Hoffai Cyngor Castell-nedd Port Talbot wahodd ceisiadau am gyllid o’i Gronfa Blaenoriaeth i Fusnesau Lleol 2 gan fod cyllid cyfalaf a refeniw newydd ar gael drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Mae’r Gronfa’n bwriadu rhoi cyllid i brosiectau yng Nghastell-nedd Port Talbot sy’n mynd i’r afael â blaenoriaethau lleol dybryd drwy helpu busnesau lleol i wneud y canlynol:
1. Amrywiaethu a thyfu.
2. Cyflwyno cynhyrchion neu brosesau arloesol.
3. Ymuno â marchnadoedd newydd.
4. Meithrin gallu a galluogrwydd.
5. Gwella stoc eiddo.
Mae Cyngor CNPT o’r farn bod buddsoddi mewn datblygu busnesau lleol yn hanfodol er mwyn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor; meithrin gallu; cynyddu cynhyrchiant, gwella sgiliau a datblygu eu hyblygrwydd i ymateb i anghenion newidiol yr economi ehangach.
Gyda buddsoddiad o’r fath, bydd Castell-nedd Port Talbot yn datblygu economi fwy cydnerth, arloesol ac amlbwrpas, gyda gweithlu medrus a hyblyg sy’n gallu gwrthsefyll yr heriau sy’n wynebu’r economi fyd-eang dros amser.
Y Cyllid sydd ar Gael
Yr isafswm dyfarniad grant: Hyd at 70% o gostau, heb fod yn is na £25,000.
Yr uchafswm dyfarniad grant: Hyd at 70% o gostau, heb fod yn fwy na £100,000.
Rhaid i unrhyw brosiect a gaiff gyllid o’r Gronfa gael ei gyflawni o fewn Castell-nedd Port Talbot.
Rhoddir pob dyfarniad grant yn ôl disgresiwn a chaiff ceisiadau eu hystyried fesul achos.
Gweithgareddau Cymwys
Twf:
• Grantiau refeniw a chyfalaf er mwyn helpu busnesau lleol i dyfu a datblygu cynlluniau twf a/neu amrywiaethu clir ar gyfer y dyfodol.
• Prosiectau sy’n dangos y caiff swyddi eu creu a/neu eu diogelu o ganlyniad uniongyrchol i’r buddsoddiad.
Arloesi:
• Cyllid ar gyfer buddsoddiad cyfalaf a refeniw mewn prosiectau sy’n gweithredu yn y sector Ymchwil, Datblygu ac Arloesi ac sydd â chynlluniau cyflawni masnachol clir.
• Cyllid ar gyfer prosiectau sy’n dangos arloesedd o ran prosesau/cynhyrchion/gwasanaethau/technoleg.
Meithrin Gallu/Galluogrwydd Cwmnïau:
• Prosiectau gan fusnesau lleol sy’n annog yr economi leol i amrywiaethu drwy helpu cwmnïau i ymuno â marchnadoedd/diwydiannau newydd neu ymestyn eu harlwy presennol.
• Prosiectau sy’n helpu i ddatblygu cadwyni cyflenwi sy’n gysylltiedig â chyflawni prosiectau rhanbarthol allweddol a/neu gyfrannu at allu sectorau allweddol sy’n tyfu neu’n datblygu, fel Ynni Gwynt Arnofiol ar y Môr, TGCh/Meddalwedd, Gweithgynhyrchu, Peirianneg ac Ynni Adnewyddadwy neu weithgareddau Carbon Isel.
Eiddo:
• Prosiectau sy’n mynd i’r afael â phrinder safleoedd masnachol a safon y safleoedd sydd ar gael, h.y. rhoddir blaenoriaeth i brosiectau sy’n cefnogi twf sectorau allweddol sy’n tyfu fel y rhai a restrir uchod, a’r rhai sy’n cefnogi’r cysyniad o ganol trefi defnydd cymysg er mwyn diwallu anghenion lleol.
I weld y canllawiau grant, cliciwch ar y botwm isod:
I ofyn am ffurflen gais, e-bostiwch business@npt.gov.uk
| Dydd Mercher 2 Ebrill 2025 |
Dyddiad cau ar gyfer Datganiadau o Ddiddordeb
| Dydd Mawrth 15 Ebrill 2025 |
Dyddiad cau ar gyfer Ceisiadau Llawn
| Dydd Llun 21 Ebrill 2025 |
Asesu Ceisiadau
| 22 – 6 Mai 2025
|
Panel Cyllido (penderfyniadau wedi’u gwneud)
| 7 – 9 Mai 2025 |
Cyfnod dosbarthu | 12 Mai 2025 – 31 Ionawr 2026 (8.5 mis) |