Yr Economi Sylfaenol

Mae Llywodraeth Cymru yn diffinio'r economi sylfaenol fel rhan o'n heconomi sy'n creu ac yn dosbarthu nwyddau a gwasanaeth yr ydym yn dibynnu arnynt ar gyfer bywyd bob dydd, mae'r sectorau hyn yn hanfodol i'r economi leol ac yn darparu cyflogaeth hanfodol.

Amcangyfrifir bod yr Economi Sylfaenol yn cyfrif am bedair o bob deg swydd yng Nghymru ac yn £1 am o leiaf bob £3 sy'n cael ei wario ac yn bwysig, mae'r cyfoeth y mae'n ei gynhyrchu yn aros yn y gymuned leol. Mae busnesau sy'n gweithredu yn yr economi sylfaenol yn ddarparwyr cyfoeth hanfodol lle mae cyfleoedd gwaith yn gyfyngedig a thrafnidiaeth yn broblem sylweddol.

Ymhlith yr enghreifftiau o'r economi sylfaenol mae:

    • Gwasanaethau gofal ac iechyd
    • Bwyd
    • Tai
    • Ynni
    • Adeiladu
    • Adeiladu
    • Manwerthwyr y stryd fawr

    Mae prif weithgarwch economaidd Castell-nedd Port Talbot wedi'i leoli ar hyd Coridor yr M4 i raddau helaeth. Mae llai o gyfleoedd busnes a swyddi yn ein pum cwm er gwaethaf potensial cymunedau ac asedau naturiol yr ardal, a chaiff hyn ei ddwysáu gan gysylltiadau trafnidiaeth gwael ar y cyfan rhwng y prif drefi a'r arfordir. Gall busnesau'r economi sylfaenol helpu i wrthdroi amodau cyflogaeth gwael, cadw arian mewn cymunedau lleol a mynd i'r afael â phroblemau amgylcheddol drwy atgyfnerthu cadwyni cyflenwi lleol.

    Mae tîm Datblygu Economaidd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ceisio cefnogi ein busnesau yn yr economi sylfaenol drwy wneud y canlynol:

      • Cefnogi cynaliadwyedd a datblygiad busnesau llawr gwlad sy'n darparu gwasanaethau lleol i bobl leol
      • Cefnogi cyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy lleol yng nghymunedau'r cymoedd drwy gynnig cyfleoedd pwysig i ymuno â'r farchnad lafur
      • Cynnig cyfleoedd i annog a datblygu mentrau cymdeithasol
      • Manteisio i'r eithaf ar botensial canol ein trefi a chymunedau ein cymoedd
      • Helpu i greu egin fusnesau newydd
      • Datblygu cadwyni cyflenwi lleol
      • Annog a chefnogi gweithgareddau yn yr economi gylchol

      Mae cydweithio a gweithio mewn partneriaeth yn allweddol wrth gefnogi'r economi leol ac mae'r tîm Datblygu Economaidd yn rhoi pwyslais ar weithio mewn partneriaeth. Dyma rai yn unig o'r sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw i gefnogi ein heconomi sylfaenol leol:

      I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwn gefnogi eich busnes neu os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio mewn partneriaeth â'r tîm Datblygu Economaidd cysylltwch â:
      Savannah Sharpe, Swyddog Economi Sylfaenol a Chylchol
      Ffôn: 01639 686043