Cronfa Twf Tata: Hyppo Hydrogen Solutions, Prosiect Cynhyrchu Hydrogen Gwyrdd

March 12, 2026

Busnes ynni glân newydd sy’n ymrwymedig i gyflymu’r economi hydrogen ac ynni adnewyddadwy ledled De Cymru yw Hyppo Hydrogen Solutions.Mae’r cwmni’n darparu dulliau storio hydrogen, atebion pŵer o bell, a gwasanaethau cludiant arbenigol sy’n rhedeg ar hydrogen. Mae’n datblygu haen ddefnyddio’r gadwyn gwerth hydrogen, gan sicrhau bod digon o alw i gyflwyno’r achos o blaid buddsoddi mewn seilwaith hydrogen.

Dros y 12 i 18 mis diwethaf, mae Hyppo wedi rhoi systemau prototeip ar gyfer ail-lenwi â thanwydd ar waith, wedi darparu gwasanaethau cludiant sy’n rhedeg ar hydrogen ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus mawr fel Sioe Awyr Abertawe a Sioe Frenhinol Cymru, ac wedi lansio H2Bay, sef ecosystem arloesi hydrogen yn Stiwdios y Bae yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Gwnaeth y cwmni gais am gymorth o Gronfa Twf Tata i brynu a gosod electroleiddiwr hydrogen gwyrdd 175-kW, ynghyd â seilwaith cysylltiedig gan gynnwys system hidlo dŵr, ceblau pŵer a chyfathrebu, pibellwaith, gwaith mecanyddol a thrydanol a gwaith safle.

Bydd y prosiect yn H2Bay, Stiwdios y Bae, Castell-nedd Port Talbot, yn helpu i sicrhau statws y safle fel hyb ynni adnewyddadwy rhanbarthol sy’n gallu cynhyrchu hyd at 65kg o hydrogen y dydd o ddŵr glaw wedi’i gasglu – digon i gefnogi tua 2 filiwn o gilometrau o ddefnydd o geir sy’n rhedeg ar hydrogen bob blwyddyn a chyfrannu at leihad o hyd at 350 tunnell o CO₂ y flwyddyn.

Bydd y buddsoddiad yn galluogi’r cwmni i gyflenwi hydrogen gwyrdd am bris cystadleuol at ddibenion cludiant, masnacheiddio generaduron pŵer o bell a systemau hydrogen modiwlaidd yn gyflymach, a sefydlu hyb arddangos hydrogen er mwyn cefnogi gwaith ymchwil, arloesi a datblygu sgiliau ledled Castell-nedd Port Talbot.

Mae disgwyl i’r prosiect greu 11 o swyddi newydd a diogelu dwy swydd sydd eisoes yn bodoli. Mae’r cwmni hefyd yn bwriadu recriwtio cyn-weithwyr Tata Steel, yn enwedig y rhai hynny sydd â phrofiad ym meysydd trin nwy, peirianneg, systemau trydanol, logisteg a diogelwch.

“Rydyn ni'n ddiolchgar dros ben i Gyngor Castell-nedd Port Talbot am gefnogi ein cais i Gronfa Twf Tata ac i Lywodraeth y DU am y cyllid Pontio Tata. Daw'r cymorth ar adeg dyngedfennol yn ein cynlluniau ar gyfer twf. Bydd ein galluogi i osod electroleiddiwr o safon uchel yn H2Bay yn golygu y gallwn gynhyrchu hydrogen gwyrdd yn lleol, lleihau costau gweithredu, a thyfu ein gwasanaethau cludiant a phŵer o bell yn llawer cyflymach. Yn bwysig ddigon, bydd hefyd yn ein helpu i ddatblygu'r economi hydrogen yn Ne Cymru yn gyflymach.”

“This investment will also help us create high‑quality jobs for former Tata Steel workers and attract further private‑sector investment into the region. We are committed to building a cleaner, more sustainable energy future for Neath Port Talbot, and this funding plays a crucial role in making that ambition a reality.”
Chris Foxall, Prif Swyddog Gweithredol
Hyppo Hydrogen Solutions

You may also be interested in: