Parc Ynni Baglan

Mae Parc Ynni Baglan wedi'i leoli ychydig funudau yn unig i ffwrdd o gyffyrdd 41 a 42 yr M4, ac mae wedi dod yn un o'r prif leoliadau busnes a diwydiant yng Nghymru.

Gyda 180 erw, mae'r parc yn helpu i drawsnewid yr ardal, sicrhau dyfodol diwydiannol gwyrdd (mae wedi ennill gwobrau am ei arferion adfywio a chynaliadwyedd) a chreu miloedd o gyfleoedd gwaith. 

Mae'r parc wedi dod yn gartref i Ganolfan Hydrogen Prifysgol De Cymru, canolfan ymchwil ac arddangos hydrogen gyntaf Cymru, Canolfan Arloesi Bae Baglan ac yn fwyaf diweddar, Canolfan Dechnoleg y Bae. Mae hwn yn adeilad hybrid sy'n ynni-gadarnhaol a fydd yn darparu ystod o swyddfeydd hyblyg a gofod labordy i fusnesau newydd a busnesau brodorol, gan ganolbwyntio ar y sectorau Technoleg ac Arloesi ac Ymchwil a Datblygu. 

Mae busnesau eraill yn y parc yn cynnwys Ecolab, Intertissue, Montagne Jeunesse, RWE Renewables, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Chyngor Castell-nedd Port Talbot.