CANLLAWIAU I YMGEISWYR
Y GRONFA TWF LLEOL – GRANT DECHRAU BUSNES
Cefnogi Busnesau Newydd
Mae CBS Castell-nedd Port Talbot o’r farn bod buddsoddi mewn egin fusnesau newydd, datblygu busnesau sydd eisoes yn bodoli a denu mewnfuddsoddwyr yn hollbwysig er mwyn cefnogi cymunedau lleol a’r economi.
Nod ein rhaglen ‘Gawn Ni Siarad: Dechrau Eich Busnes CHI’ yw cefnogi unigolion sy’n awyddus i ddechrau busnes a’r rhai sy’n masnachu ers chwe mis neu lai drwy roi gwybodaeth, cymorth ac arweiniad iddynt, yn ogystal â chyllid grant i’r rhai sy’n gymwys.
Bydd unigolion sy’n awyddus i ddechrau busnes yn rhan-amser hefyd yn cael eu hystyried os byddant yn gweithio yn y busnes am o leiaf 16 awr yr wythnos.
Gall ymgeiswyr hawlio rhwng £500 a £10,000 er mwyn helpu i dalu costau dechrau busnes, ar ffurf arian cyfatebol gwerth hyd at 50%.
Yn bennaf, bwriedir i’r grant hwn gefnogi buddsoddiad cyfalaf sy’n creu egin fusnesau newydd ac yn eu galluogi i dyfu, gwella cynhyrchiant a chreu swyddi. Mae’n bosibl y caiff elfen gyfyngedig o wariant refeniw ei hystyried os bydd yn uniongyrchol gysylltiedig â chyflwyno’r prosiect cyfalaf a’i roi ar waith yn effeithiol, ac yn angenrheidiol ar gyfer gwneud hynny. Rhaid i gostau refeniw fod yn gymesur a rhaid eu cyfiawnhau’n glir fel costau sy’n cefnogi’r buddsoddiad cyfalaf.
Rhoddir cyllid yn ôl disgresiwn a chaiff ceisiadau eu hystyried fesul achos.
Mae grantiau ar gael er mwyn helpu egin fusnesau newydd, busnesau sydd eisoes yn bodoli a mewnfuddsoddwyr i gyflawni prosiectau NAD YDYNT yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer ffynonellau grant eraill, megis Llywodraeth Cymru ac ati.
Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i wneud cais os ydych chi:
- Wedi dechrau masnachu neu wedi bod yn masnachu PRAWF yn ystod y chwe mis diwethaf
- Heb ddechrau masnachu, yn cael eich cyflogi’n rhan-amser, yn ddi-waith, yn economaidd anweithgar, wedi cael rhybudd dileu swydd neu’n symud o swydd i hunangyflogaeth ar adeg eich cais (ar gyfer partneriaethau a chwmnïau cyfyngedig, bydd yn rhaid i bob ymgeisydd fodloni’r maen prawf cymhwysedd hwn)
- Yn 18 oed neu’n hŷn
- Yn gallu dangos bod gennych brofiad a/neu gymwysterau sy’n berthnasol i’r maes y mae’r busnes yn gweithredu ynddo
- Wedi bod i naill ai:
- Un o weithdai dechrau busnes Llywodraeth Cymru neu
- Un o weithdai archwilio menter Ymddiriedolaeth y Tywysog
- Yn cael cymorth drwy wasanaeth Busnes Cymru neu sefydliad cymorth cymeradwy/cydnabyddedig arall
- Yn gallu dangos profiad blaenorol o hunangyflogaeth.
Gall y cyllid gefnogi busnesau sy’n gweithredu yn y rhan fwyaf o sectorau cyn belled â bod y busnes wedi’i leoli yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:
- Adeiladu
- Creadigol a’r Cyfryngau
- Ynni
- Peirianneg
- Yr Amgylchedd
- TGCh
- Gweithgynhyrchu
- Ynni Adnewyddadwy
- Manwerthu
- Twristiaeth, Lletygarwch a Hamdden
Er y cefnogir amrywiaeth eang o sectorau a gweithgareddau, nid yw’r rhestr yn hollgynhwysfawr. Ni fydd y Cyngor yn cefnogi unrhyw weithgaredd anghyfreithlon nac unrhyw weithgaredd arall a all beryglu enw da’r Cyngor ym marn y panel. Ni roddir cymorth grant ar gyfer y gweithgareddau canlynol.
- Modelu noeth neu hanner noeth
- Cwnsela
- Cynnig gwasanaethau rhywiol o unrhyw fath
- Hyfforddiant bywyd
- Pornograffi
- Gamblo
- Canolfannau hapchwarae
- Hyrwyddo gweithgareddau crefyddol neu wleidyddol penodol
- Gwasanaethau gwely haul
- Adeiladu Hapfasnachol
- Therapïau, cynhyrchion a meddyginiaethau amgen
- Triniaethau meddygol ategol, cynhyrchion cosmetig a thriniaethau esthetig.
DIM OND os bydd ganddynt Drwydded Gweithdrefnau Arbennig a roddwyd gan eu hawdurdod lleol y bydd y gweithgareddau canlynol yn gymwys:
- Tatŵyddion (gan gynnwys colur lled-barhaol a microlafnu)
- Tyllu’r corff (gan gynnwys tyllu’r clustiau)
- Electrolysis
- Aciwbigo (gan gynnwys nodwyddo sych)
Bydd y grant yn helpu i dalu amrywiaeth o gostau, yn amodol ar isafswm gwariant o £50.00 gan gynnwys TAW fesul dyfynbris, gan gynnwys:
- Prynu ac adnewyddu safle
- Offer, peiriannau a chyfarpar
- Caledwedd a meddalwedd TG
- Stoc (h.y. deunyddiau crai a ddefnyddir i gynhyrchu’r eitemau/cynhyrchion yr hoffech eu gwerthu) D.S: Ni fydd eitemau y byddwch yn eu prynu i’w gwerthu yn gymwys.
- Offer
- Gorbenion gan gynnwys marchnata, hysbysebu, yswiriant ac ati
- Tanysgrifiadau wythnosol/misol (oni fydd modd eu prynu ymlaen llaw)
- Cerbydau a’u costau rhedeg cysylltiedig, h.y. petrol, teiars, cynnal a chadw ac ati.
D.S: Ni fydd eitemau a brynwyd cyn gwneud cais neu gael cynnig grant ffurfiol yn gymwys ar gyfer cymorth cyllid.
Mae grantiau gwerth rhwng £500 a £10,000 ar gael.
Hyd at £10,000 tuag at gostau cymwys, ar ffurf arian cyfatebol fel a ganlyn:
Gwariant prosiect rhwng £500 a £10,000 – 50% wedi’i ariannu drwy’r grant gyda’r ymgeisydd yn ariannu’r 50% arall.
Caiff lefel y grant a ddyfernir ei chyfrifo’n seiliedig ar y canlynol:
- Canran y costau cymwys (heb gynnwys TAW), a
- Nifer y swyddi a gaiff eu creu gan y prosiect fel a ganlyn:
- £7,500 fesul rôl amser llawn (30+ awr yr wythnos). Mae’n bosibl y bydd modd cynyddu’r ffigur hwn i £10,000 os bydd cyflog y rôl yn fwy na chyfartaledd cyflog cenedlaethol y DU (£39,309), yn amodol ar feini prawf cymhwysedd.
- £3,750 fesul rôl ran-amser (16-29 awr yr wythnos). Mae’n bosibl y bydd modd cynyddu’r ffigur hwn i £5,000 os bydd cyflog cyfwerth ag amser llawn (FTE) y rôl yn fwy na £39,309, yn amodol ar feini prawf cymhwysedd.
Rhoddir grantiau yn ôl disgresiwn a bydd y Cyngor yn ystyried ceisiadau fesul achos.
D.S:
- Ni allwch ymrwymo i wariant cyn cael cynnig ysgrifenedig.
- Bydd gan y Cyngor hawl i edrych i weld a yw busnes neu ymgeisydd mewn ôl-ddyledion mewn perthynas ag unrhyw daliad i Gyngor Castell-nedd Port Talbot ac, os gwelir ei fod, mae’n bosibl y caiff y cynnig o gymorth ei dynnu’n ôl.
- Bydd cyllid gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn ddarostyngedig i Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau Llywodraeth y DU (2022).
Caiff y Grant Dechrau Busnes ei ddyrannu drwy broses Galwad Agored dau gam gystadleuol a gaiff ei hyrwyddo’n eang ymhlith busnesau newydd a busnesau sydd eisoes yn bodoli ledled Castell-nedd Port Talbot.
Cam 1 – Datganiad o Ddiddordeb
Bydd ymgeiswyr yn llenwi ffurflen Datganiad o Ddiddordeb.
Caiff gwiriadau cymhwysedd a phrosesau sgorio eu cynnal gan ddefnyddio’r meini prawf a gyhoeddwyd.
Caiff y Datganiadau o Ddiddordeb eu gosod yn eu trefn yn ôl sgôr ganrannol i ddethol y rhai a gaiff eu gwahodd i wneud cais llawn.
Cam 2 – Cais Llawn
Bydd ymgeiswyr cymwys yn cyflwyno cais llawn a thystiolaeth ategol.
Bydd swyddogion yn cwblhau prosesau diwydrwydd dyladwy a gwiriadau rheoli cymorthdaliadau.
Caiff adroddiadau cryno eu paratoi ar gyfer y Panel Cyllido.
Bydd y panel yn bwrw golwg dros yr argymhellion ac yn cymeradwyo penderfyniadau.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael Llythyr Cynnig Grant ffurfiol.
Rhaid i ddyfynbrisiau ar gyfer gwariant y prosiect gael eu cyflwyno gyda’ch cais.
Canllawiau Caffael:
D.S: Ar gyfer busnesau sydd eisoes yn bodoli, dim ond eitemau dros £50.00 gan gynnwys TAW fydd yn gymwys
Ar gyfer egin fusnesau, dim ond eitemau dros £50.00 gan gynnwys TAW fydd yn gymwys
Rhaid glynu wrth y canlynol:
- Os oes gennych eich Polisi Caffael eich hun: Rhaid rhoi copi i Swyddfa Rheoli Rhaglenni Cyllid Llywodraeth Leol Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer ei chofnodion.
- Os nad oes gennych bolisi caffael, RHAID i chi ddilyn y rheolau canlynol i ddangos gwerth am arian:
Pan fydd y Derbynnydd yn dyfarnu contractau i gael eu hariannu drwy’r Grant, rhaid iddo wneud hynny:
- drwy broses gaffael gystadleuol sy’n cyfateb i’r hyn a geir o dan Ddeddf Caffael 2023; neu
- os bydd gwerth y caffaeliad islaw’r trothwy perthnasol sy’n berthnasol at ddibenion Deddf Caffael 2023, drwy broses gaffael gystadleuol gyfatebol sy’n deg, yn dryloyw ac nad yw’n gwahaniaethu, sydd wedi cael ei chymeradwyo gan y Cyngor, sy’n ddigonol i fodloni’r Cyngor bod gwerth am arian wedi cael ei sicrhau neu y bydd yn cael ei sicrhau, ac sy’n cynnwys:
- Hyd at £10,000 – 1 (un) dyfynbris yn ofynnol
- Rhwng £10,000 a £100,000 – 3 (tri) dyfynbris yn ofynnol (neu’r defnydd o gytundeb fframwaith caffael drwy gystadleuaeth)*
Rhaid i’r dyfynbrisiau fod yn seiliedig ar y canlynol:
- yr un fanyleb o ofynion
- yr un meini prawf gwerthuso a gwerthuso ar sail tebyg at ei debyg. Mae’n arfer dda sefydlu panel gwerthuso
- yr un dyddiad cau ar gyfer cyflwyno dyfynbrisiau, a’r ffaith na chânt eu derbyn ar ôl hynny
Rhaid i gofnod wedi’i ddogfennu o’r dyfynbrisiau a geisiwyd, y broses werthuso a’r penderfyniad i ddyfarnu gael ei gadw at ddibenion archwilio.
*Os mai dim ond 1 (un) dyfynbris a dderbynnir, rhaid i chi gysylltu â’r Cyngor i ddarparu manylion a chyfiawnhad dros y broses gaffael rydych chi wedi’i chynnal. Rhaid i’r Cyngor gymeradwyo’r penderfyniad i fwrw ymlaen i brynu fesul achos. Copi o’r holl ddyfynbrisiau a gohebiaeth wedi’i gadw ar gyfer cofnodion. Bydd yr holl ffigurau yn cynnwys TAW.
Dros £100,000 hyd at drothwy Deddf Caffael 2023 (ar hyn o bryd £214,904 ar gyfer nwyddau/gwasanaethau a £5,372,609 ar gyfer gwaith). Rhaid ceisio o leiaf 3 (tri) dyfynbris gan ffynonellau cystadleuol. Os derbynnir llai na dau ddyfynbris, rhaid i chi gysylltu â’r Cyngor i ddarparu manylion a chyfiawnhad dros y broses gaffael rydych chi wedi’i chynnal. Rhaid i’r Cyngor gymeradwyo’r penderfyniad i fwrw ymlaen i brynu fesul achos. Copi o’r holl ddyfynbrisiau a gohebiaeth wedi’i gadw ar gyfer cofnodion.
Bydd yr holl ffigurau yn cynnwys TAW.
Bydd yn rhaid i’r un wybodaeth gael ei rhoi i bawb a wahoddir i roi dyfynbris:
- yr un fanyleb o ofynion
- amlinelliad o’r meini prawf gwerthuso a ddefnyddir i ddyfarnu’r contract
- yr un dyddiad cau ar gyfer cyflwyno dyfynbrisiau, a’r ffaith na chânt eu derbyn ar ôl hynny
Bydd yn rhaid i’r broses werthuso a ddilynir gennych fod yn gyson â’r meini prawf gwerthuso gwreiddiol a amlinellwyd a bydd yn rhaid cyflwyno taflen gyfiawnhau yn esbonio ar ba sail y dewiswyd y tendr llwyddiannus. Yr arfer orau yw sefydlu panel gwerthuso i werthuso tendrau.
Yn achos prosesau caffael â gwerth sy’n uwch na throthwy’r DU, cysylltwch â’ch Swyddog Prosiect yn y Cyngor.
D.S: Rhaid i’r ceisiadau a gyflwynir gael eu hawdurdodi’n briodol gan berchennog, partner neu gyfarwyddwr yn y busnes.
A allaf ddefnyddio cardiau credyd ac arian parod yn ogystal â’m cyfrif banc i dalu costau fy mhrosiect?
Rhaid i daliadau ar gyfer gwariant prosiect gael eu gwneud o gyfrif banc busnes fel a ganlyn:
Pobl hunangyflogedig ac unig fasnachwyr – rhaid defnyddio cyfrif banc sydd at ddibenion busnes, a all fod yn eich enw eich hun neu yn enw’r busnes. Rhaid i gyfriflenni a gyflwynir gyda hawliadau grant ddangos tystiolaeth glir o incwm a gwariant y busnes.
