Grant Eiddo Masnachol

Mae'r Grant Eiddo Masnachol (CPG) ar gael i berchnogion safleoedd masnachol sydd am wella ymddangosiad eu hadeilad. Rhaid i ymgeiswyr fod yn rhydd-ddeiliad yr eiddo neu'n denant gyda phrydles sydd â chyfnod heb ddod i ben o leiaf 5 mlynedd o'r dyddiad y disgwylir i'r grant gael ei dalu allan. 

Mae'r CPG yn grant dewisol sy'n talu hyd at 50% o'r costau cymwys. Mae gwaith cymwys yn cynnwys yr hyn sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at wella ymddangosiad allanol yr adeilad fel y gwelir o dir y cyhoedd. Fel arfer, mae hyn yn cynnwys gwaith o flaen yr adeilad sy'n wynebu'r briffordd gyhoeddus, ond gall hefyd fod yn berthnasol i doeau, ac i ochr a chefn o eiddo os ydynt yn weledol amlwg. 

Mae'r cynllun yn blaenoriaethu ceisiadau sy'n gwella ffrynt siopau digydymdeimlad yn y stryd fawr draddodiadol ac adeiladau amlwg eraill mewn lleoliadau allweddol, yn ogystal â'r rhai sy'n cynnwys creu swyddi, trwy gychwyn busnes neu ehangu. 

Ymhlith y gwaith cymwys mae: 

  • Ffryntiadau siopau newydd 
  • Ffenestri a drysau newydd 
  • Arwyddion newydd 
  • Nwyddau dŵr glaw 
  • Paentio, rendro a sylw i waith cerrig a briciau 
  • Ystyrir bod cost y sgaffaldiau a fydd yn angenrheidiol er mwyn gwneud gwaith cymwys hefyd yn gost gymwys, yn ogystal â'r ffioedd a fydd yn gysylltiedig â chael cysyniadau statudol perthnasol a ffioedd unrhyw weithwyr proffesiynol a fydd yn ymwneud yn uniongyrchol â'r gwaith cymwys, fel penseiri a rheolwyr prosiectau.

Ymhlith y gwaith anghymwys mae: 

  • Gwaith atgyweirio a chynnal a chadw cyffredinol
  • Gwaith sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch a gofynion statudol 
  • Gwaith na fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol i wella amgylcheddol cyffredinol yr ardal 
  • Ystyrir bod costau cyfreithiol yr eir iddynt mewn perthynas â phrosiectau'r Grant Eiddo Masnachol yn anghymwys.

Am ragor o wybodaeth a chanllawiau grant, cysylltwch â Nicola Bulcraig ar 01639 686683, neu anfonwch e-bost isod: