Cynllun Buddsoddi rhanbarthol ar gyfer rhanbarth De Orllewin Cymru
Prosiect angor grant ffyniant Cymoedd a Phentrefi CPT
CartrefProsiect angor grant ffyniant y Cymoedd a phentrefi
Beth yw’r Prosiect Angor Grant Ffyniant Cymoedd a Phentrefi?
Byddwn ni’n ariannu prosiectau sy’n creu twf cynaliadwy mewn cymunedau yn ein cymoedd a’n pentrefi, ac yn eu gwella fel mannau i ymweld â nhw, gweithio a byw ynddynt. Bydd prosiectau’n cynnwys cymunedau lleol wrth ddatblygu’r cynigion – gan flaenoriaethu cerdded, seiclo a thrafnidiaeth gyhoeddus; creu strydoedd a pharthau cyhoeddus a ddiffiniwyd yn glir, sy’n ddiogel a chroesawgar; a hybu cymysgedd gynaliadwy o lecynnau er mwyn adfywio calon y cymunedau hyn – ac ar yr un pryd yn parchu’u nodweddion a’u hunaniaeth unigryw bob un.
Beth yw pwrpas y cyllid?
Yr egwyddor y tu ôl i’r VVPG yw’r her barhaus o ddarparu cyllid i gymunedau ein cymoedd a’n pentrefi yma yn CPT. Ar hyn o bryd, prin iawn yw’r ddaprariaeth o ran arian ar gyfer peroseictau yn ardaloedd y cymoedd a’r pentrefi dna y Rhaglen Trawsnewid Trefi sy’n bodoli, am fod cyfyngiadau ar gymhwysedd, o ran lleoliad daearyddol, o fewn prif ardaloedd busnes chwe thref yn unig.
Beth yw gwerth y prosiect ac a fydd arian grant ar gael?
Cafodd £2 filiwn o gyfanswm ein cyfran o arian UKSPF ei glustnodi ar gyfer cronfa VVPG. Bydd y gronfa hon yn agored ar gyfer ceisiadau gan ystod eang o sefydliadau: awdurdodau lleol, cynghorau tref a chymuned ac ardaloedd busnes, busnesau sector preifat a landlordiaid, grwpiau trydydd sector a grwpiau cymunedol, os derbynnid cais gan sefydliadu y tu allan i’r categorïau hyn, asesir y prosiect ar ei ragoriaethau.
Ble bydd yr arian grant yn cael ei dargedu?
Bydd cymhwysiant ar gyfer arian VVPG yn gymharol hyblyg o ran lleoliad daearyddol o fewn CPT ac o ran math o weithgarwch. Ond, yn ogystal â rhoi blaenoriaeth i brosiectau yn y cymoedd a’r pentrefi, byddwn ni hefyd yn rhoi blaenoriaeth i geisiadau ar gyfer y gweithgareddau canlynol:
- Gwelliannau grant eiddo masnachol: er mwyn gwella blaenau adeiladau, ynghyd ag uwchraddio arwynebedd llawr masnachol gwag i ddod â hwnnw’n ôl i gael ei ddefnyddio’n fuddiol i fusnes.
- Addasu i unedau preswyl: Addasu arwynebedd llawr gwag ar loriau uwch eiddo masnachol yn llety preswyl newydd.
- Darparu isadeiledd gwyrdd: Cynnwys isadeiledd carbon-isel neu garbon-sero a / neu lecynnau glas.
- Gwella’r parth cyhoeddus: Darparu gwelliannau ar raddfa fechan i’r parth cyhoeddus ble ceir effaith cymdeithasol ac economaidd y gellir ei ddangos
- Caffaeliadau strategol ar raddfa fechan: Cwblhau casglu tir ar gyfer cynigion strategol mwy o faint e.e. dymchwel i ddarparu mwy o gysylltedd neu i ddarparu llecynnau glas, cyfleusterau cyhoeddus neu welliant i’r parth cyhoeddus
- Datblygu isadeiledd marchnad canol trefi: Caffael stondinau masnachu, stondinau a llwyfannau af ati, a gosod cyflenwadau trydan allanol
- Defnydd yn y cyfamser ynghanol trefi: sefydlu busnesau yn y cyfamser dros dro neu ‘bop-yp’ mewn mangreoedd gwag presennol
- Cynlluniau gwella blaenau siopau: Gwella blaenau siopau heb fod angen gwneud unrhyw amnewid neu ailddatblygu mewnol
- Darparu eitemau cyfalaf i hybu ymhellach agenda Trefi Digidol: Cefnogi dadansoddeg Wi-Fi a rhwydweithiau LoRaWAN
- Darpariaeth neu welliant i gynlluniau Teithio Llesol: Hwyluso llwybrau teithio llesol pan na ellir ariannu hyn drwy ddulliau eraill
- Darparu neu wella cyfleusterau hamdden cyhoeddus: darparu cyfleusterau chwarae awyr agored, ardaloedd gemau aml-ddefnydd a gweithgareddau hamdden awyr agored.
Sut fydd yr arian yn cael ei wario?
Byddwn ni’n dyfarnu grantiau VVPG hyd at uchafswm o £250,000, ar gyfradd ymyrraeth o uchafswm o 70% o gostau (ac eithrio darpar gaffaeliadau strategol). Bydd terfyn uchaf ar ddyfarniadau grant unedau preswyl ar uchafswm o £20,000 ar gyfer uned dwy ystafell wely a £15,000 ar gyfer uned un ystafell wely.
Costau prosiect a fydd yn gymwys i dderbyn arian grant yw:
- Costau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â darparu’r prosiect
- Cyngor proffesiynol (e.e. pensaernïaeth, syrfêo, rheoli prosiect ac ati)
- TAW – ble nad yw’r ymgeisydd wedi cofrestru ar gyfer TAW
- Ffioedd statudol (Rheoliadau Adeiladu).