Digwyddiadau Busnes

P'un a ydych chi'n ystyried cychwyn busnes neu'n fusnes sy'n bodoli eisoes, mae gennym amrywiaeth o ddigwyddiadau rydyn ni'n eu cynnal ar draws y Fwrdeistref Sirol sydd AM DDIM i'w mynychu.

Mae'r digwyddiadau'n cynnwys cymorth busnes, hyfforddiant arbenigol, cyfleoedd i rwydweithio, arddangosfeydd a chynadleddau, yn ogystal â gweithdai, fforymau sector a chyrsiau hyfforddi achrededig.

Darllenwch fwy am y digwyddiadau hyn a chofrestrwch eich lle gan ddefnyddio'r dolenni isod:

Gawn ni Siarad Busnes

Cymorth am ddim er mwyn i fusnesau ddechrau, tyfu ac arloesi.

Gadewch i ni Siarad Busnes dros baned, dan arweiniad ein Swyddogion Datblygu Busnes, mae ein digwyddiadau Let's Talk Business yn ymwneud ag archwilio'r syniadau busnes cyffrous hynny, archwilio cyfleoedd a chynlluniau i dyfu eich busnes presennol a/neu gefnogaeth ariannol. Bydd ein swyddogion medrus iawn a'n partneriaid busnes allanol wrth law i glywed am eich syniadau, cynnig cefnogaeth ac archwilio materion sydd bwysicaf i'ch busnesau. Bydd digwyddiadau Let's Talk Business yn cael eu cynnal ar draws Castell-nedd Port Talbot, edrychwn ymlaen at gwrdd â chi.

Hyfforddiant Lleihau Carbon

Mae gweithdai hyfforddi am ddim ar gael er mwyn dangos i fusnesau lleol sut y gallant ddefnyddio Adnodd Archwilio i'w helpu i ddeall:

  • Defnydd ynni;
  • Effaith eu hallyriadau ar yr amgylchedd;
  • Sut y gall mesur perfformiad amgylcheddol ac adrodd arno helpu busnesau i leihau costau ynni ac adnoddau;
  • Risgiau newid hinsawdd

Cael Hyfforddiant Lleihau Carbon yw'r cam cyntaf i fusnes. I'r rhai a fydd yn dod o hyd i fesurau lleihau carbon er mwyn lleihau defnydd a chostau, gallai cymorth grant fod ar gael (hyd at 50% o'r costau) er mwyn cyflwyno technolegau a chyfarpar newydd ac ati.

Caiff yr Archwiliad Ynni, yr Hyfforddiant Lleihau Carbon a'r cymorth grant cysylltiedig eu darparu drwy brosiect Mwy o Gymorth Busnes er Budd Twf ac Arloesi, a ariennir drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

I ddod o hyd i ddigwyddiad yn eich ardal chi a chofrestru, cliciwch isod (mae'r ddolen yn agor ffenestr newydd):