’r grant yn cefnogi prosiectau sy’n cyfrannu at dwf busnes cynaliadwy a gwytnwch economaidd ar draws Castell-nedd Port Talbot.
Gall cyllid gefnogi:
- Twf ac ehangiad busnesau
- Arloesedd a datblygu cynhyrchion
- Lansio gwasanaethau newydd
- Gwelliannau cynhyrchedd
- Buddsoddiad mewn cyfarpar neu dechnoleg
- Mynd i farchnadoedd newydd
- Gweithgaredd cychwyn busnesau newydd
- Trosglwyddo gwybodaeth a chydweithredu
- Creu swyddi
- Gwariant cyfalaf yn unig
Rhaid i bob dyfarniad grant arddangos creu swyddi fel rhan o ganlyniadau’r prosiect.
Mae’r rhaglen ar agor i:
- Fusnesau newydd sy’n cychwyn
- Unig Fasnachwyr
- Busnesau micro
- Busnesau Bach a Chanolig (BBaCh)
- Mentrau cymdeithasol sy’n ymwneud â gweithgaredd economaidd
- Busnesau presennol wedi’u lleoli yng Nghastell-nedd Port Talbot
Bydd y Grant Datblygu Busnesau’n cael ei gyflwyno drwy broses Galwad Agored dau gam.
Cam 1 – Mynegiant o Ddiddordeb (MoDd)
Gall busnesau wneud cais a chyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb cychwynnol yn amlinellu eu prosiect arfaethedig a’u gofynion cyllido.
Cam 2 – Cais Llawn
Bydd ymgeiswyr cymwys wedyn yn cael gwahoddiad i gyflwyno cais llawn ynghyd â thystiolaeth i’w gefnogi.
Bydd yr Alwad Agored yn ailagor am bythefnos.
Caiff busnesau eu hannog i baratoi a chyflwyno ceisiadau’n gynnar er mwyn osgoi cael eu siomi.
Mae angen i geisiadau am grant arddangos eu bod yn cefnogi amrediad o ganlyniadau o ran twf economaidd a datblygu busnes, yn cynnwys:
Creu Swyddi
Mae helpu i greu swyddi cyfwerth ag amser llawn (CALl) parhaol newydd ledled Castell-nedd Port Talbot yn hanfodol.
Mentrau Newydd
Helpu entrepreneuriaid i sefydlu busnesau newydd wedi’u cofrestru drwy Dŷ’r Cwmnïau neu CThEM.
Arloesedd
Cefnogi busnesau i gyflwyno cynhyrchion a gwasanaethau newydd neu wedi gwella i’r farchnad.
Gwelliannau mewn Cynhyrchedd
Helpu busnesau i gynyddu effeithlonrwydd, allbwn a chystadleurwydd.
Cyfleoedd Marchnadoedd Newydd
Cefnogi busnesau i ehangu i farchnadoedd newydd rhanbarthol, cenedlaethol neu ryngwladol.
Cynhyrchion Newydd i’r Farchnad
Annog datblygu cynhyrchion, gwasanaethau a thechnolegau arloesol.
Nod y Grant Datblygu Busnesau yw cryfhau’r economi rhanbarthol drwy gefnogi menter, gwella cynhyrchedd a chreu cyfleoedd cynaliadwy i gymunedau ar draws De Orllewin Cymru.
Mae Cyllido Twf Lleol yn ffurfio rhan o’r ymateb rhanbarthol ehangach i drawsnewid economaidd ac adfywio, yn cynnwys cefnogaeth yn gysylltiedig â phontio Tata Steel ym Mhort Talbot.
Drwy fuddsoddi mewn busnesau lleol, nod y rhaglen yw creu busnesau gwydn, swyddi o ansawdd a thwf economaidd hirdymor ar draws Castell-nedd Port Talbot.
Mae Galwad Agored yn wahoddiad cyhoeddus i bobl neu sefydliadau wneud cais am gyllid a chefnogaeth o fewn cyfnod amser penodol.
Yn syml mae’n golygu:
- Mae ceisiadau ar agor i unrhyw un sy’n cwrdd â’r meini prawf cymhwyster
- Mae terfyn amser penodol ar gyfer gwneud cais
- Caiff ceisiadau eu hasesu’n gystadleuol
- Caiff ymgeiswyr llwyddiannus eu dewis yn seiliedig ar ba mor dda y maen nhw’n cwrdd ag amcanion y rhaglen
For this grant programme, the Open Call gives businesses in Neath Port Talbot the opportunity to apply for funding during a two week application window.
Cysylltwch â'r Tîm
Cysylltwch â'r tîm heddiw i drafod eich prosiect ac i ddysgu sut y gallai eich busnes elwa o gymorth grant.