Cefnogi Busnesau yng CNPT a'r Rhanbarth

Fis diwethaf, roedd dros 100 o bobl yn bresennol yn y digwyddiad ‘Cefnogi busnesau yng Nghastell-nedd Port Talbot a'r rhanbarth’, a gynhaliwyd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn yr Orendy ym Mharc Margam.

Roedd y digwyddiad yn gyfle i bobl glywed am brosiectau a chyfleoedd a fydd yn ardal Bae Abertawe yn y dyfodol a chael gwybodaeth am y cymorth cyllid sydd ar gael. Hefyd, roedd cyfle i gwrdd â phobl sy'n gysylltiedig â phrosiectau Bargen Ddinesig Bae Abertawe a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU a chreu llwyfan ar gyfer rhwydweithio â busnesau a phrosiectau eraill o fewn CNPT.

Cafodd prosiectau sydd wedi cael cyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU mewn amrywiaeth o sectorau eu harddangos yn ystod y digwyddiad, gan roi cyfle i'r bobl a oedd yn bresennol glywed gan rai o'r busnesau llwyddiannus sydd wedi ymsefydlu a thyfu yn yr ardal, a gweld sut mae'r cyllid wedi helpu busnesau fel eu rhai nhw.

Edrychwch ar rywfaint o luniau a fideos o'r digwyddiad er mwyn cael syniad o'r hyn sy'n digwydd yn CNPT a'r rhanbarth.

Os gwnaethoch chi golli'r digwyddiad, peidiwch â phoeni, mae help ar gael o hyd – cysylltwch â ni heddiw i ddarganfod a allech fod yn gymwys i gael cymorth ariannol.