Gwerth Cymdeithasol

Yng Nghymru, caiff pwysigrwydd gwerth cymdeithasol ei gydnabod drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru ystyried effaith hirdymor eu penderfyniadau, gweithio'n well gyda phobl, cymunedau a'i gilydd, a gweithio i atal problemau fel tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid hinsawdd.

Gellir diffinio gwerth cymdeithasol fel effaith gadarnhaol ar bobl a chymunedau lleol, yr economi leol, a'r amgylchedd y byddwn yn ei greu drwy'r ffordd y byddwn yn gwario arian cyhoeddus i brynu nwyddau a gwasanaethau.

Gall hyn fod drwy'r canlynol:

    • Buddion cymdeithasol sy'n sicrhau canlyniadau cadarnhaol i unigolion a/neu gymunedau
    • Buddion economaidd sy'n cryfhau gweithlu, diwydiant, sector a/neu'r economi
    • Buddion amgylcheddol sy'n arwain at ddiogelu neu gyfoethogi'r amgylchedd, e.e. lleihau carbon neu warchod byd natur.

    Yn sgil cyflwyno Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, mae caffael yn gwneud cyfraniad hollbwysig at sicrhau canlyniadau cynaliadwy ac mae'r Cyngor yn ymrwymedig i wreiddio gwerth cymdeithasol yn ei holl arferion a phenderfyniadau prynu. Un o'r ffyrdd allweddol y gall wneud hyn yw drwy fynd ati i wella effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach y nwyddau, gwasanaethau a gwaith y bydd yn eu caffael a'r sefydliadau y bydd yn gwneud busnes gyda nhw.

    Mae'r Cyngor yn credu y bydd y dull hwn yn ein galluogi i sicrhau enillion ar fuddsoddiad ar sail oes gyfan a sicrhau buddion i'r economi a'r amgylchedd lleol.

    Am fwy o wybodaeth, cysylltwch gydau'nRheolwr Polisi Gwerth Cymdeithasol isod: