Dewch am Gefnogaeth yn Dewch i ni Siarad: Cychwyn eich Busnes

November 5, 2024
Debbie at lets talk starting your business event helping start up business

Bydd cymorth ar bob agwedd o gychwyn busnes ar gael yn ein digwyddiadau misol Dewch i ni Siarad: Cychwyn eich Busnes. Dewch i gwrdd â’n tîm datblygu busnes a’r ymgynghorwyr arbenigol i drafod grantiau cychwyn busnes, datblygu cynlluniau busnes, opsiynau eiddo masnachol, a rhagor.

Mae Dewch i ni Siarad: Cychwyn EICH Busnes yn rhad ac am ddim i’w fynychu ac mae’n digwydd ar fore Iau olaf pob mis rhwng 09.30 a 12.30 yng Nghanolfan Busnes Sandfields.  Mae’n cynnig bore cyfan o wybodaeth ac arweiniad gan roi cyfle i entrepreneuriaid lleol o Gastell-nedd Port Talbot i drafod eu taith cychwyn busnes newydd a llunio cynllun ar gyfer eu camau nesaf.

Gall cychwyn busnes fod yn fater llethol ac mae’n debyg y bydd gennych lawer o gwestiynau; mae’n gallu bod yn anodd gwybod lle i ddechrau. Yn y digwyddiad byddwch yn gallu cwrdd â dros ddwsin o ymgynghorwyr arbenigol, yn ogystal â chael y cyfle i sgwrsio’n unigol gyda’n harbenigwr cefnogi cychwyn busnes i siarad am eich syniad i gychwyn busnes. Os ydych chi’n bwriadu cychwyn busnes a bod rhai o’r cwestiynau isod yn gyfarwydd i chi, yna mae Dewch i ni Siarad: Cychwyn eich Busnes yn ddelfrydol ar eich cyfer chi.

Pa grantiau sydd ar gael i gychwyn busnes?

Yn aml, bod â’r gallu ariannol i gychwyn eich busnes yw’r rhwystr cyntaf ar gyfer llawer o entrepreneuriaid. Mae cyfyngiadau ariannol yn cael eu nodi’n gyffredin fel y rhwystr mwyaf i gychwyn busnes. Yn Dewch i ni Siarad: Cychwyn eich Busnes, byddwch yn dysgu am amrywiaeth o grantiau busnes yng Nghymru, grantiau busnes y llywodraeth a grantiau busnes bach sydd ar gael. Dewch i drafod grantiau cychwyn busnes sydd ar gael gydag ymgynghorwyr o Fanc y Nat West, Banc Datblygu Cymru, Busnes Cymru,  Ymddiriedolaeth y Tywysog, yn ogystal â’n tîm o ymgynghorwyr busnes.

Sut ydw i’n creu cynllun busnes?

Mae’n debygol fod gennych chi syniad da am y darlun mawr o’ch syniad busnes, ond beth am y camau bach, a sut ydych chi’n rhoi’r cyfan ar bapur i lunio cynllun busnes? Dewch i gael cymorth i adeiladu eich busnes a’ch strategaeth farchnata gyda chyngor gan ymgynghorwyr arbenigol. Siaradwch drwy eich cynllun busnes gyda sgwrs un-i-un gydag aelod o’n tîm busnes.

Oes angen i mi  gael nod masnach ar gyfer fy syniad?

Gall meddwl am eich syniad busnes yn cael ei ddwyn wneud i chi beidio bod eisiau cychwyn eich busnes yn y lle cyntaf. Dyw amddiffyn eich syniadau erioed wedi bod mor bwysig, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ei wneud yn iawn. Yn Dewch i ni Siarad: Cychwyn eich Busnes, siaradwch gydag arloesedd AGOR, arbenigwyr mewn Eiddo Deallusol a phatentau, i ddysgu sut i warchod eich syniadau cychwyn busnes.

Oes yna eiddo masnachol ar gael ar gyfer fy musnes newydd?

Mae dod o hyd i gartref ar gyfer eich busnes yn gallu bod yn anodd. Yn enwedig os ydych chi angen cyfarpar arbenigol, neu fynediad penodol. Siaradwch gyda’n tîm busnes yn Dewch i ni Siarad: Cychwyn eich Busnes i ddysgu am y dewis o eiddo masnachol sydd ar gael ar gyfer eich busnes newydd yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Lle alla i ddod o hyd i gymorth wedi’i bersonoli ar gychwyn busnes?

Os ydych chi eisiau cymorth i gychwyn eich busnes yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae Dewch i ni Siarad: Cychwyn eich Busnes yn ddigwyddiad hanfodol. Dewch i gael cefnogaeth busnes arbenigol, wedi’i bersonoli i’ch helpu i roi cychwyn ar eich busnes.

Mae ein digwyddiad nesaf Ddydd Iau, 28ain Tachwedd. Cofrestrwch nawr ar gyfer Dewch i ni Siarad: Cychwyn EICH Busnes i archebu eich lle am ddim.  Edrychwch ar y dewis llawn o ddigwyddiadau cefnogi busnesau sydd ar gael yng Nghastell-nedd Port Talbot.  

wave banner

You may also be interested in: