Sefydlogi Tomen Pwll Glo Dyffryn Rhondda: Ymrwymiad i Werth Cymdeithasol ac Ymgysylltu â’r Gymuned

February 12, 2025

Sefydlogi Tomen Pwll Glo Dyffryn Rhondda:
Ymrwymiad i Werth Cymdeithasol ac Ymgysylltu â'r Gymuned

Neath Port Talbot Council consider community benefits to be defined as the positive impact on local people and local communities. One of the key ways to achieve this is by actively enhancing the wider social, economic and environmental impacts of the goods, services and works that we as a Council procure, and the organisations we do business with. As such, we encourage contractors and suppliers to consider these impacts when awarded Council contracts. 

Community Benefits Officer, Karen Todd, worked closely with Walters UK Ltd on the recently completed Dyffryn Rhondda Colliery Tip Stabilisation Scheme, a project funded by Neath Port Talbot County Borough Council and the Welsh Government through the Coal Tip Safety Grant, to ensure delivery of community benefits on the project. With a strong focus on community engagement, local opportunities, and long-term sustainability, the project has not only been a technical success, but also a significant contributor to the social and economic wellbeing of the local area.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn diffinio budd cymunedol fel effaith gadarnhaol ar bobl leol a chymunedau lleol. Un o’r ffyrdd allweddol o gyflawni hyn yw drwy fynd ati i wella effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach y nwyddau, gwasanaethau a gwaith y byddwn ni fel Cyngor yn eu caffael, a’r sefydliadau y byddwn yn gwneud busnes gyda nhw. Felly, rydym yn annog contractwyr a chyflenwyr i ystyried yr effeithiau hyn pan fydd y Cyngor yn dyfarnu contractau iddynt.

Bu’r Swyddog Budd Cymunedol Karen Todd yn gweithio’n agos gyda Walters UK Ltd ar Gynllun Sefydlogi Tomen Pwll Glo Dyffryn Rhondda a gwblhawyd yn ddiweddar, sef prosiect a ariannwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Llywodraeth Cymru drwy’r Grant Diogelwch Tomenni Glo, i sicrhau bod y prosiect yn arwain at fudd cymunedol. Gyda ffocws cadarn ar ymgysylltu â’r gymuned, cyfleoedd lleol, a chynaliadwyedd hirdymor, nid yn unig y mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiant technegol, ond mae hefyd wedi gwneud cyfraniad sylweddol at lesiant cymdeithasol ac economaidd yr ardal leol.

Cwblhau’n Llwyddiannus ac Ymrwymiad i Ansawdd
Cafodd prosiect Dyffryn Rhondda ei gwblhau ar amser ac o fewn y gyllideb gan gyrraedd yr holl safonau ansawdd. Ni chafwyd yr un digwyddiad Iechyd a Diogelwch RIDDOR sylweddol, sy’n dystiolaeth bellach o ymrwymiad y Cyngor a Walters i ddiogelwch ac ansawdd drwy gydol oes y prosiect.

Ar ben hynny, cafodd Walters UK Ltd sgôr ardderchog o 43 allan o 45 yn y Cynllun Adeiladwyr Ystyriol, sy’n tynnu sylw at ystyriaethau cymunedol ac amgylcheddol cadarn y prosiect. Mae hyn yn llwyddiant ysgubol i brosiect mor fawr a chymhleth â hwn.

Cyd-fynd â nodau llesiant
Mae ein dull caffael yn cyd-fynd yn agos Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru.

Rydym wedi mabwysiadu tri amcan llesiant allweddol o’r Ddeddf:

1. Gwella llesiant pobl ifanc a phlant

2. Gwella llesiant pob oedolyn sy’n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot

3. Datblygu’r amgylchedd a’r economi leol er mwyn gallu gwella llesiant pobl

Cafodd yr amcanion hyn eu hintegreiddio yn y prosiect, gan arwain ymdrechion y Cyngor a Walters i wneud cyfraniad cadarnhaol at y gymuned a chreu budd parhaol.

Recriwtio a Hyfforddiant wedi’u Targedu
Un elfen allweddol o lwyddiant y prosiect oedd ei ffocws ar Recriwtio a Hyfforddiant wedi’u Targedu. Ar y cam tendro, gosodwyd targed o 26 wythnos o gyflogaeth i newydd-ddyfodiaid fesul £1m o werth y contract, gan wneud cyfanswm o 130 o wythnosau pobl. Erbyn i’r prosiect gael ei gwblhau, roedd cyfanswm aruthrol o 179 o wythnosau pobl wedi cael ei gyflawni, gan ragori ar y disgwyliadau.

Cafodd y llwyddiant hwn ei ysgogi gan ymrwymiad cadarn i gyflogaeth a datblygu sgiliau yn lleol. Cyflogwyd y canlynol fel rhan o’r prosiect:

– Dau Brentis Peirianneg Sifil (80 wythnos)
– Un Prentis Mesur Meintiau (27 wythnos drwy gynllun rhannu prentisiaeth gyda Cyfle)
– Dau berson lleol a oedd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir (65 wythnos)
– Un Peiriannydd ar Brofiad Gwaith (7 wythnos yn ystod yr haf)

Cefnogi Busnesau Lleol

Roedd prosiect Dyffryn Rhondda yn canolbwyntio ar gynnig cyfleoedd i gyflenwyr lleol. Roedd pob un ond un o’r is-gontractwyr a ddefnyddiwyd yn BBaChau lleol sydd wedi’u lleoli yn Ne Cymru, ac roedd chwarter y rhain wedi’u lleoli yn Sir Castell-nedd Port Talbot. Yr unig eithriad oedd contractwr arbenigol lle nad oedd opsiynau eraill ar gael yn Ne Cymru, sy’n golygu bod y rhan fwyaf o’r cyfleoedd is-gontractio wedi bod o fudd i’r economi leol.

Ymgysylltu ag Ysgolion
Aeth Walters ati mewn ffordd ragweithiol i ymgysylltu ag ysgolion lleol er mwyn ysbrydoli ac addysgu’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr. Drwy weithio mewn partneriaeth ag Ysgol Bro Dur ac Ysgol Cwm Brombil, bu Walters yn gweithredu fel Partner Gwerth Cymunedol am y flwyddyn, gan drefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau er mwyn rhoi cyflwyniad i fyd peirianneg i fyfyrwyr, er enghraifft:

– Cyflwyniad i Beirianneg a Chyflwyniadau Prosiect (Ysgol Bro Dur ac Ysgol Cwm Brombil)
– Gweithgaredd ‘Gêm Adeiladu’ mewn cydweithrediad â Gyrfa Cymru (Ysgol Bro Dur)
– Noddi Citiau Timau Chwaraeon (Ysgol Bro Dur)
– Ymweliad Safle ar Esboniadau Prosiect, Amgylcheddol a Diogelwch Safle (Ysgol Cwm Brombil)
– Wythnos o Brofiad Gwaith i Fyfyrwyr (Ysgol Cwm Brombil)
– Sgwrs a Sesiwn Holi ac Ateb ar Yrfaoedd ym maes Peirianneg (Ysgol Cwm Brombil)

Gwnaeth y prosiect hefyd hwyluso profiadau dysgu ymarferol, gan gynnwys taith safle ac arddangosiad gweithredu cyfarpar gyda myfyrwyr o Ysgol Cwm Brombil. Rhoddodd y gweithgareddau a’r mentrau hyn gipolwg ar y sectorau adeiladu a pheirianneg i fyfyrwyr lleol.

Ymgysylltu â’r Gymuned a Chyfraniadau
Y tu hwnt i ymgysylltu ag ysgolion lleol, parhaodd y contractwr i gefnogi’r gymuned leol drwy gydol y prosiect drwy amrywiaeth o weithgareddau cymunedol, er enghraifft:

– Cydweithio â Grŵp Gwirfoddoli Cwm Afan i gynnal a chadw dolydd lleol, clirio ffosydd, a gosod ffensys
– Adfer Cofeb Pwll Glo Dyffryn Rhondda
– Cyfathrebu’n barhaus â Chlwb Genweirio a Chadwraeth Cwm Afan, gan gynnwys gosod cilfachau gorffwys i bysgod yn Afon Afan
– Noddi’r tîm rownderi merched lleol, ‘Valley Vipers’
– Gosod byrddau dehongli natur ar hyd Llwybr Beiciau Cwm Afan
– Gwaith draenio ar gyfer elusen leol o’r enw Coeden Bywyd Horse Project
– Codi hysbysfyrddau ar ffiniau safleoedd allweddol er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r cyhoedd am hynt y prosiect

Mae’r mentrau cymunedol hyn yn adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor a Walters i gael effaith gadarnhaol ar bobl ac amgylchedd Castell-nedd Port Talbot.

Mae Cynllun Sefydlogi Tomen Pwll Glo Dyffryn Rhondda wedi bod yn brosiect rhyfeddol, nid yn unig o ran y ffordd y cafodd ei gyflawni’n dechnegol ond hefyd o ran ei gyfraniad at werth cymdeithasol. Drwy gydweithio’n agos â Walters UK Ltd, rydym wedi dangos y gall prosiectau adeiladu ar raddfa fawr gynnig budd sylweddol i gymunedau lleol: o gyflogaeth a hyfforddiant i gymorth addysgol ac amgylcheddol, gan chwarae rhan yn y gwaith o lywio dyfodol mwy cynaliadwy a bywiog ar gyfer yr ardal.

wave banner

You may also be interested in: