Cyllid Busnes

Cronfa gwerth £2.8m UKSPF bellach ar agor ar gyfer ceisiadau

Gall busnesau newydd a busnesau presennol nawr wneud cais am grantiau rhwng £500 a £50,000 trwy ein Grant Buddsoddi Busnes a Dechrau Busnes. Cofrestrwch nawr i ddarganfod mwy.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot o'r farn bod buddsoddi mewn egin fusnesau newydd, datblygu busnesau sydd eisoes yn bodoli a denu mewnfuddsoddwyr yn hollbwysig er mwyn cefnogi cymunedau lleol a'r economi.

Mae buddsoddi yn natblygiad busnesau lleol yn hanfodol er mwyn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor unrhyw fenter, drwy feithrin gwytnwch, gallu, cynyddu cynhyrchiant, gwella sgiliau a datblygu eu hyblygrwydd i ymateb i anghenion newidiol yr economi ehangach.

Ymhellach, mae angen buddsoddiadau sy'n lleihau effaith busnesau ar yr amgylchedd.

Gyda buddsoddiad o'r fath, mae Castell-nedd Port Talbot yn meithrin economi fwy deinamig, arloesol, gwyrddach ac amlbwrpas, gyda gweithlu medrus a hyblyg sy'n gallu gwrthsefyll yr heriau sy'n wynebu'r economi fyd-eang dros amser.

Mae grantiau dewisol rhwng £500 a £50,000 ar gael a byddant yn cael eu hystyried fesul achos.

Nod y Gronfa:
Mae'r cyllid a ddarperir o dan y rhaglen yn helpu busnesau newydd i ddechrau, darparu cyflogaeth llawn amser neu ran-amser i'r ymgeisydd ac i gefnogi busnesau presennol a buddsoddwyr mewnol gyda phrosiectau buddsoddi a fydd yn creu a/neu'n diogelu swyddi.

- Busnesau newydd yn dechrau
Gall wneud cais am grant o £500- £5,000 a fydd yn cael ei ariannu cyfatebol fel a ganlyn:
100% o'r costau cymwys hyd at £2,000
50% o'r costau cymwys rhwng £2,000 a £5,000.

Gall egin fusnesau sydd â chostau cymwys dros £8,000 wneud cais am grant a chyllid cyfatebol gwerth hyd at 50%.

- Busnesau Presennol a Buddsoddwyr Mewnol
Gall wneud cais am grantiau rhwng £500-£50,000 a fydd yn cael eu hariannu cyfatebol ar hyd at 50%.

Gwybodaeth am geisiadau:
Mae'r grant yn ddewisol a bydd pob cais yn cael ei ystyried fesul achos yn amodol ar feini prawf y grant.

Mae proses ymgeisio ar-lein dau gam:
1. Mynegi diddordeb
2. Cais

Cysylltwch â ni i drafod eich prosiect arfaethedig:

I gael gwybodaeth am sut i wneud cais am y Gronfa Adnewyddadwy Werdd, cliciwch ar y ddolen isod:

I gael gwybodaeth am sut i wneud cais am y Gronfa Blaenoriaeth i Fusnesau Lleol, cliciwch ar y ddolen isod: