HYSBYSIAD PREIFATRWYDD
GWASANAETHAU DATBLYGIAD ECONOMAIDD CBS CASTELL-NEDD PORT TALBOT
CYFLWYNIAD
Ar ôl 25 Mai bydd y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rheoli sut rhydym yn ymdrin a’ch gwybodaeth.
Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn nodi: (1) sut rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth; a (2) yr hawliau newydd a fydd gennych mewn perthynas â’ch gwybodaeth o 25 Mai 2018.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw’r rheolwr data (at ddibenion y GDPR) mewn perthynas â’r data personol a gedwir gennym.
YR WYBODAETH RYDYM YN EI CHADW:
Bydd yr wybodaeth a gedwir gennym yn wybodaeth bersonol a/neu’n wybodaeth fusnes fel a fanylir isod.
Gwybodaeth bersonol
Er mwyn eich cefnogi fel busnes presennol/newydd posib mae angen i ni gasglu a chadw gwybodaeth bersonol amdanoch. Gallai hyn gynnwys (ond nid yw’n gyfyngedig i) y canlynol:
- Enw
- Swydd yn y busnes
- Cyfeiriad
- Rhifau ffôn
- Cyfeiriadau e-bost
- Ystod oedran
- Collfarnau troseddol
Sut rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol
Bydd gwybodaeth bersonol a gesglir yn cael ei defnyddio fel a ganlyn:
- I ymateb i ymholiad rydych wedi’i wneud i’r tîm
- I brosesu cais am gyllid a wnaed gennych
- I ddweud wrthych am gefnogaeth bosib a all fod ar gael i’ch cynorthwyo
- I roi’r wybodaeth i chi sy’n berthnasol i’ch ymholiad
- Lle y bo’n berthnasol, er mwyn prosesu a rheoli tenantiaethau yng Nghanolfan Fusnes Sandfields
- Lle y bo’n berthnasol, er mwyn gwahodd a phrosesu ceisiadau i ddigwyddiadau a drefnir gan y Gwasanaeth Datblygiad Economaidd
Gwybodaeth am fusnesau
Er mwyn eich cefnogi fel busnes presennol/newydd posib mae angen i ni gasglu a chadw gwybodaeth bersonol amdanoch. Gallai hyn gynnwys (ond nid yw’n gyfyngedig i) y canlynol:
- Enw’r busnes
- Cyfeiriad y busnes
- Rhifau ffôn
- Cyfeiriadau e-bost
- Gwegyfeiriadau a chyfeiriadau cyfryngau cymdeithasol
- Math o fusnes
- Y sector busnes
- Nifer y rhai a gyflogir
- Gwybodaeth ariannol, gan gynnwys cyfrifon, rhagolygon prosiectau, manylion cyfrifon banc y busnes
- Ceisiadau am gyllid sy’n cynnwys manylion a chostau prosiectau, cefndir busnes, gweithgareddau a gweithrediad, gwybodaeth farchnata, achrediadau a ddelir, amcanion busnes, staffio a hyfforddiant
- Gwybodaeth am unrhyw ofynion rheoleiddiol neu statudol megis sgorau hylendid bwyd, iechyd yr amgylchedd etc. fel y bo’n briodol
- Manylion eich cyswllt â chi
Byddwn yn casglu ac yn cadw gwybodaeth am eich busnes a manylion ein cysylltiadau â chi er mwyn:
- Ymateb i ymholiadau
- Prosesu, gwerthuso a monitro ceisiadau am arian
- Gyda’ch caniatâd, anfon gwybodaeth atoch, (e.e. cylchlythyrau, digwyddiadau, hyfforddiant etc.) a allai fod yn berthnasol i’ch busnes
- Gyda’ch caniatâd, i hyrwyddo’ch busnes ar Gyfeiriadur Busnes CBS CNPT
- Cynnal proffil cyfoes o weithgarwch busnes yn y fwrdeistref sirol
- Cyfrannu at ddatblygu cynlluniau strategol – yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol
- Adolygu a chyfeirio gwasanaethau a ddarperir yn y dyfodol
- Adrodd am ddangosyddion perfformiad mewnol
EIN SAIL GYFREITHIOL AM DDEFNYDDIO’CH GWYBODAETH
Byddwn yn prosesu’ch gwybodaeth ar y sail gyfreithiol isod:
- Mae’r prosesu data’n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae’r rheolwr yn destun iddo. Erthygl 6(c) y GDPR
- Mae’n angenrheidiol prosesu’r data er mwyn perfformio tasg er budd y cyhoedd neu er mwyn i’r rheolwr arfer ei awdurdod swyddogol. Erthygl 6(c) GDPR.
AM FAINT O AMSER Y BYDDWN YN CADW’CH GWYBODAETH
Caiff eich gwybodaeth ei chadw gyhyd ag y mae eich busnes yn cael ei leoli ac yn gweithredu ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot.
Os yw’ch busnes yn rhoi’r gorau i fasnachu, neu’n symud o’r fwrdeistref sirol, caiff eich gwybodaeth ei chadw am ddigon o amser i ganiatáu i ni allu ymateb i unrhyw gwestiynau a allai godi o ganlyniad i hynny.
Os yw’ch busnes wedi derbyn arian grant, cedwir eich gwybodaeth fel uchod ac am hyd at chwe blynedd ychwanegol, yn unol â pholisi cadw dogfennau’r cyngor.
Pan na fydd angen eich gwybodaeth mwyach, caiff ei dinistrio’n ddiogel.
Gallwch wneud ceisiadau i gael eich dileu oddi ar ein rhestrau dosbarthu a/neu Gyfeiriadur Busnes ar unrhyw adeg drwy e-bostio business@npt.gov.uk
Y TRYDYDD PARTÏON RYDYM YN RHANNU’CH GWYBODAETH Â HWY
Gall yr wybodaeth gael ei rhannnu ag adrannau eraill y cyngor:
- wrth brosesu, gwerthuso a monitro ceisiadau am arian
- wrth brosesu ceisiadau am ddigwyddiadau
- wrth asesu prosiectau posib
- ar gais adrannau eraill i gyflawni eu rhwymedigaethau
Ni fyddwn yn rhannu’ch gwybodaeth â thrydydd partïon allanol heb eich caniatâd pendant. Fodd bynnag, efallai bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu â sefydliadau eraill lle mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i wneud hynny, neu mewn perthynas â cheisiadau am gyllid, at ddibenion atal neu ganfod twyll asesu’r cais a rheoli unrhyw gyllid a geir ymlaen llaw yn barhaus.
EICH HAWLIAU MEWN PERTHYNAS Â’CH GWYBODAETH
Mae’r GDPR yn rhoi nifer o hawliau i chi mewn perthynas â’ch gwybodaeth gan gynnwys y canlynol:
- Gallwch ofyn i ni am gopi o’r wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch a disgrifiad o sut rydym yn defnyddio’r wybodaeth honno.
- Os ydych yn credu y gall unrhyw wybodaeth a gedwir amdanoch gennym fod yn anghywir neu’n anghyflawn ac ni allwch chi gywiro’r wybodaeth hon eich hun, gallwch fynnu ein bod ni’n cywiro’r anghywirdebau hyn.
- Gallwch fynnu ein bod yn dileu eich gwybodaeth mewn rhai amgylchiadau (ac eithrio lle nad yw cyfyngiadau amser sy’n gysylltiedig â chyllid a dderbyniwyd wedi dod i ben, a lle gall ymholiadau godi sy’n ymwneud â’r busnes yn rhoi’r gorau i fasnachu neu weithredu yng Nghastell-nedd Port Talbot).
- Gallwch fynnu ein bod yn cyfyngu ar y defnydd o’ch gwybodaeth mewn rhai amgylchiadau.
- Lle byddwn yn prosesu’ch gwybodaeth i berfformio tasg gyhoeddus, gallwch wrthwynebu hyn mewn rhai amgylchiadau.
- Os ydych wedi rhoi eich caniatâd i ni brosesu’ch gwybodaeth at ddibenion penodol (e.e. i anfon cylchlythyrau, manylion digwyddiadau, etc. atoch) gallwch dynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg.
- Mae gennych chi hawl i gwyno i’r Comisiynydd Gwybodaeth am unrhyw doriad o ran eich hawliau diogelu data. Gallwch gael manylion ynghylch sut i wneud hyn ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn www.ico.org.uk
DIWYGIADAU I’R HYSBYSIAD PREIFATRWYDD
Gellir diwygio’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd. Byddwn yn eich hysbysu’n ysgrifenedig am unrhyw ddiweddariadau.
SUT I GYSYLLTU Â NI
Os bydd unrhyw ymholiadau gennych o ran y defnydd o’ch data personol, os ydych am gael mynediad i’ch data, neu os ydych am wneud cwyn o ran ei gasglu, cysylltwch â swyddog Diogelu Data Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Canolfan Ddinesig, Port Talbot SA13 1PJ.