Cynllun Buddsoddi rhanbarthol ar gyfer rhanbarth De Orllewin Cymru

Cefnogaeth Fusnes ar gyfer Twf ac Arloesi

Beth yw pwrpas y cyllid hwn?

Mae Prosiect Uwch-gefnogaeth Busnes ar gyfer Twf ac Arloesi yn un o bum Prosiect Angor sy’n ffurfio rhan o ddarpariaeth CBSCPT o’n dyraniad o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF). Bydd y prosiect hwn yn adeiladu ar raglenni cefnogi busnes presennol ac yn ymblethu â nhw drwy ateb bylchau a amlygwyd mewn darpariaeth, ac ar yr un pryd yn cynnal hyblygrwydd i ymateb yn sydyn ac addas i anghenion busnesau yn yr hinsawdd economaidd heriol bresennol.

Yn ein barn ni, er mwyn lleihau anghydraddoldeb rhwng cymunedau, y blaenoriaethau cyllid ddylai fod:

  • Datblygu porth i gefnogaeth fusnes a gydlynir yn dda
  • Adeiladu gwytnwch hirdymor yn yr economi leol drwy gefnogi busnesau sy’n dechrau a busnesau sy’n bodoli yn yr un modd
  • Cefnogi cynaliadwyedd ein cymunedau yn y cymoedd drwy gychwyn a datblygu busnesau yn yr economi seiliol a busnesau cymdeithasol i greu cyflogaeth yn lleol
  • Datblygu a chefnogi diwylliant o arloesi o fewn SMEau lleol
  • Ymateb i newid hinsawdd drwy ddarparu cefnogaeth i liniaru’i effeithiau
  • Gwneud y gorau o fanteision i fusnesau lleol ar gorn datblygiadau a / neu fuddsoddiadau o bwys, e.e. Canolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd, y cais am Borthladd Rhydd Celtaidd, cyflwyno Gwynt Sy’n Arnofio Oddi Ar yr Arfordir (FLOW) yn y Môr Celtaidd, Cyrchfan Wildfox Cwm Afan
  • Gwneud y fawr o werth punt Castell-nedd Port Talbot drwy gynyddu gallu SMEau lleol i sicrhau cytundebau sector cyhoeddus
  • Datblygu partneriaethau cryfach gyda busnes a rhwng busnesau i hwyluso rhwydweithio, rhannu arfer dda, cysylltu â marchnadoedd newydd ac amlygu gofidiau sy’n gyffredin ac ati.

Ble fydd yr arian yn cael ei dargedu?

Bydd y cyllid yn sicrhau y gallwn adeiladu ar ein rhaglenni cefnogi busnes presennol drwy ateb bylchau a amlygwyd yn y ddarpariaeth. Bydd cefnogaeth ar gael i bob busnes yng Nghastell-nedd Port Talbot, gyda ffocws penodol ar y sectorau allweddol isod:

  • Adeiladu
  • Creadigol a’r Cyfryngau
  • Ynni / Amgylcheddol / Adnewyddadwy
  • Peirianneg
  • TGCh
  • Gweithgynhyrchu
  • Manwerthu
  • Gwasanaethau
  • Twristiaeth, Lletygarwch a Hamdden..

Targedir gweithgarwch ychwanegol at fusnesau yn y sectoraugweithgynhyrchu a pheirianneg a’r rheiny sy’n gweithredu yn yr hyn a elwir yn 'economi seiliol' (busnesau sy’n darparu nwyddau a gwasanaethau hanfodol i gefnogi bywyd beunyddiol).

Mae busnesau gweithgynhyrchu a pheirianneg yn parhau i fod yn rhan sylweddol o’r economi leol, gan gyfrif am 25% o holl allbwn CNPT o’i gymharu â 17% ar draws Cymru a 10% ar draws y DU. Ystyrir y sectorau hyn yn yrwyr allweddol o ran twf economaidd ac arallgyfeirio, yn seiliedig ar dechnolegau newydd a thechnolegau ar eu prifiant.

Bydd busnesau yn yr economi seiliol yn darparu’r nwyddau a’r gwasanaethau y mae pawb yn y gymuned yn dibynnu arnyn nhw. Yn eu plith mae busnesau yn sectorau iechyd a gofal, cynhyrchu bwyd, tai, ynni, adeiladu, twristiaeth a manwerthu. Yn aml, dyma asgwrn cefn yr economi leol, gan ddarparu cyflogaeth ac incwm y mae mawr alw amdano gan lawer o aelwydydd yn y cymunedau mwyaf difreintiedig. Awgryma amcangyfrifon fod yr economi seiliol yn gyfrifol am ryw 40% o swyddi yng Nghymru, ac £1 o bob £3 sy’n cael eu gwario. Mae’n debygol y bydd y gwasgfeydd a deimlir gan bob busnes o ganlyniad i bandemig Covid-19 a’r argyfwng costau byw presennol yn debygol o gael ei deimlo’n llymach gan y rheiny yn yr economi seiliol.

Yn ddaearyddol, bydd y cyllid yn targedu busnesau mewn dwy ardal benodol o weithgarwch economaidd. Y cyntaf yw’r ardal ar hyd coridor yr M4 gan gynnwys ardaloedd trefol Port Talbot a Chastell-nedd. Mae’r ardal hon yn cynnwys sawl parc busnes ac ystâd ddiwydiannol, safleoedd cyflogi allweddol fel Tata Steel a datblygiadau diweddar o bwys fel Campws y Bae Prifysgol Abertawe a Chanolfan Dechnoleg y Bae.

Canolir yr ail ardal ar gymoedd Afan, Dulais, Nedd, Tawe ac Aman. Ceir rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig CPT yn y cymoedd hyn, a dyma’r ardaloedd a effeithiwyd waethaf gan ddad-ddiwydiannu ar ôl i ddiwydiant glo’r rhanbarth ddymchwel. Mae llawer yn parhau i fod dan anfantais oherwydd diffyg cyfleoedd i gael cyflogaeth yn lleol ac isadeiledd trafnidiaeth a gwasanaethau gwael. Mae busnesau yn yr economi seiliol yn hanfodol i ffyniant yr ardaloedd hyn o ganlyniad.

 

Sut fydd yr arian yn cael ei wario?

Cafodd £2 filiwn o gyfanswm ein cyfran o arian UKSPF ei glustnodi ar gyfer cronfa VVPG. Bydd y gronfa hon yn agored ar gyfer ceisiadau gan ystod eang o sefydliadau: awdurdodau lleol, cynghorau tref a chymuned ac ardaloedd busnes, busnesau sector preifat a landlordiaid, grwpiau trydydd sector a grwpiau cymunedol, os derbynnid cais gan sefydliadu y tu allan i’r categorïau hyn, asesir y prosiect ar ei ragoriaethau.

Ble bydd yr arian grant yn cael ei dargedu?

  • Cefnogi twf brodorol mewn sectorau allweddol
  • Cefnogi’r economi seiliol
  • Darparu cefnogaeth ariannol ac arbenigol
  • Ymgymryd ag astudiaethau dichonolrwydd
  • Datblygu a gweithredu polisïau gwerth cymdeithasol..

Cynllunnir gweithgarwch fel a ganlyn:

  • Cronfa grant – Bydd grantiau o rhwng £500 a £50,000 ar gael ar gyfer prosiectau buddsoddi cyfalaf a refeniw fel ei gilydd, ar gyfer busnesau newydd sy’n dechrau, busnesau sy’n bodoli eisoes a buddsoddwyr am i mewn.
  • Cefnogi arloesi a thwf mewn sectorau allweddol – Bydd modd i fusnesau fanteisio ar wasanaeth diagnostig arbenigol, a fydd yn eu helpu i amlygu’r camau y mae angen iddynt eu cymryd i gyflawni’u potensial ar gyfer tyfu.
  • Cefnogi’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid – Bydd gweithgarwch yn canolbwyntio ar dynnu sylw myfyrwyr at yr opsiwn o fynd i fusnes drostynt eu hunain, gan amlygu CPT fel lleoliad ble gellid sefydlu busnes, a’r gefnogaeth fyddai ar gael.
  • Asesiad cadwyn gyflenwi leol ar gyfer Gwynt Sy’n Arnofio oddi ar yr Arfordir (FLOW) – mae datblygu technoleg gwynt yn cyflwyno cyfle trawsnewidiol i greu diwydiant gweithgynhyrchu newydd yn CPT. Bydd y gwaith hwn yn archwilio’r ddarpar gadwyn gyflenwi leol ar gyfer FLOW.
  • Cam 2 Hybiau Twf Glân – Gwneir asesiad o gyfleoedd datblygu masnachol cael cyfleusterau storio carbon pellach, yn ogystal â’r rhai a amlygwyd ym Margam a Glan yr Harbwr yn ystod Cam 1.
  • Lleoli strategol – Bydd gwaith yn cael ei gwblhau i gynhyrchu a chasglu tystiolaeth am leoli strategol CPT a’r cynnig economaidd posib, fel dull o arddangos yr ardal i fuddsoddwyr, ac o gefnogi ceisiadau ariannu i’r dyfodol.
  • Proffilio arloesi a chyfleodd economaidd – Astudiaeth sgopio o gyfleoedd presennol ac i’r dyfodol yn CPT i ddenu buddsoddiad am i mewn o’r tu fas i’r awdurdod, a hwyluso datblygu ac ymestyn busnesau lleol.
  • Cefnogaeth arbenigol - Darparu blwch offer o gefnogaeth i ateb anghenion penodol busnesau a/neu sectorau. Bydd gweithgarwch yn cynnwys:
    • Archwiliadau effeithiolrwydd ynni ac adnoddau carbon isel
    • Fforymau busnes
    • Fforymau busnes
    • Archwiliadau technoleg ddigidol
    • Cefnogaeth ym maes datblygu busnesau cymdeithasol
    • Datblygu polisi gwerth cymdeithasol
    • Gweithdai – a drefnir yn ôl sector neu bwnc busnes
    • Digwyddiadau – bwtcamps picio o mewn, clybiau menter, sesiynau cwrdd â’r prynwr
    • Datblygu cadwyn ddatblygu leol.

 

Deilliannau tybiedig

Dangosyddion Allbwn

  • Nifer o fentrau sy’n derbyn grantiau
  • Nifer o fentrau sy’n derbyn cefnogaeth anariannol
  • Nifer o ddarpar entrepreneuriaid a gynorthwywyd i fod yn barod ar gyfer menter

 

Dangosyddion Allbwn

  • Swyddi a grëwyd o ganlyniad i gefnogaeth
  • Swyddi a ddiogelwyd o ganlyniad i gefnogaeth
  • Nifer o fentrau newydd a grëwyd o ganlyniad i gefnogaeth