CYNGOR BWRDEISTREF SIROL
CASTELL-NEDD PORT TALBOT
CANLLAWIAU I YMGEISWYR – Y GRONFA TWF LLEOL – GRANT DECHRAU BUSNES
Cefnogir y prosiect hwn gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Twf Lleol y DU yng Nghymru
Cefnogi Busnesau Newydd
Mae Grant Dechrau Busnes y Gronfa Twf Lleol bellach ar agor ar gyfer datganiadau newydd o ddiddordeb am gyfnod o bythefnos. Y terfyn amser ar gyfer eu cyflwyno yw 12 hanner dydd ar 23 Hydref 2026.
Mae CBS Castell-nedd Port Talbot o’r farn bod buddsoddi mewn egin fusnesau newydd, datblygu busnesau sydd eisoes yn bodoli a denu mewnfuddsoddwyr yn hollbwysig er mwyn cefnogi cymunedau lleol a’r economi.
Nod ein rhaglen ‘Gawn Ni Siarad: Dechrau Eich Busnes CHI’ yw cefnogi unigolion sy’n awyddus i ddechrau busnes a’r rhai sy’n masnachu ers chwe mis neu lai drwy roi gwybodaeth, cymorth ac arweiniad iddynt, yn ogystal â chyllid grant i’r rhai sy’n gymwys.
Bydd unigolion sy’n awyddus i ddechrau busnes yn rhan-amser hefyd yn cael eu hystyried os byddant yn gweithio yn y busnes am o leiaf 16 awr yr wythnos.
Gall ymgeiswyr hawlio rhwng £500 a £10,000 er mwyn helpu i dalu costau dechrau busnes, ar ffurf arian cyfatebol gwerth hyd at 50%.
Bwriedir y grant hwn i gefnogi buddsoddiad cyfalaf yn unig sy’n creu dechrau busnesau newydd ac yn galluogi eu twf, cynhyrchiant gwell a chreu swyddi.
Rhoddir cyllid yn ôl disgresiwn a chaiff ceisiadau eu hystyried fesul achos.
Mae grantiau ar gael er mwyn helpu egin fusnesau newydd, busnesau sydd eisoes yn bodoli a mewnfuddsoddwyr i gyflawni prosiectau NAD YDYNT yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer ffynonellau grant eraill, megis Llywodraeth Cymru ac ati.
Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i wneud cais os ydych chi:
- Wedi dechrau masnachu neu wedi bod yn masnachu PRAWF yn ystod y chwe mis diwethaf
- Heb ddechrau masnachu, yn cael eich cyflogi’n rhan-amser, yn ddi-waith, yn economaidd anweithgar, wedi cael rhybudd dileu swydd neu’n symud o swydd i hunangyflogaeth ar adeg eich cais (ar gyfer partneriaethau a chwmnïau cyfyngedig, bydd yn rhaid i bob ymgeisydd fodloni’r maen prawf cymhwysedd hwn)
- Yn 18 oed neu’n hŷn
- Gallu dangos bod gennych brofiad a/neu gymwysterau sy’n berthnasol i’r maes y mae’r busnes yn gweithredu ynddo
Wedi mynychu un ai:
- Un o weithdai dechrau busnes Llywodraeth Cymru neu
- Un o weithdai archwilio menter Ymddiriedolaeth y Tywysog
- Yn cael cymorth drwy wasanaeth Busnes Cymru neu sefydliad cymorth cymeradwy/cydnabyddedig arall
- Yn gallu dangos profiad blaenorol o hunangyflogaeth.
Gall y cyllid gefnogi busnesau sy’n gweithredu yn y rhan fwyaf o sectorau cyn belled â bod y busnes wedi’i leoli yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:
- Adeiladu
- Creadigol a’r Cyfryngau
- Ynni
- Peirianneg
- Yr Amgylchedd
- TGCh
- Gweithgynhyrchu
- Ynni Adnewyddadwy
- Manwerthu
- Twristiaeth, Lletygarwch a Hamdden
Er y cefnogir amrywiaeth eang o sectorau a gweithgareddau, nid yw’r rhestr yn hollgynhwysfawr. Ni fydd y Cyngor yn cefnogi unrhyw weithgaredd anghyfreithlon nac unrhyw weithgaredd arall a all beryglu enw da’r Cyngor ym marn y panel. Ni roddir cymorth grant ar gyfer y gweithgareddau canlynol.
