Sut y gall Cefnogaeth Busnes CNPT gyflymu eich llwyddiant: Pa gymorth sydd ar gael ar gyfer busnesau newydd?

July 8, 2024

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn deall pwysigrwydd buddsoddi mewn busnesau newydd, gyda’r nod o feithrin economi mwy dynamig, arloesol, gwyrdd a hyblyg.

Rydyn ni’n deall bod busnesau newydd yn chwarae rhan allweddol yn ein heconomi leol. Dyna pam yr ydym yn anelu i gynorthwyo busnesau drwy’r broses gyfan o gychwyn y busnes. Ar hyn o bryd, mae sawl math o gefnogaeth ar gyfer busnesau newydd a’r hunan-gyflogedig yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae hyn yn amrywio o gyllido, i ddigwyddiadau a chysylltu busnesau newydd gydag arbenigwyr busnes am gefnogaeth bellach. Yn ogystal, rydyn ni’n anelu i ddarparu cymorth a chefnogaeth i’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan Bontio Tata Steel ac sy’n bwriadu cychwyn busnes newydd neu fynd yn hunan-gyflogedig.

Dewch i Gael Cymorth, Cyngor a Chyfleoedd i Gychwyn Busnes yn Ein Digwyddiadau

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi creu partneriaeth gyda busnesau a sefydliadau lleol er mwyn darparu gwybodaeth allweddol a meithrin sgyrsiau rhwng busnesau newydd arfaethedig yn y gymuned. Dewch i ni Siarad am Fusnes: Cychwyn eich Busnes yn ddigwyddiad am ddim sy’n digwydd pob dydd Iau olaf y mis yng Nghanolfan Busnes Sandfields. Yn y digwyddiadau hyn bydd modd cael cymorth ar gynhyrchu cynlluniau busnes, yn dysgu sut i gael gafael ar gefnogaeth ariannol, yn ogystal â chyngor ar y cyfryngau cymdeithasol a brandio. Os ydych chi’n meddwl am gychwyn busnes newydd, neu yn y broses o wneud hynny, dewch i’r digwyddiad.

Yn ogystal mae ein digwyddiadau misol Dewch i ni Siarad am Fusnes yn cynnig cyfle i chi gwrdd ag amrediad eang o arbenigwyr busnes a chael cefnogaeth a chyngor busnes ar gyfer eich busnes newydd. Mae’r digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal unwaith y mis mewn gwahanol gymunedau yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae ein harbenigwyr busnes sy’n mynychu bob mis yn cynnig amrediad eang o gefnogaeth arbenigol. Dewch o hyd i gyllid a chefnogaeth grant i fusnesau newydd gan ein tîm yn ogystal â Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymru. Mae cyngor a chefnogaeth ddigidol yn cael eu cynnig gan Aspire2Be a gall PRIME Cymru helpu gydag ymholiadau ar gyflogaeth a hunan-gyflogaeth. Dewch i gwrdd â’r holl arbenigwyr busnes mewn lleoliad cyfeillgar, anffurfiol. Mae digwyddiadau Dewch i ni Siarad am Fusnes yn gyfle gwerthfawr i ennill gwybodaeth, cymorth a chyngor defnyddiol i fusnesau newydd.

I weld y digwyddiadau nesaf cliciwch fan hyn.

Grantiau Busnesau Newydd a Chyllid i Fusnesau yng Nghastell-nedd Port Talbot

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn awyddus i ddatblygu busnesau lleol er mwyn sicrhau cynaliadwyedd hir dymor. Pa gyllid sydd ar gael ar hyn o bryd?

  • Cronfa Ffyniant Gyffredin – Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn awyddus i ddatblygu busnesau lleol er mwyn sicrhau cynaliadwyedd hir dymor. Mae gwerth £2.8 miliwn o gyllid ar gael nawr ac mae’n agored i geisiadau.
  • Cronfa Adnewyddadwy Gwyrdd – Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn helpu busnesau gyda chyllid i fuddsoddi mewn technolegau gwyrdd newydd, oherwydd pryderon amgylcheddol cynyddol, i wella gweithrediadau a hygrededd busnesau. Dysgwch ragor am y Gronfa Adnewyddadwy Werdd fan hyn.

Gallai eich busnes newydd yng Nghastell-nedd Port Talbot fod yn gymwys i elwa o’n grant Cychwyn Busnes Newydd. Mae hwn yn grant o rhwng £500 a £5,000 fydd yn cael arian cyfatebol fel a ganlyn:

  • 100% o’r costau cymwys hyd at £2,000,
  • 50% o’r costau cymwys rhwng £2,000 a £5,000.

Gall busnesau newydd sydd â chostau cymwys dros £8,000 wneud cais am arian cyfatebol grant hyd at 50%.

Darllenwch ragor am y cyllid sydd ar gael fan hyn.

Cefnogaeth, Cyllid a Grantiau Ychwanegol i Fusnesau Newydd

Mae cefnogaeth arbenigol bellach ar gael yn cynnwys ymgynghoriaeth, archwiliadau effeithlonrwydd ynni, hyfforddiant ar leihau carbon, cefnogaeth ddigidol a llawer mwy. I gael gwybod am gefnogaeth arbenigol a chyllido cliciwch fan hyn.

Fel cymuned rydyn ni’n dod at ein gilydd i ymateb i’r heriau ac i’r cyfleoedd sy’n dod yn sgil Pontio Tata Steel at wneud dur yn wyrddach. Rydym wedi sefydlu Hwb Gwybodaeth ar-lein i helpu a chefnogi pobl a busnesau sy’n cael eu heffeithio gan y cynllun pontio. 

Os ydych chi’n fusnes yng nghadwyn gyflenwi Tata Steel sy’n cael ei effeithio gan Bontio Tata Steel, neu os ydych chi nawr yn bwriadu cychwyn busnes, mae cymorth ar gael. Dysgwch ragor am y gefnogaeth sydd ar gael ar Hwb Pontio Tata Steel.

Os oes gan eich busnes unrhyw swyddi gwag allai fod yn addas i’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan Gynllun Pontio Tata Steel, llenwch ein harolwg byr fan hyn.  

wave banner

You may also be interested in: