CartrefProsiect angori lle CNPT
Beth yw'r Prosiect Angor Lle?
Mae Prosiect Angor Lle yn un o bum Prosiect Angor sy’n ffurfio rhan o ddarpariaeth CBSCPT o’n clustnodiad o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF). Nod y prosiect hwn yw cryfhau deunydd cymunedol ein cymunedau ac annog ymdeimlad o falchder lleol a pherthyn drwy fuddsoddi.
Mae’r Prosiect Angor Lle yn cynnwys pedwar llinyn:
- Ymgyrch Farchnata Lle: Codi proffil Castell-nedd Port Talbot fel cyrchfan amgen i ymwelwyr gydol y flwyddyn, a cheisio newid canfyddiadau am CPT fel lle i ymweld ag ef, byw a gweithio ynddo.
- Cronfa Treftadaeth, Diwylliant, Twristiaeth a Digwyddiadau: Hwyluso darparu blaenoriaethau treftadaeth, diwylliant a thwristiaeth a amlinellwyd yng Nghynllun Corfforaethol 2022-2027 Cyngor Castell-nedd Port Talbot, ‘Adfer, Ailosod, Adfywio’, a gweithio gyda grwpiau gweithio sydd â diddordeb ac sy’n rhannu’r un cyfeiriad.
- Uwch-gynllun Glan Môr Aberafan: Darparu fframwaith strategol y gellir seilio penderfyniadau buddsoddi’r dyfodol arnynt ac amlygu cyfleoedd i ddatblygu
- Unedau Diwydiannol yn y Cymoedd: Rheoli adeiladu 14 uned fusnes newydd mewn 3 lleoliad a benodwyd.
Mae’r prosiect yn eang ei rychwant, felly ceir crynodeb byr o bob llinyn a grybwyllir uchod islaw, gan fanylu ar nodau, gweithgarwch a gynlluniwyd ac allbynnau a ragwelir.
Bydd pob un o’r pedwar llinyn yn effeithio’n gadarnhaol ar flaenoriaethau strategol CPT sef creu swyddi, gwella iechyd a llesiant, balchder mewn lle, a thwf economaidd.
Beth yw gwerth y prosiect ac a fydd arian grant ar gael?
Cafodd £6.4 miliwn o gyfanswm ein clustnodiad o’r UKSPF ei neilltuo ar gyfer Prosiect Angor Lle, a bydd yn cael ei wario fel a ganlyn:
Ymgyrch Farchnata Lle: £250,000
Cronfa Treftadaeth, Diwylliant, Twristiaeth a Digwyddiadau: £2,500,000
Uwch-gynllun Glan Môr Aberafan: £50,000
Unedau Diwydiannol yn y Cymoedd: £3,600,000
Ymgyrch Farchnata Lle (PMC)
Beth yw pwrpas yr ymgyrch hwn?
Nod Ymgyrch Farchnata Lle Castell-nedd Port Talbot fydd denu ymwelwyr ychwanegol i’n hardal i fwynhau’r ehangder o weithgareddau, treftadaeth a phrofiadau diwylliannol a gynigir yma. Yn ychwanegol, bydd yr ymgyrch hwn yn canolbwyntio ar wella’r ymdeimlad o falchder lleol a newid canfyddiadau am CPT fel lle i ymweld ag ef, i fyw a gweithio ynddo. Ac er ei bod hi’n naturiol tybio mai prif ffocws ein hymgyrch fydd ar gynyddu cyfraniad economaidd twristiaeth, bydd hefyd yn gweithredu fel cyfrwng i hybu CPT i ddarpar fuddsoddwyr ar draws sectorau diwydiannol eraill.
Sut y darperir yr ymgyrch hwn?
Bydd dwy elfen wahanol i’r ymgyrch:
- Ymgyrch farchnata cyrchfan i gynyddu niferoedd yr arosiadau dros nos a wneir yn y rhanbarth ac annog twf yr economi ymwelwyr. Byddwn ni’n targedu gweithgarwch i gyfeiriad ein marchnadoedd daearyddol allweddol yn y DU – coridor yr M4 i Lundain, De Orllewin Lloegr, Canolbarth Lloegr, a’r tu mewn i Gymru.
- Ymgyrch farchnata ‘Balchder mewn Lle’ yn canolbwyntio ar newid canfyddiadau am Gastell-nedd Port Talbot ymysg preswylwyr lleol, ynghyd â phreswylwyr a buddsoddwyr ar draws rhanbarth ehangach de Cymru.
Bydd pob agwedd o’r ymgyrch yn cyfathrebu brandio lle Castell-nedd Port Talbot a ddatblygwyd yn 2020, mewn partneriaeth â rhanddeiliaid lleol. Bu i ni greu’r brandio hwn er mwyn herio a newid canfyddiadau am Gastell-nedd Port Talbot. Yn greiddiol i stori ein brand yw bod Castell-nedd Port Talbot yn ‘Ddramatig i’w graidd’ – lle o wrthgyferbyniad eithafol, ble ceir harddwch naturiol law yn law â gwaith llaw dyn, a rhanbarth a leolir ynghanol de Cymru, gan uno dwyrain a gorllewin.
Cronfa Treftadaeth, Diwylliant, Twristiaeth a Digwyddiadau (TDTD)
Beth yw pwrpas y cyllid?
Mae treftadaeth, diwylliant a thwristiaeth yn yrwyr pwysig ar gyfer y rhanbarth o ran cyfraniad cyflogaeth i’r economi. Ymhellach, mae buddsoddi yn ein treftadaeth a’n diwylliant yn creu argraff gadarnhaol o gwmpas blaenoriaethau allweddol eraill yn yr ardal hefyd, fel gwella llesiant a chydlyniant cymdeithasol, taclo ynysrwydd a hwyluso mynediad i wasanaethau.
Bydd yr TDTD yn hygyrch i bartneriaid sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, i ariannu prosiectau blaenoriaeth ym maes treftadaeth, diwylliant a thwristiaeth sy’n dangos eu bod yn unol â Strategaeth Ddiwylliannol y Cyngor, Cynllun Rheoli Cyrchfan Castell-nedd Port Talbot a Strategaeth Treftadaeth y cyngor.
Ble fydd yr arian yn cael ei dargedu?
Bydd y rhai sy'n ymwneud â datblygu neu wella ein hasedau treftadaeth a diwylliannol yn gymwys i wneud cais am arian - boed hynny'n bartneriaid yn y sector cyhoeddus, yn drefnwyr digwyddiadau, busnesau, sefydliadau gwirfoddol neu grwpiau cymunedol.
Gallai'r gweithgareddau fyddai'n cael eu hystyried yn flaenoriaeth i gyllid gynnwys:
- Ymgymryd â gwaith adfer, cadwraeth a chaffael strwythurau rhestredig a hanesyddol bwysig.
- Uwchraddio hygyrchedd safleoedd i alluogi i fwy o breswylwyr ac ymwelwyr ymwneud â threftadaeth a diwylliant CPT.
- Gwella a dehongli safleoedd o ddiddordeb treftadaeth a diwylliant er mwyn datblygu mwy o ddealltwriaeth ac apêl
- Cynorthwyo sefydliadau gwirfoddol a’r trydydd sector i hybu cyfranogiad mewn gweithgareddau treftadaeth a diwylliant lleol ac i sicrhau gwytnwch grwpiau i’r dyfodol
- Cefnogi darparu gwelliannau isadeiledd ar lawr gwlad a fydd yn cryfhau cynnig twristiaeth CPT ac yn ymestyn sawl ymwelydd fydd yn aros dros nos yn yr ardal
- Marchnata safleoedd, atyniadau neu gynnyrch penodol a fydd yn cynyddu ymwybyddiaeth o dreftadaeth a diwylliant ac amgylchedd naturiol CPT i breswylwyr lleol
- Cwblhau astudiaethau dichonolrwydd i sefydlu’r achos busnes ar gyfer darparu buddsoddiadau neu fentrau penodol sy’n unol â’n strategaethau treftadaeth, diwylliant a thwristiaeth
- Datblygu llwybrau cerdded dwyieithog wedi’u dehongli, sy’n cefnogi’r ddealltwriaeth ehangach o’r dirwedd a’i dylanwad ar dreftadaeth a diwylliant yrhanbarth
- Digwyddiadau bach a mawr sy’n tynnu sylw at arwyddocâd a natur unigryw treftadaeth a diwylliant o fewn Castell-nedd Port Talbot.
Sut fydd yr arian yn cael ei wario?
Clustnodwyd cyllideb o £2.5 miliwn ar gyfer y llinyn prosiect hwn a rhagwelwn y bydd 3 llif ariannu’n cael eu hagor:
- Treftadaeth, Diwylliant a Thwristiaeth – Ymyriadau Strategol: yn cynnig hyd at 100% o arian cyfalaf i bartneriaid sector cyhoeddus (gan gynnwys CBSCPT) i ddarparu prosiectau cyfalaf sy’n flaenoriaeth, hyd at uchafswm o £250,000
- Treftadaeth, Diwylliant a Thwristiaeth – Ymyriadau ar raddfa fach: yn cynnig hyd at 100% o arian cyfalaf a / neu arian refeniw i grwpiau sector cyhoeddus a thrydydd sector â chyfansoddiad, hyd at uchafswm o £150,000
- Digwyddiadau Treftadaeth a Diwylliannol: yn cynnig arian refeniw rhwng 45% (sector preifat) a 100% (sector cyhoeddus a gwirfoddol) o wariant cymwys, hyd at uchafswm o £10,000, sy’n ymwneud â marchnata, offer a chyfranogiad cymunedol mewn digwyddiadau cymunedol a strategol bwysig yn y sir.
Uwch-gynllun Glan Môr Aberafan (ASM)
Sut y cwblheir yr uwch-gynllun hwn?
Ers 2001, mae’r Cyngor wedi bod yn ymgymryd â rhaglen eang o Adfywio’r Glan Môr. Gwariwyd dros £22 miliwn ar wella’r Glan Môr ac uwchraddio cyfleusterau cyhoeddus, gyda thros £8 miliwn o’r arian hwn yn dod o ffynonellau allanol a buddsoddi preifat. Ymysg y gwelliannau mae Aqua Splash, ardaloedd chwarae i blant, cwrs golff antur a chanolfan hamdden a ffitrwydd, a’r cyfan hyn wedi cyfrannu at gynnydd ym mhoblogrwydd yr ardal glan môr ymysg ymwelwyr a phreswylwyr lleol fel ei gilydd. Serch hynny, mae rhyw gymaint o ofid fod yr agwedd a gymerwyd at yr ailddatblygiad wedi bod ychydig yn ddarniog, a bod angen strategaeth glir, hirdymor, ar gyfer buddsoddi a datblygu i’r dyfodol. Bydd yr ASM yn rhoi fframwaith strategol i ni y gellir seilio penderfyniadau buddsoddi’r dyfodol arnynt, ac i amlygu cyfleoedd datblygu.
Sut y cwblheir yr uwch-gynllun hwn?
Rydym ni’n gobeithio caffael gwasanaeth cwmni ymgynghori i gynhyrchu’r ASM, i’w oruchwylio gan ein Tîm Adfywio, gyda chefnogaeth y Tîm Cyfreithiol a Chaffael. Bydd y strategaeth sy’n deillio o hyn yn darparu llwy ar gyfer buddsoddi a datblygu Glan Môr Aberafan i’r dyfodol, ac a fydd wedi ystyried y blaenoriaethau allweddol canlynol:
- Denu mwy o fuddsoddiad yn sector y cynnig i ymwelwyr a chreu swyddi.
- Cynnig mwy o gyfleoedd masnachol (a chreu swyddi)
- Cynyddu niferoedd a gwariant ymwelwyr
- Sicrhau busnesau a swyddi sy’n bodoli eisoes
- Gwella cydlyniant a llesiant cymunedol
- Sicrhau dyfodol hirdymor glan y môr fel ased i CPG, i’w fwynhau gan ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd.
Beth yw’r allbwn arfaethedig?
Rydym wedi gosod yr allbwn canlynol i’w gyflawni erbyn diwedd y prosiect (Mawrth 2025):
- Cwblhau astudiaeth ddichonolrwydd lawn fydd yn manylu ar gyfeiriad buddsoddi a datblygu Glan Môr Aberafan i’r dyfodol.
Unedau Diwydiannol y Cymoedd (VIU)
Beth yw pwrpas y llinyn prosiect hwn?
Darperir y llinyn prosiect hwn i fynd i’r afael â’r diffyg sylweddol mewn cartrefi masnachol addas yn ein rhanbarth, ac yn benodol yn lleol i’n hardaloedd mewn cymoedd. Mae’r rhanbarth, i raddau helaeth, yn ddibynnol ar fusnesau cychwynnol, busnesau micro a busnesau bach, a rhwystr mawr i ymestyn y rhan yw cael lle addas i weithio ohonynt.
Mae’r Cyngor yn berchen ar ac yn rheoli stoc o unedau diwydiannol sy’n amrywio o ran maint o’r rai sy’n addas ar gyfer busnesau bach sy’n cychwyn i unedau masnachol mawr sy’n gartref i fusnesau lleol allweddol, dros 11 parc busnes ac ystâd ddiwydiannol wahanol ledled Castell-nedd Port Talbot. Serch hynny, mae ein hunedau bron 100% yn llawn, ac mae rhestr aros ar gael ar gyfer pob ystâd ddiwydiannol.
Sut fydd y llinyn prosiect hwn yn cael ei ddarparu?
Er mwyn ateb y galw hwn, byddwn ni’n adeiladu 8 uned newydd a fydd tua 1,000 troedfedd sgwâr fesul pob uned ar bob un o’r ystadau diwydiannol yng Nglyncorrwg a Chwm-gors, a 6 uned newydd ar yr ystâd ddiwydiannol yn Nant y Cafn, ble ceir isadeiledd yn barod, ond nad yw wedi’i ddatblygu hyd yn hyn. Dewiswyd y tri safle hyn yn y cymoedd naill ai am eu bod eisoes yn ystadau diwydiannol, neu bod yr isadeiledd yno’n barod, ac felly gellir darparu’r unedau cyn dyddiad cau cyflenwi’r prosiect ym mis Mawrth 2025.
Targedir yr unedau hyn at rai sydd ar drothwy dechrau busnes newydd, neu fusnesau sydd ar eu prifiant cynnar. Bydd creu lle i fusnesau ar gyfer busnesau dechreuol a busnesau brodorol yn annog arallgyfeirio a thwf yr economi yng nghymunedau’r cymoedd (yn arbennig yn yr economi seiliol). Bydd hyn yn arwain at fwy o gyfleoedd am swyddi, mwy o weithgarwch economaidd a gwella Gwerth Gros a Ychwanegir (sef gwerth y nwyddau a’r gwasanaethau a gynhyrchir, llai costau’r holl fewnbynnau sy’n ymwneud â’u cynhyrchu). Bydd y llinyn prosiect hwn hefyd yn helpu i wneud Castell-nedd Port Talbot yn lle mwy deniadol i fuddsoddi a chynnal busnes ynddo.
Beth yw’r allbynnau arfaethedig?
Rydym wedi gosod yr allbynnau hyn i’w cyflawni erbyn diwedd y prosiect (Mawrth 2025):
- 0.65 erw o dir wedi’i ddatblygu (2630m sgwâr)
- 14 uned wedi’u creu, cyfanswm o 14,000 troedfedd sgwâr(1300m sgwâr)
- 14 SME wedi’u cartrefu
- 56 swydd wedi’u cartrefu
- Cynnydd mewn Gwerth Gros a Ychwanegir gan £1,120,000
- Incwm rhent blynyddol i’r awdurdod o £60,000.