- Modelu noeth neu hanner noeth
- Cwnsela
- Cynnig gwasanaethau rhywiol o unrhyw fath
- Hyfforddiant bywyd
- Pornograffi
- Gamblo
- Canolfannau hapchwarae
- Hyrwyddo gweithgareddau crefyddol neu wleidyddol penodol
- Gwasanaethau gwely haul
- Adeiladu Hapfasnachol
- Therapïau, cynhyrchion a meddyginiaethau amgen
- Triniaethau meddygol ategol, cynhyrchion cosmetig a thriniaethau esthetig.
DIM OND os bydd ganddynt Drwydded Gweithdrefnau Arbennig a roddwyd gan eu hawdurdod lleol y bydd y gweithgareddau canlynol yn gymwys:
- Tatŵyddion (gan gynnwys colur lled-barhaol a microlafnu)
- Tyllu’r corff (gan gynnwys tyllu’r clustiau)
- Electrolysis
- Aciwbigo (gan gynnwys nodwyddo sych)
Bydd y grant yn helpu i dalu amrywiaeth o gostau, yn amodol ar isafswm gwariant o £50.00 gan gynnwys TAW fesul dyfynbris, gan gynnwys:
- Adnewyddu’r safle
- Offer, peiriannau a chyfarpar
- IT hardware
- Stoc (h.y. deunyddiau crai a ddefnyddir i gynhyrchu’r eitemau/cynhyrchion yr hoffech eu gwerthu) D.S: Ni fydd eitemau y byddwch yn eu prynu i’w gwerthu yn gymwys.
- Offer
- Tanysgrifiadau wythnosol/misol (oni fydd modd eu prynu ymlaen llaw)
- Cerbydau a’u costau rhedeg cysylltiedig, h.y. petrol, teiars, cynnal a chadw ac ati.
D.S: Ni fydd eitemau a brynwyd cyn gwneud cais neu gael cynnig grant ffurfiol yn gymwys ar gyfer cymorth cyllid.
Mae grantiau gwerth rhwng £500 a £10,000 ar gael.
Hyd at £10,000 tuag at gostau cymwys, ar ffurf arian cyfatebol fel a ganlyn:
Gwariant prosiect rhwng £500 a £10,000 – 50% wedi’i ariannu drwy’r grant gyda’r ymgeisydd yn ariannu’r 50% arall.
Caiff lefel y grant a ddyfernir ei chyfrifo’n seiliedig ar y canlynol:
- Canran y costau cymwys (heb gynnwys TAW), a
- Nifer y swyddi a gaiff eu creu gan y prosiect fel a ganlyn:
- £7,500 y swydd llawn-amser (30+ awr yr wythnos). Gall cynnydd i £10,000 fod ar gael pan fo’r swydd yn cael ei thalu’n uwch na chyflog cyfartalog cenedlaethol y DU (£35,796), yn dibynnu ar feini prawf cymwysedd.
- £3,750 y rôl ran-amser (16–29 awr yr wythnos). Gall cynnydd i £5,000 fod ar gael pan fo cyflog cyfwerth amser llawn (FTE) yn fwy na £35,796, yn amodol ar feini prawf cymhwyster.
Rhoddir grantiau yn ôl disgresiwn a bydd y Cyngor yn ystyried ceisiadau fesul achos.
NB:
- Ni allwch ymrwymo i wariant cyn cael cynnig ysgrifenedig.
- Bydd gan y Cyngor hawl i edrych i weld a yw busnes neu ymgeisydd mewn ôl-ddyledion mewn perthynas ag unrhyw daliad i Gyngor Castell-nedd Port Talbot ac, os gwelir ei fod, mae’n bosibl y caiff y cynnig o gymorth ei dynnu’n ôl.
- Bydd cyllid gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn ddarostyngedig i Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau Llywodraeth y DU (2022).
Caiff y Grant Dechrau Busnes ei ddyrannu drwy broses Galwad Agored dau gam gystadleuol a gaiff ei hyrwyddo’n eang ymhlith busnesau newydd a busnesau sydd eisoes yn bodoli ledled Castell-nedd Port Talbot.
Cam 1 – Datganiad o Ddiddordeb
Bydd ymgeiswyr yn llenwi ffurflen Datganiad o Ddiddordeb.
– Gwiriadau cymhwyster wedi’u cynnal.
– Fe fydd prosiectau cymwys yn cael eu gwahodd i wneud cais llawn.
Cam 2 – Cais Llawn
Bydd ymgeiswyr cymwys yn cyflwyno cais llawn a thystiolaeth ategol.
Bydd swyddogion yn cwblhau prosesau diwydrwydd dyladwy a gwiriadau rheoli cymorthdaliadau.
Caiff adroddiadau cryno eu paratoi ar gyfer y Panel Cyllido.
Bydd y panel yn bwrw golwg dros yr argymhellion ac yn cymeradwyo penderfyniadau.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael Llythyr Cynnig Grant ffurfiol.
Quotes for the project expenditure must be submitted with your application.
Procurement Guidelines:
Ar gyfer egin fusnesau, dim ond eitemau dros £50.00 gan gynnwys TAW fydd yn gymwys
Rhaid glynu wrth y canlynol:
- If you have your own Procurement Policy: A copy must be provided to Neath Port Talbot Council’s LGF Programme Management Office for their records.
- Os nad oes gennych bolisi caffael, RHAID i chi ddilyn y rheolau canlynol i ddangos gwerth am arian:
Pan fydd y Derbynnydd yn dyfarnu contractau i gael eu hariannu drwy’r Grant, rhaid iddo wneud hynny:
- drwy broses gaffael gystadleuol sy’n cyfateb i’r hyn a geir o dan Ddeddf Caffael 2023; neu
- os bydd gwerth y caffaeliad islaw’r trothwy perthnasol sy’n berthnasol at ddibenion Deddf Caffael 2023, drwy broses gaffael gystadleuol gyfatebol sy’n deg, yn dryloyw ac nad yw’n gwahaniaethu, sydd wedi cael ei chymeradwyo gan y Cyngor, sy’n ddigonol i fodloni’r Cyngor bod gwerth am arian wedi cael ei sicrhau neu y bydd yn cael ei sicrhau, ac sy’n cynnwys:
- Hyd at £10,000 – 1 (un) dyfynbris yn ofynnol
- Rhwng £10,000 a £100,000 – 3 (tri) dyfynbris yn ofynnol (neu’r defnydd o gytundeb fframwaith caffael drwy gystadleuaeth)*
Rhaid i’r dyfynbrisiau fod yn seiliedig ar y canlynol:
- yr un fanyleb o ofynion
- yr un meini prawf gwerthuso a gwerthuso ar sail tebyg at ei debyg. Mae’n arfer dda sefydlu panel gwerthuso
- yr un dyddiad cau ar gyfer cyflwyno dyfynbrisiau, a’r ffaith na chânt eu derbyn ar ôl hynny
Rhaid i gofnod wedi’i ddogfennu o’r dyfynbrisiau a geisiwyd, y broses werthuso a’r penderfyniad i ddyfarnu gael ei gadw at ddibenion archwilio.
*Os mai dim ond 1 (un) dyfynbris a dderbynnir, rhaid i chi gysylltu â’r Cyngor i ddarparu manylion a chyfiawnhad dros y broses gaffael rydych chi wedi’i chynnal. Rhaid i’r Cyngor gymeradwyo’r penderfyniad i fwrw ymlaen i brynu fesul achos. Copi o’r holl ddyfynbrisiau a gohebiaeth wedi’i gadw ar gyfer cofnodion. Bydd yr holl ffigurau yn cynnwys TAW.
Dros £100,000 hyd at drothwy Deddf Caffael 2023 (£214,904 ar gyfer nwyddau/gwasanaethau a £5,372,609 ar gyfer gwaith ar hyn o bryd). Rhaid ceisio o leiaf 3 (tri) dyfynbris o ffynonellau cystadleuol. Os daw llai na dau ddyfynbris i law, rhaid i chi gysylltu â’r Cyngor i rannu’r manylion a chyfiawnhad o’r broses gaffael y byddwch wedi’i dilyn. Bydd yn rhaid i’r penderfyniad i brynu gael ei gymeradwyo gan y Cyngor fesul achos. Copi o’r holl ddyfynbrisiau a gohebiaeth a gadwyd ar gyfer cofnodion.
Bydd yr holl ffigurau yn cynnwys TAW.
Bydd yn rhaid i’r un wybodaeth gael ei rhoi i bawb a wahoddir i roi dyfynbris:
- yr un fanyleb o ofynion
- amlinelliad o’r meini prawf gwerthuso a ddefnyddir i ddyfarnu’r contract
- yr un dyddiad cau ar gyfer cyflwyno dyfynbrisiau, a’r ffaith na chânt eu derbyn ar ôl hynny
Bydd yn rhaid i’r broses werthuso a ddilynir gennych fod yn gyson â’r meini prawf gwerthuso gwreiddiol a amlinellwyd a bydd yn rhaid cyflwyno taflen gyfiawnhau yn esbonio ar ba sail y dewiswyd y tendr llwyddiannus. Yr arfer orau yw sefydlu panel gwerthuso i werthuso tendrau.
Yn achos prosesau caffael â gwerth sy’n uwch na throthwy’r DU, cysylltwch â’ch Swyddog Prosiect yn y Cyngor.
D.S: Rhaid i’r ceisiadau a gyflwynir gael eu hawdurdodi’n briodol gan berchennog, partner neu gyfarwyddwr yn y busnes.
Can I use credit cards and cash as well as my bank account to pay my project costs?
Rhaid i daliadau ar gyfer gwariant prosiect gael eu gwneud o gyfrif banc busnes fel a ganlyn:
Pobl hunangyflogedig ac unig fasnachwyr – rhaid defnyddio cyfrif banc sydd at ddibenion busnes, a all fod yn eich enw eich hun neu yn enw’r busnes. Rhaid i gyfriflenni a gyflwynir gyda hawliadau grant ddangos tystiolaeth glir o incwm a gwariant y busnes.
Partneriaethau, cwmnïau cyfyngedig ac ati – rhaid defnyddio cyfrif banc yn enw’r busnes.
Derbynnir pryniannau gyda cherdyn credyd lle mae’r cerdyn yn cael ei ddal yn enw a chyfeiriad yr ymgeisydd am grant. Rhaid gwneud taliadau yn erbyn datganiadau cerdyn credyd o’r cyfrif banc busnes uchod. Evidence will be required to show that the value of such credit card purchases have been paid off the relevant statement.
Payments by cash will not be accepted.
In submitting an application, you confirm that you:
- Gall cwblhau’r prosiect a dynnu’r grant i lawr o fewn dau fis o ddyddiad y cynnig.
- Bod gennych gyfrif banc busnes enwebedig ac mai’r cyfrif hwnnw y byddwch yn ei ddefnyddio i wneud taliadau’r prosiect
- Eich bod yn cydnabod y bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn defnyddio manylion eich busnes a’ch prosiect mewn gweithgarwch hyrwyddo yn y dyfodol, e.e. datganiadau i’r wasg, astudiaethau achos ac ati.
- Cydnabod ei bod yn ofynnol i Gyngor Castell-nedd Port Talbot gyhoeddi manylion dyfarniadau grant.
Bydd Panel Cyllido’r Cyngor yn ystyried pob cais. Os byddwch yn llwyddiannus, caiff cynnig ysgrifenedig o gyllid ei anfon atoch ac mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am wybodaeth ychwanegol gennych.
How do I draw down the funding?
Bydd eich llythyr cynnig yn cynnwys manylion y dystiolaeth y bydd angen i ni ei chael, e.e. copïau o anfonebau, cyfriflenni banc cyfrif busnes penodedig, tystiolaeth o ffynonellau cyllid eraill ac ati.
D.S: rhaid i’r anfonebau a/neu dderbynebau a gyflwynir gennych gyda’ch hawliad gyfateb i’r dyfynbrisiau gwreiddiol yn eich cais a bod ag isafswm gwerth o £50.00 gan gynnwys TAW.
Pan fyddwch yn cwblhau eich prosiect, bydd yn ofynnol i chi ddangos tystiolaeth eich bod wedi cofrestru cwmni neu dystiolaeth gan CThEF i ddangos bod busnes wedi’i greu, ac yswiriant busnes i brofi bod gweithgarwch wedi dechrau.
A fyddaf yn cael unrhyw gymorth parhaus?
Bydd y Tîm Datblygu Economaidd yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn ymweld â chi i fonitro eich prosiect. Gallwch gael cyngor a chymorth parhaus drwy gysylltu â’r Tîm.
Alla i wneud cais am fwy o gyllid?
Gallwch wneud ceisiadau pellach. Fodd bynnag, bydd yn rhaid i chi fod wedi cwblhau unrhyw brosiectau a gafodd gynnig grantiau blaenorol a thynnu’r grant i lawr. Bydd angen i’r prosiect newydd ddangos tystiolaeth o greu swyddi sy’n wahanol i’r rhai mewn unrhyw geisiadau blaenorol.
Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)
Caiff eich gwybodaeth ei phrosesu yn unol â dogfen CBS Castell-nedd Port Talbot – Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaethau Datblygu Economaidd – y bydd copi caled ohoni ar gael ar gais.
Datganiad o Ddiddordeb:
Lawrlwytho’r canllaw yma:
Mae’r Gronfa Twf Lleol Grant Cychwyn wedi ail-agor ar gyfer mynegi diddordeb mewn ffenestr o ddwy wythnos.
Cefnogir y prosiect hwn gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Twf Lleol y DU yng Nghymru
Manylion cyswllt
Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni:
E-bostiwch: lgfbusiness@npt.gov.uk neu ffoniwch 01639 686835