CYNGOR BWRDEISTREF SIROL CASTELL-NEDD PORT TALBOT – CANLLAWIAU I YMGEISWYR
Y GRONFA TWF LLEOL – GRANT DATBLYGU BUSNES
Cyflwyniad
Cefnogi datblygiad busnesau
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ystyried bod buddsoddi mewn egin fusnesau newydd, datblygu busnesau sydd eisoes yn bodoli a denu mewnfuddsoddwyr yn hollbwysig er mwyn cefnogi cymunedau lleol a’r economi.
Mae’n hanfodol buddsoddi mewn datblygu busnesau lleol er mwyn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor unrhyw fenter, drwy feithrin cadernid a chapasiti, cynyddu cynhyrchiant, gwella sgiliau a datblygu eu hyblygrwydd i ymateb i anghenion newidiol yr economi ehangach. Ar ben hynny, mae angen buddsoddiadau sy’n lleihau effaith busnesau ar yr amgylchedd. Ymhellach, mae angen buddsoddiadau sy’n lleihau effaith busnesau ar yr amgylchedd.
Gyda buddsoddiad o’r fath, mae Castell-nedd Port Talbot yn meithrin economi fwy deinamig, arloesol, gwyrddach ac amlbwrpas, gyda gweithlu medrus a hyblyg sy’n gallu gwrthsefyll yr heriau sy’n wynebu’r economi fyd-eang dros amser.
Bwriedir y grant hwn yn bennaf i gefnogi buddsoddiad cyfalaf sy’n galluogi twf busnes, cynnydd mewn cynhyrchiant a chreu swyddi. Gellir ystyried elfen gyfyngedig o wariant refeniw lle mae’n gysylltiedig yn uniongyrchol â, ac yn angenrheidiol ar gyfer, cyflwyno a gweithredu’n effeithiol y prosiect cyfalaf. Rhaid i gostau refeniw fod yn gymesur ac yn glir eu cyfiawnhau fel cefnogi’r buddsoddiad cyfalaf.
Rhoddir cyllid yn ôl disgresiwn a chaiff ceisiadau eu hystyried fesul achos.
Nod y grantiau yw cefnogi prosiectau a buddsoddiadau sy’n cyfrannu at flaenoriaethau’r Cyngor ar gyfer twf economaidd:
- Tyfu a datblygu busnesau e.e. drwy ddenu cwsmeriaid newydd, cyflwyno cynhyrchion/gwasanaethau newydd, arallgyfeirio, ehangu i sectorau neu farchnadoedd daearyddol newydd ac ati.
- Gwella effeithlonrwydd gweithredol a chynhyrchiant e.e. prosiectau sy’n eich helpu i redeg y busnes yn fwy effeithlon, megis drwy ddefnyddio meddalwedd neu apiau, buddsoddi mewn gwefan ac ati, neu sy’n eich galluogi i gynyddu eich capasiti, er enghraifft drwy brynu peiriannau a chyfarpar newydd.
- Creu swyddi. Rhaid i’r prosiectau a gefnogir greu swyddi newydd.
- Uwchsgilio’r gweithlu e.e. hyfforddi staff newydd/presennol er mwyn creu hyblygrwydd yn y gweithlu, helpu i gyflwyno gwasanaeth newydd ac ati.
- Cefnogi cadwyni cyflenwi lleol Rydym yn awyddus i annog busnesau i archwilio opsiynau ar gyfer defnyddio cyflenwyr lleol.
Mae grantiau ar gael er mwyn helpu egin fusnesau newydd, busnesau sydd eisoes yn bodoli a mewnfuddsoddwyr.
Mae’r cyllid ar gael i fusnesau sy’n gweithredu ar sail amser llawn a rhan-amser. Rhaid i fusnesau rhan-amser weithredu am o leiaf 16 awr yr wythnos.
Gall y cyllid helpu busnesau yn y rhan fwyaf o sectorau i gynnal prosiectau sy’n cyflawni’r amcanion uchod. Fodd bynnag, rhoddir blaenoriaeth i brosiectau a gaiff eu cynnal gan fusnesau sy’n gweithredu yn un o’n sectorau allweddol, h.y.
|
Adeiladu |
Creadigrwydd a’r Cyfryngau |
Ynni |
|
Peirianneg |
Yr Amgylchedd |
TGCh |
|
Gweithgynhyrchu |
Ynni Adnewyddadwy |
Manwerthu |
|
Gwasanaethau |
Twristiaeth, Lletygarwch a Hamdden |
Er y cefnogir amrywiaeth eang o sectorau a gweithgareddau, nid yw’r rhestr yn hollgynhwysfawr. Ni fydd y Cyngor yn cefnogi unrhyw weithgaredd anghyfreithlon nac unrhyw weithgaredd arall a all beryglu enw da’r Cyngor ym marn y panel. Ni roddir cymorth grant ar gyfer y gweithgareddau canlynol.
|
Modelu noeth neu hanner noeth |
Cwnsela |
|
Cynnig gwasanaethau rhywiol o unrhyw fath |
Hyfforddiant bywyd |
|
Pornograffi |
Aciwbigo |
|
Gamblo |
Tatŵyddion |
|
Canolfannau hapchwarae |
Hyrwyddo gweithgareddau crefyddol neu wleidyddol penodol |
|
Gwasanaethau gwely haul |
Adeiladu hapfasnachol |
|
Therapïau, cynhyrchion a meddyginiaethau amgen |
Triniaethau meddygol ategol, cynhyrchion cosmetig a thriniaethau esthetig |
Bydd y grant yn helpu i dalu costau cyfalaf a refeniw sy’n gysylltiedig â’r prosiect, yn amodol ar isafswm gwariant o £50.00 heb gynnwys TAW fesul dyfynbris
Ymhlith yr enghreifftiau posibl o wariant ar eitemau cyfalaf mae:
- Offer, peiriannau a chyfarpar sy’n cynyddu capasiti neu gynhyrchiant, neu’n lleihau’r defnydd o ynni ac ati.
- Mesurau sy’n cefnogi arloesedd yn uniongyrchol, fel dyfeisiau newydd sy’n ymwneud ag arddangos neu feinciau arbrofi; cyfleusterau labordy a phrofi; datblygu syniadau ar gyfer cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau newydd neu well; cael gafael ar wybodaeth ac arbenigedd ynglŷn â deunyddiau newydd ac ati
- Mesurau i gynyddu a rheoli stoc dai
- Seilwaith a chaledwedd TG sy’n helpu i fabwysiadu technolegau newydd yn y busnes, yn gwella prosesau ac effeithlonrwydd gweithredol, yn cefnogi newidiadau i batrymau gweithio ac ati
- gwaith ar safleoedd er mwyn cynyddu capasiti neu helpu i arallgyfeirio, neu fesurau sy’n lleihau’r defnydd o ynni
D.S:
Ymhlith yr enghreifftiau o gostau refeniw cymwys mae:
- Gweithgareddau y mae angen cyngor arbenigol ar eu cyfer, e.e. cysylltu neu integreiddio systemau TG er mwyn cefnogi gwelliannau mewn prosesau ac effeithlonrwydd gweithredol, newidiadau i arferion gweithio; datblygu strategaethau marchnata ac e-farchnata er mwyn cyd-fynd â newidiadau mewn ymddygiad prynu cwsmeriaid, targedu marchnadoedd cwsmeriaid newydd ac ati; astudiaethau dichonoldeb er mwyn asesu cyfleoedd i ddatblygu ac ati
- Datblygu deunyddiau marchnata a hyrwyddo, gan gynnwys gwefannau sydd â’r nod o helpu’r busnes i ddenu cwsmeriaid newydd, mabwysiadu sianeli gwerthu newydd, cyflwyno dulliau cyfathrebu newydd, neu hyrwyddo cynhyrchion neu wasanaethau
- Meddalwedd sy’n galluogi’r busnes i wella effeithlonrwydd, cynyddu capasiti, rheoli stoc, integreiddio prosesau busnes, rheoli ffyrdd newydd o weithio ac ati
- Costau datblygu systemau neu feddalwedd (allanol yn unig)
- Ffioedd archwilio a chofrestru ar gyfer achrediadau i gefnogi twf y busnes, gwella prosesau gweithredol, arallgyfeirio i sectorau newydd ac ati
- Ardystio a phrofi cynhyrchion
- Hyfforddiant staff sy’n gwella sgiliau, hyblygrwydd y gweithlu ac ati
Important: Before requesting an application form, please ensure that your project can deliver against the required outputs and outcomes of the Fund and can complete within a 3 months period from the date of receiving the grant agreements.
Mae grantiau gwerth rhwng £2,500 a £25,000 ar gael.
Hyd at £25,000 tuag at gostau cymwys, ar ffurf arian cyfatebol fel a ganlyn:
Gwariant prosiect rhwng £2500 a £25,000 – 50% wedi’i ariannu drwy’r grant gyda’r ymgeisydd yn ariannu’r 50% arall.
Caiff lefel y grant a ddyfernir ei chyfrifo’n seiliedig ar y canlynol:
- Canran y costau cymwys (heb gynnwys TAW), a
- Nifer y swyddi a gaiff eu creu gan y prosiect fel a ganlyn:
- £7,500 fesul rôl amser llawn (30+ awr yr wythnos). Mae’n bosibl y bydd modd cynyddu’r ffigur hwn i £10,000 os bydd cyflog y rôl yn fwy na chyfartaledd cyflog cenedlaethol y DU (£39,309), yn amodol ar feini prawf cymhwysedd.
- £3,750 fesul rôl ran-amser (16-29 awr yr wythnos). Mae’n bosibl y bydd modd cynyddu’r ffigur hwn i £5,000 os bydd cyflog cyfwerth ag amser llawn (FTE) y rôl yn fwy na £39,309, yn amodol ar feini prawf cymhwysedd.
D.S:
- § Rhoddir grantiau yn ôl disgresiwn a bydd y Cyngor yn ystyried ceisiadau fesul achos.[JD1]
[JD1]I’ve moved this into this section
- Ni allwch ymrwymo i wariant cyn cael cynnig ysgrifenedig.
- Bydd gan y Cyngor hawl i edrych i weld a yw busnes neu ymgeisydd mewn ôl-ddyledion mewn perthynas ag unrhyw daliad i Gyngor Castell-nedd Port Talbot ac, os gwelir ei fod, mae’n bosibl y caiff y cynnig o gymorth ei dynnu’n ôl.
- Bydd cyllid gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn ddarostyngedig i Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau Llywodraeth y DU (2022).
Caiff y Grant Datblygu Busnes ei ddyrannu drwy broses Galwad Agored dau gam gystadleuol a gaiff ei hyrwyddo’n eang ymhlith busnesau newydd a busnesau sydd eisoes yn bodoli ledled Castell-nedd Port Talbot.
Cam 1 – Datganiad o Ddiddordeb
Bydd ymgeiswyr yn llenwi ffurflen Datganiad o Ddiddordeb.
Caiff gwiriadau cymhwysedd a phrosesau sgorio eu cynnal gan ddefnyddio’r meini prawf a gyhoeddwyd.
Caiff y Datganiadau o Ddiddordeb eu gosod yn eu trefn yn ôl sgôr ganrannol i ddethol y rhai a gaiff eu gwahodd i wneud cais llawn.
Cam 2 – Cais Llawn
Bydd ymgeiswyr cymwys yn cyflwyno cais llawn a thystiolaeth ategol.
Bydd swyddogion yn cwblhau prosesau diwydrwydd dyladwy a gwiriadau rheoli cymorthdaliadau.
Caiff adroddiadau cryno eu paratoi ar gyfer y Panel Cyllido.
Bydd y panel yn bwrw golwg dros yr argymhellion ac yn cymeradwyo penderfyniadau.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael Llythyr Cynnig Grant ffurfiol.
Rhaid i ddyfynbrisiau ar gyfer gwariant y prosiect gael eu cyflwyno gyda’ch cais.
Canllawiau Caffael:
D.S: Ar gyfer busnesau sydd eisoes yn bodoli, dim ond eitemau dros £50.00 heb gynnwys TAW fydd yn gymwys
Ar gyfer egin fusnesau, dim ond eitemau dros £50.00 gan gynnwys TAW fydd yn gymwys
Rhaid glynu wrth y canlynol:
- Os oes gennych eich Polisi Caffael eich hun: Rhaid rhoi copi i Swyddfa Rheoli Rhaglenni Cyllid Llywodraeth Leol Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer ei chofnodion.
- Os nad oes gennych bolisi caffael, RHAID i chi ddilyn y rheolau canlynol i ddangos gwerth am arian:
Pan fydd y Derbynnydd yn dyfarnu contractau i gael eu hariannu drwy’r Grant, rhaid iddo wneud hynny:
- drwy broses gaffael gystadleuol sy’n cyfateb i’r hyn a geir o dan Ddeddf Caffael 2023; neu
- os bydd gwerth y caffaeliad islaw’r trothwy perthnasol sy’n berthnasol at ddibenion Deddf Caffael 2023, drwy broses gaffael gystadleuol gyfatebol sy’n deg, yn dryloyw ac nad yw’n gwahaniaethu, sydd wedi cael ei chymeradwyo gan y Cyngor, sy’n ddigonol i fodloni’r Cyngor bod gwerth am arian wedi cael ei sicrhau neu y bydd yn cael ei sicrhau, ac sy’n cynnwys:
- Hyd at £10,000 – 1 (un) dyfynbris yn ofynnol
- Rhwng £10,000 a £100,000 – 3 (tri) dyfynbris yn ofynnol (neu’r defnydd o gytundeb fframwaith caffael drwy gystadleuaeth)
Rhaid i’r dyfynbrisiau fod yn seiliedig ar y canlynol:
- yr un fanyleb o ofynion
- yr un meini prawf gwerthuso a gwerthuso ar sail tebyg at ei debyg. Mae’n arfer dda sefydlu panel gwerthuso
- yr un dyddiad cau ar gyfer cyflwyno dyfynbrisiau, a’r ffaith na chânt eu derbyn ar ôl hynny
Rhaid i gofnod wedi’i ddogfennu o’r dyfynbrisiau a geisiwyd, y broses werthuso a’r penderfyniad i ddyfarnu gael ei gadw at ddibenion archwilio.
*Os mai dim ond 1 (un) dyfynbris a dderbynnir, rhaid i chi gysylltu â’r Cyngor i ddarparu manylion a chyfiawnhad dros y broses gaffael rydych chi wedi’i chynnal. Rhaid i’r Cyngor gymeradwyo’r penderfyniad i fwrw ymlaen i brynu fesul achos. Copi o’r holl ddyfynbrisiau a gohebiaeth wedi’i gadw ar gyfer cofnodion. Bydd yr holl ffigurau yn cynnwys TAW.
Dros £100,000 hyd at drothwy Deddf Caffael 2023 (ar hyn o bryd £214,904 ar gyfer nwyddau/gwasanaethau a £5,372,609 ar gyfer gwaith). Rhaid ceisio o leiaf 3 (tri) dyfynbris gan ffynonellau cystadleuol. Os derbynnir llai na dau ddyfynbris, rhaid i chi gysylltu â’r Cyngor i ddarparu manylion a chyfiawnhad dros y broses gaffael rydych chi wedi’i chynnal. Rhaid i’r Cyngor gymeradwyo’r penderfyniad i fwrw ymlaen i brynu fesul achos. Copi o’r holl ddyfynbrisiau a gohebiaeth wedi’i gadw ar gyfer cofnodion.
Bydd yr holl ffigurau yn cynnwys TAW.
Bydd yn rhaid i’r un wybodaeth gael ei rhoi i bawb a wahoddir i roi dyfynbris:
- yr un fanyleb o ofynion
- amlinelliad o’r meini prawf gwerthuso a ddefnyddir i ddyfarnu’r contract
- yr un dyddiad cau ar gyfer cyflwyno dyfynbrisiau, a’r ffaith na chânt eu derbyn ar ôl hynny
Bydd yn rhaid i’r broses werthuso a ddilynir gennych fod yn gyson â’r meini prawf gwerthuso gwreiddiol a amlinellwyd a bydd yn rhaid cyflwyno taflen gyfiawnhau yn esbonio ar ba sail y dewiswyd y tendr llwyddiannus. Yr arfer orau yw sefydlu panel gwerthuso i werthuso tendrau.
Yn achos prosesau caffael â gwerth sy’n uwch na throthwy’r DU, cysylltwch â’ch Swyddog Prosiect yn y Cyngor.
D.S: Rhaid i’r ceisiadau a gyflwynir gael eu hawdurdodi’n briodol gan berchennog, partner neu gyfarwyddwr yn y busnes.
A allaf ddefnyddio cardiau credyd ac arian parod yn ogystal â’m cyfrif banc i dalu costau fy mhrosiect?
Rhaid i daliadau ar gyfer gwariant prosiect gael eu gwneud o gyfrif banc busnes fel a ganlyn:
Pobl hunangyflogedig ac unig fasnachwyr – rhaid defnyddio cyfrif banc sydd at ddibenion busnes, a all fod yn eich enw eich hun neu yn enw’r busnes. Rhaid i gyfriflenni a gyflwynir gyda hawliadau grant ddangos tystiolaeth glir o incwm a gwariant y busnes.
Partneriaethau, cwmnïau cyfyngedig ac ati – rhaid defnyddio cyfrif banc yn enw’r busnes.
Derbynnir pryniannau gyda cherdyn credyd lle mae’r cerdyn yn cael ei ddal yn enw a chyfeiriad yr ymgeisydd am grant. Rhaid gwneud taliadau yn erbyn datganiadau cerdyn credyd o’r cyfrif banc busnes uchod. Bydd angen tystiolaeth i ddangos bod gwerth y pryniannau cerdyn credyd o’r fath wedi’i dalu oddi ar y datganiad perthnasol.
Ni dderbynnir taliadau arian parod.
Drwy gyflwyno cais, byddwch yn cadarnhau’r canlynol:
- Eich bod yn gallu cwblhau’r prosiect a thynnu’r grant i lawr o fewn tri mis i ddyddiad y cynnig.
- Bod gennych gyfrif banc busnes enwebedig ac mai’r cyfrif hwnnw y byddwch yn ei ddefnyddio i wneud taliadau’r prosiect
- Eich bod yn cydnabod y bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn defnyddio manylion eich busnes a’ch prosiect mewn gweithgarwch hyrwyddo yn y dyfodol, e.e. datganiadau i’r wasg, astudiaethau achos ac ati.
- Cydnabod ei bod yn ofynnol i Gyngor Castell-nedd Port Talbot gyhoeddi manylion dyfarniadau grant.
Bydd Panel Cyllido’r Cyngor yn ystyried pob cais. Os byddwch yn llwyddiannus, caiff cynnig ysgrifenedig o gyllid ei anfon atoch ac mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am wybodaeth ychwanegol gennych.
Bydd eich llythyr cynnig yn cynnwys manylion y dystiolaeth y bydd angen i ni ei chael, e.e. copïau o anfonebau, cyfriflenni banc cyfrif busnes penodedig, tystiolaeth o ffynonellau cyllid eraill ac ati.
D.S: rhaid i’r anfonebau a/neu dderbynebau a gyflwynir gennych gyda’ch hawliad gyfateb i’r dyfynbrisiau gwreiddiol yn eich cais a bod ag isafswm gwerth o £50.00 heb gynnwys TAW (busnesau sydd eisoes yn bodoli) a £50.00 gan gynnwys TAW (egin fusnesau).
A fyddaf yn cael unrhyw gymorth parhaus?
Bydd y Tîm Datblygu Economaidd yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn ymweld â chi i fonitro eich prosiect. Gallwch gael cyngor a chymorth parhaus drwy gysylltu â’r Tîm.
Gallwch wneud ceisiadau pellach. Fodd bynnag, bydd yn rhaid i chi fod wedi cwblhau unrhyw brosiectau a gafodd gynnig grantiau blaenorol a thynnu’r grant i lawr. Bydd angen i’r prosiect newydd ddangos tystiolaeth o greu swyddi sy’n wahanol i’r rhai mewn unrhyw geisiadau blaenorol.
Caiff eich gwybodaeth ei phrosesu yn unol â dogfen CBS Castell-nedd Port Talbot – Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaethau Datblygu Economaidd – y bydd copi caled ohoni ar gael ar gais.
Lawrlwytho’r canllaw yma:
I gael gwybod a ydych yn gymwys am gyllid, llenwch Ffurflen Ddiddordeb os gwelwch yn dda
Cefnogir y prosiect hwn gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Twf Lleol y DU yng Nghymru
Manylion cyswllt
Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni:
E-bostiwch: lgfbusiness@npt.gov.uk neu ffoniwch 01639 686835