Partneriaethau, cwmnïau cyfyngedig ac ati – rhaid defnyddio cyfrif banc yn enw’r busnes.
Derbynnir pryniannau gyda cherdyn credyd lle mae’r cerdyn yn cael ei ddal yn enw a chyfeiriad yr ymgeisydd am grant. Rhaid gwneud taliadau yn erbyn datganiadau cerdyn credyd o’r cyfrif banc busnes uchod. Bydd angen tystiolaeth i ddangos bod gwerth y pryniannau cerdyn credyd o’r fath wedi’i dalu oddi ar y datganiad perthnasol.
Ni dderbynnir taliadau arian parod.
Drwy gyflwyno cais, byddwch yn cadarnhau’r canlynol:
- Eich bod yn gallu cwblhau’r prosiect a thynnu’r grant i lawr o fewn tri mis i ddyddiad y cynnig.
- Bod gennych gyfrif banc busnes enwebedig ac mai’r cyfrif hwnnw y byddwch yn ei ddefnyddio i wneud taliadau’r prosiect
- Eich bod yn cydnabod y bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn defnyddio manylion eich busnes a’ch prosiect mewn gweithgarwch hyrwyddo yn y dyfodol, e.e. datganiadau i’r wasg, astudiaethau achos ac ati.
- Cydnabod ei bod yn ofynnol i Gyngor Castell-nedd Port Talbot gyhoeddi manylion dyfarniadau grant.
Bydd Panel Cyllido’r Cyngor yn ystyried pob cais. Os byddwch yn llwyddiannus, caiff cynnig ysgrifenedig o gyllid ei anfon atoch ac mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am wybodaeth ychwanegol gennych.
Sut mae tynnu’r cyllid i lawr?
Bydd eich llythyr cynnig yn cynnwys manylion y dystiolaeth y bydd angen i ni ei chael, e.e. copïau o anfonebau, cyfriflenni banc cyfrif busnes penodedig, tystiolaeth o ffynonellau cyllid eraill ac ati.
D.S: rhaid i’r anfonebau a/neu dderbynebau a gyflwynir gennych gyda’ch hawliad gyfateb i’r dyfynbrisiau gwreiddiol yn eich cais a bod ag isafswm gwerth o £50.00 gan gynnwys TAW.
Pan fyddwch yn cwblhau eich prosiect, bydd yn ofynnol i chi ddangos tystiolaeth eich bod wedi cofrestru cwmni neu dystiolaeth gan CThEF i ddangos bod busnes wedi’i greu, ac yswiriant busnes i brofi bod gweithgarwch wedi dechrau.
A fyddaf yn cael unrhyw gymorth parhaus?
Bydd y Tîm Datblygu Economaidd yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn ymweld â chi i fonitro eich prosiect. Gallwch gael cyngor a chymorth parhaus drwy gysylltu â’r Tîm.
A allaf wneud cais am gyllid pellach?
Gallwch wneud ceisiadau pellach. Fodd bynnag, bydd yn rhaid i chi fod wedi cwblhau unrhyw brosiectau a gafodd gynnig grantiau blaenorol a thynnu’r grant i lawr. Bydd angen i’r prosiect newydd ddangos tystiolaeth o greu swyddi sy’n wahanol i’r rhai mewn unrhyw geisiadau blaenorol.
Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)
Caiff eich gwybodaeth ei phrosesu yn unol â dogfen CBS Castell-nedd Port Talbot – Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaethau Datblygu Economaidd – y bydd copi caled ohoni ar gael ar gais.
Lawrlwytho’r canllaw yma:
I gael gwybod a ydych yn gymwys am gyllid, llenwch Ffurflen Ddiddordeb os gwelwch yn dda
Cefnogir y prosiect hwn gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Twf Lleol y DU yng Nghymru
Manylion cyswllt
Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni:
E-bostiwch: lgfbusiness@npt.gov.uk neu ffoniwch 01639 686835