Canolfan Fusnes Sandfields

Mae Canolfan Fusnes Sandfields yn flaenllaw o fentrau entrepreneuraidd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, gan ddarparu swyddfeydd a gweithdai i fusnesau newydd a busnesau presennol.  Prif amcan y Ganolfan yw gwneud y camau cyntaf i fyd busnes mor hawdd â phosibl.

Y Tîm Datblygu Economaidd sy'n rheoli'r Ganolfan, a chafodd ei hagor yn swyddogol ym 1998 gan wneud argraff yn gyflym wrth i nifer o fusnesau fanteisio ar y cyfleusterau. O ganlyniad i adborth mor gadarnhaol, a'r ffaith bod nifer o fusnesau ar y rhestr aros, cafodd cynlluniau eu cyflwyno a'u cymeradwyo ar gyfer ail gam yr adeilad.

Mae'r Ganolfan yn cynnig cyfanswm o 24 o swyddfeydd ac 11 o weithdai o feintiau amrywiol, ac mae'r rhenti'n dechrau o:

  • £76.50 y mis gan gynnwys TAW ar gyfer swyddfeydd
  • £165.00 y mis gan gynnwys TAW ar gyfer gweithdai

Yn ogystal, codir tâl gwasanaeth (sy'n cynnwys nwy, trydan, dŵr a chasglu sbwriel) yn seiliedig ar ddefnydd unigol. Mae'r termau'n cynnwys 'hawdd i mewn, hawdd allan' h.y. mis o rybudd gan y naill barti neu'r llall i adael y safle. Mae larwm tresmaswr yn ffitio ar bob swyddfa a gweithdy ac mae gan bob un caeadau diogelwch yn eu lle.

Ymhlith y gwasanaethau sydd ar gael yn y Ganolfan mae:

  • Cyngor busnes un i un gan weithwyr busnes proffesiynol ar y safle
  • Cyfleoedd cyllido
  • Gwasanaethau llungopïo a ffacsio
  • Cyfleusterau cynadledda
  • Lleoedd parcio ceir
  • Mynediad 24/7 i'r unedau
  • Cyfleoedd i rwydweithio â busnesau eraill yn y Ganolfan