Mae’r Celtic Lodge, sef tafarn, bwyty a lleoliad digwyddiadau sydd wedi hen ennill ei blwyf yng Nghastell-nedd Port Talbot, wedi cwblhau rhaglen o welliannau sydd â’r nod o atgyfnerthu’r busnes a chefnogi ei ddyfodol hirdymor. Ochr yn ochr â’i wasanaethau lletygarwch o ddydd i ddydd, mae’r Celtic Lodge yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys priodasau, angladdau, a dathliadau a phartïon amrywiol. Ar ôl i drwyddedau priodas gael eu cyflwyno, mae’r lleoliad wedi parhau i ddatblygu ei arlwy ar gyfer priodasau a denu amrywiaeth ehangach o gwsmeriaid.
Fel llawer o fusnesau lleol, bu effaith sylweddol ar y Celtic Lodge yn sgil cau gwaith dur Tata. Oherwydd y lleihad mewn incwm gwario yn y gymuned leol, gwelwyd lleihad mewn niferoedd cwsmeriaid, gwariant, ac archebion digwyddiadau preifat. Profodd y lleoliad, a oedd wedi bod yn croesawu gweithwyr dur, cyflogeion y gadwyn gyflenwi a’u teuluoedd ers amser maith, leihad yn nifer ei ymwelwyr, ac roedd yn wynebu pwysau cynyddol i barhau â’i weithrediadau.
Gyda chymorth o Gronfa Gwydnwch Tata, mae’r Celtic Lodge bellach wedi cwblhau cyfres o waith uwchraddio pwysig er mwyn gwella’r profiad cwsmeriaid a chyfoethogi cyfleusterau’r lleoliad. Roedd y prosiect yn cynnwys gosod system aerdymheru newydd a gwneud gwelliannau hanfodol i’r nenfwd yn yr ystafell ddigwyddiadau, gan greu gofod mwy cyfforddus a deniadol ar gyfer priodasau, partïon, gwleddoedd angladd, cyfarfodydd a digwyddiadau cymunedol. Mae’r cyllid hefyd wedi golygu bod modd gosod system wresogi fodern newydd sy’n effeithlon o ran ynni yn lle hen foeler 48 oed, gan wella dibynadwyedd a lleihau costau rhedeg ac effaith y lleoliad ar yr amgylchedd.
Mae’r gwelliannau wedi helpu’r Celtic Lodge i gynyddu archebion, denu mwy o ymwelwyr ac atgyfnerthu ei statws fel lleoliad poblogaidd yn yr ardal leol. Hefyd, mae’r buddsoddiad wedi helpu i ddiogelu swyddi, gan roi sylfaen fwy cadarn i’r busnes dyfu yn y dyfodol a’i alluogi i barhau i wasanaethu’r gymuned ar yr un pryd.
Mae’r gwelliannau wedi helpu’r Celtic Lodge i gynyddu archebion, denu mwy o ymwelwyr ac atgyfnerthu ei statws fel lleoliad poblogaidd yn yr ardal leol. Hefyd, mae’r buddsoddiad wedi helpu i ddiogelu swyddi, gan roi sylfaen fwy cadarn i’r busnes dyfu yn y dyfodol a’i alluogi i barhau i wasanaethu’r gymuned ar yr un pryd.
This project is supported by the UK Government through the Tata Growth Fund.



